Rhestr termau seneddol

Mynegai A-Y o dermau

Defnyddiwch y llythrennau isod i weld rhestr o dermau

Termau R

Term

Refferendwm

Proses a ddefnyddir i ofyn i’r etholwyr bleidleisio ar gwestiwn penodol. Sefydlwyd Senedd Cymru yn dilyn pleidlais o blaid hynny mewn refferendwm a gynhaliwyd fis Medi 1997. Ym mis Mawrth 2011, cynhaliwyd refferendwm ar bwerau deddfu. Pleidleisiodd pobl Cymru o blaid rhoi pwerau deddfu ychwanegol i’r Senedd gyda 63.5% o blaid y newid.

Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024

Chwilio am y term hwn

Term

Rheol 21 diwrnod

Os na chaiff offeryn statudol sy’n ddarostyngedig i’r weithdrefn annilysu (neu’r weithdrefn negyddol os y’i gosodwyd cyn mis Ionawr 2026) a wnaed gan Weinidogion Cymru ei osod gerbron y Senedd o leiaf 21 diwrnod cyn i'r offeryn statudol ddod i rym (h.y. cael effaith), rhaid i Lywodraeth Cymru roi gwybod i'r Llywydd ac esbonio pam. Gelwir hyn yn “rheol 21 diwrnod”.

Mae rhagor o wybodaeth yma am y newidiadau mewn perthynas ag offerynnau statudol a ddaeth i rym o 1 Ionawr 2026.

Gweler: Is-ddeddfwriaeth sy'n torri'r "rheol 21 diwrnod"

Diweddarwyd Ddiwethaf 08/01/2026

Is-ddeddfwriaeth

Chwilio am y term hwn

Term

Rheolau Sefydlog

Dyma’r rheolau ysgrifenedig sy’n llywodraethu trafodion y Senedd. Maent yn amlinellu sut y dylai’r Aelodau ymddwyn, sut y caiff Biliau eu prosesu a sut y caiff dadleuon eu trefnu.

Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024

Ymddygiad, Rheolau a Chanllawiau

Chwilio am y term hwn