Adeilad y Senedd yw un o dri atyniad gorau Caerdydd.

Cyhoeddwyd 03/02/2015   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 03/02/2015

Ydych chi’n byw yng Nghymru ac yn dal heb ymweld â’r Senedd? Mae Hannah Bower, aelod o’r tîm Cyswllt Cyntaf, yn esbonio pam y dylech wneud hynny … Cafodd adeilad y Senedd ei enwi’n ddiweddar yn un o’r tri pheth gorau i’w wneud yng Nghaerdydd, yn ôl bobl leol, a hynny oherwydd y llu o weithgareddau sydd ar gael i bobl o bob oed waeth beth yw eu diddordebau. O wleidyddiaeth i bensaernïaeth, o fyd celf i eitemau gan grefftwyr o Gymru, mae rhywbeth at ddant pawb yn y Senedd. Dewch draw i gael golwg Yn sicr, y ffordd orau o ddechrau’r ymweliad â’r Senedd yw drwy fynd ar daith o amgylch yr adeilad. Cewch eich arwain gan dywyswyr cyfeillgar a gwybodus ar daith drwy hanes yr ardal gyfagos, pensaernïaeth yr adeilad a ddyluniwyd gan Richard Rogers, a’r broses wleidyddol sy’n mynd rhagddi yma. Gan fod ganddynt wybodaeth arbenigol, gall y tywyswyr ateb gofynion pobl sydd â diddordebau gwahanol a grwpiau o bob maint. Yn well na dim, mae’r teithiau i gyd am ddim. Os ydych yn chwilio am luniaeth ar ôl eich taith, cewch baned a chacen yng nghaffi’r Senedd. Yno, mae golygfeydd godidog o’r bae i’w gweld ym mhob tymor. Gwyliwch y cychod yn hwylio ar y dŵr, y bwrlwm ym Mermaid Quay a mwynhewch bensaernïaeth arloesol yr adeilad ei hun.   Senedd     Ar ôl gorffen eich paned, ewch i chwilio am gynhyrchion lleol, cofroddion ac anrhegion yn siop y Senedd. Beth am chwisgi Cymreig, cynhyrchion Melin Tregwynt ac eitemau â brand y Senedd i gofio am eich ymweliad. Ar ddydd Mawrth a dydd Mercher, gallwch ddod i draw i wylio’r cyfan yn digwydd. Mae’r Cyfarfod Llawn yn dechrau am 13:30 gyda Chwestiynau i’r Prif Weinidog bob dydd Mawrth yn ystod wythnosau busnes. Gwyliwch y ddrama’n datblygu yn y Siambr wrth i’r Aelodau drafod a chreu deddfau i Gymru. Os yw’n well gennych awyrgylch mwy agos-atoch, caiff cyfarfodydd pwyllgor eu cynnal drwy gydol yr wythnos ac mae modd eu gwylio o’r orielau cyhoeddus. Yn ystod eich ymweliad â’r Senedd, cofiwch fanteisio ar y cyfle i ymweld â’r Pierhead drws nesaf. Mae pensaernïaeth gothig Fictorianaidd yn cyferbynnu’n wych ag adeilad y Senedd. Cwblhawyd yr adeilad coch nodedig ym 1897 a chaiff ei ddefnyddio’n awr fel canolfan arddangos a gaiff ei rhedeg gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru, ac mae hefyd ar agor i’r cyhoedd. Senedd2 Gwyliwch ffilm fer yn y brif neuadd yn dangos hanes Caerdydd drwy’r oesoedd. Ewch i weld hen swyddfa Meistr y Doc i ddysgu am hanes yr adeilad cyn cerdded drwy Oriel y Dyfodol lle mae arddangosfeydd dros dro i’w gweld, Dewch i weld Adeiladu Pontydd – Yma i Wrando, sef arddangosfa gan Barnados, yr elusen plant, sydd i’w weld ar hyn o bryd. Cymryd rhan Mae’r Senedd hefyd yn lle ysbrydoledig i gynnal digwyddiadau ac arddangosfeydd. Ar hyn o bryd mae arddangosfa ffotograffiaeth o’r enw Glaswellt Gwyrdd, Gwyrdd o Gartref' i’w weld i fyny’r grisiau yn yr Oriel, ac mae’r digwyddiadau arfaethedig yn cynnwys perfformiad gan Gôr Meibion Pontarddulais ar 24 Chwefror. Gallech drefnu’ch digwyddiad eich hun hyd yn oed. Seneddoriel Os ydych yn gobeithio dysgu am ddiwylliant Cymru o’i gorffennol diwydiannol i’w dyfodol gwleidyddol blaengar, nid oes unman gwell nag adeilad y Senedd ym Mae Caerdydd.