5 Rheswm i Ymweld â'r Senedd y Penwythnos Hwn

Cyhoeddwyd 22/09/2017   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 22/09/2017

Ydych chi’n chwilio am rywbeth i’w wneud y penwythnos hwn? Beth am fynd i Fae Caerdydd i ymweld â'r Senedd? Dyma'r penwythnos olaf i weld y Pabis: Weeping Window, a fydd yn gadael Caerdydd ar 24 Medi. Ewch am dro i’r Bae y penwythnos hwn a chanfod pum rheswm i ymweld â'r Senedd.

1. Pabis: Weeping Window

Mae Pabis: Weeping Window wedi bod yn dipyn o atyniad yn ystod yr haf ym Mae Caerdydd, gan ddenu miloedd o ymwelwyr ers i'r arddangosfa ddechrau ar 8 Awst. Mae'r gwaith, a luniwyd gan yr artist Paul Cummins a'r dylunydd Tom Piper, yn cael ei gyflwyno gan 14-18 NOW, rhaglen gelfyddydol y DU i nodi Canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf. Y Senedd yw'r unig ran o Daith y Pabïau lle gallwch weld y cerflunwaith o'r tu mewn a'r tu allan, ac mae arddangosfa wych yn y Senedd ei hun i ddysgu mwy amdano. Gellir gweld y pabïau tan ddydd Sul ac yna byddant yn symud i Amgueddfa Ulster, Belfast.

2.  Menywod, Rhyfel a Heddwch

Mae'r arddangosfa hon yn trafod effaith rhyfel ar fenywod ledled y byd yn y can mlynedd ers y Rhyfel Byd Cyntaf. Mae'n gydweithrediad rhwng y ffotograffydd newyddiadurol enwog, Lee Karen Stow, a phrosiect Cymru dros Heddwch. Mae'n cynnwys gwaith tua 300 o wirfoddolwyr o bob cwr o Gymru sydd, yn ystod y ddwy flynedd diwethaf, wedi bod yn ymchwilio i gwestiwn craidd prosiect Cymru dros Heddwch: “Yn y can mlynedd ers y Rhyfel Byd Cyntaf, sut mae Cymru wedi cyfrannu at y broses o geisio sicrhau heddwch?”

3. Arddangosfa Flynyddol Clwb Camera Caerdydd

Cynhelir arddangosfa flynyddol Clwb Camera Caerdydd yn adeilad y Pierhead tan 27 Medi, ac mae dawn y ffotograffwyr amatur lleol yn werth ei gweld. Mae'n cynnwys amrywiaeth eang o brintiau o leoedd lleol, cenedlaethol a rhyngwladol, ac mae llawer ohonynt wedi bod yn llwyddiannus mewn cystadlaethau, salonau ac arddangosfeydd. Dylai'r arddangosfa fod o ddiddordeb i bawb sy'n ymweld â Bae Caerdydd, a gobeithio y byddant yn ysbrydoli eraill i ddefnyddio'u camerâu fwy fyth yn y cyfnod hwn o ffotograffiaeth ddigidol.

4. Cymerwch ran yn Nhaith y Senedd

Ydych chi’n chwilio am weithgareddau hwyliog i blant i fwynhau'r penwythnos hwn? Beth am roi cyfle iddyn nhw ennill gwobr? Chwiliwch drwy'r Senedd am gliwiau –  a dysgwch lawer o ffeithiau diddorol am yr adeilad a'r Cynulliad Cenedlaethol ar y daith! Casglwch gerdyn ar gyfer y daith o'r gornel Celf a Chrefft, ac ar ôl ei lenwi ewch ag ef i'r Dderbynfa.

5. Mwynhewch goffi a chacen yng nghaffi'r Senedd

Coffi yn y SeneddAr ôl diwrnod o archwilio'r Bae does dim yn well na choffi a chacen yng nghaffi'r Senedd. Mae digon o bopeth at eich dant a golygfeydd hardd o'r Bae drwy ffenestri'r Senedd. Y drws nesaf i'r caffi mae siop y Senedd, sy'n cynnwys detholiad o'r cynnyrch gorau o Gymru. Yn ystod yr arddangosfa Pabïau: Y Ffenestr Wylofus, mae gennym eitemau arbennig sy'n gysylltiedig â'r cerflunwaith i chi eu prynu i gofio am eich ymweliad.​ Nid oes tâl i fynd i mewn i'r Senedd a gallwch gael rhagor o wybodaeth i gynllunio'ch penwythnos yma. Ewch i'r Senedd y penwythnos hwn i ddysgu mwy am gartref Cynulliad Cenedlaethol Cymru.