Rydym am glywed eich barn am Senedd TV. Cymerwch ran yn ein harolwg byr i’n helpu i wella’r gwasanaeth.
Rhestr termau seneddol
Mynegai A-Y o dermau
Defnyddiwch y llythrennau isod i weld rhestr o dermau
Termau FF
Term
Fformwla Barnett
Fformwla a ddefnyddir i addasu’r symiau o arian cyhoeddus a gaiff y gweinyddiaethau datganoledig yn yr Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon pan fydd Llywodraeth y DU yn adolygu ei chynlluniau gwariant ar wasanaethau cymharol.
Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024
Term
Fframwaith Cyllidol Llywodraeth Cymru
Dyma gytundeb rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, yn ymwneud â threfniadau cyllido Llywodraeth Cymru, a gafodd ei daro ym mis Rhagfyr 2016. Mae'r cytundeb hwn yn rhoi’r pwerau sydd i’w gweld yn Neddf Cymru 2014 ar waith. Mae'n ategu’r broses o ddatganoli treth dir y dreth stamp a’r dreth dirlenwi, a’r broses o greu Cyfraddau Treth Incwm Cymru. Mae hefyd yn darparu pwerau benthyca cyfalaf i Lywodraeth Cymru.
Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024