Agoriad Swyddogol y Chweched Senedd: Eich Llais

Cyhoeddwyd 14/10/2021   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/10/2021   |   Amser darllen munudau

Mae pobl Cymru yn greiddiol i’r hyn a wnawn.

Mae’r Agoriad Swyddogol yn dathlu nid yn unig y Senedd ond hefyd y cymunedau amrywiol ledled Cymru sy’n cael eu cynrychioli rhwng ein muriau ni.


Y thema a ddewiswyd ar gyfer yr Agoriad Swyddogol yw ‘eich llais’, a hynny er mwyn rhoi cymunedau Cymru wrth galon y digwyddiad a gwaith y Chweched Senedd. Mae sefydliadau sy’n cynnwys Hijinx, Tân Cerdd, Llenyddiaeth Cymru, Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru ac Opera Ieuenctid Cenedlaethol Cymru wedi creu perfformiadau arbennig ar gyfer yr Agoriad Swyddogol, gan gyfleu’r thema 'eich llais' trwy gyfrwng cerddoriaeth, dawns, cân a chelf.


Dewiswyd y gwaith celf a’r perfformiadau am eu bod yn tynnu sylw at bwysigrwydd lleisiau pobl o ran llywio’r broses ddemocrataidd ac yn cynrychioli eu gobeithion a’u dyheadau ar gyfer y Chweched Senedd.

Gallwch ddysgu mwy am bob un yma.

 

Zillah Bowes - ‘Gwawr’/‘Dawn’

Mae’r artist a’r ffotograffydd Zillah wedi creu fideo byr o ffotograffau o bobl amrywiol o gymunedau trefol, maestrefol a gwledig ledled Cymru wedi’u tynnu ar doriad gwawr. Dewiswyd thema'r wawr fel symbol cryf o ddechreuad rhywbeth newydd – yn yr achos hwn, Senedd newydd yn ogystal â dyfodol Cymru ar ôl y pandemig. Mae’r gwaith yn cynrychioli pobl amrywiol o wahanol oedrannau, cefndiroedd a rhanbarthau, gan dynnu sylw at ba mor bwysig yw cynnwys lleisiau pawb yn y broses ddemocrataidd.

Opera Ieuenctid Cenedlaethol Cymru

Mae perfformiadau 'eich llais' Opera Ieuenctid Opera Cenedlaethol Cymru (WNO) yn dathlu Cymru fel Gwlad y Gân ac fel cenedl sy'n meithrin creadigrwydd gyda phawb yn ein cymdeithas ac ar eu cyfer.

Mae grwpiau Opera Ieuenctid WNO yn ne Cymru (tua 50 o bobl ifanc rhwng 10 a 18 oed) wedi recordio trefniant arbennig o'r gân werin Ar Lan y Môr yn y Gymraeg a’r Saesneg. Bydd cyfeiliant i’r perfformiad gan biano ac ensemble o Gerddorfa WNO.

Roedd y grwpiau yn ymarfer yn eu sesiynau wythnosol rheolaidd ar Zoom, a daethant i Ganolfan y Mileniwm ar gyfer penwythnos o ymarfer a recordio - y tro cyntaf i'r grwpiau ddod at ei gilydd wyneb yn wyneb ers dros flwyddyn.

Tân Cerdd

Sefydliad dielw yw Tân Cerdd a sefydlwyd yn sgil protestiadau Mae Bywydau Du o Bwys i godi proffil lleisiau
pobl ddu yng Nghymru. Perfformiwyd cân o’r enw ‘Ymuno’ a gyfansoddwyd yn arbennig ar gyfer yr Agoriad Swyddogol. Wedi'i gyfansoddi gan Eadyth a Lily Beau, mae’r gân hefyd yn cynnwys lleisiau nifer o artistiaid du amlwg o Gymru, sef Aleighcia Scott, Skunkadelic (Afrocluster), Vanity Jay (Baby Queens), Dionne Bennett a SZSW. Mae'n sôn am obaith ar gyfer y dyfodol a sut mae pob llais yn gryfach gyda'i gilydd.

Hijinx

Cydweithredodd Cwmni Theatr Hijinx â Chanolfan Gelfyddydau Pontio a’r artist llawrydd Sarah Mumford ar gyfer eu perfformiadau. Mae Sarah yn artist llawrydd ym maes symud a theatr gorfforol yng ngogledd Cymru, ac mae wedi gweithio ym maes dawns a theatr gymunedol, addysgol a phroffesiynol ers dros 20 mlynedd.

Mae eu perfformiad digidol wedi dod ag artistiaid ac unigolion o bob rhan o Gymru ynghyd, i greu ymateb ar y cyd i’r thema ‘eich llais’ sy’n cofleidio’r cymunedau cyfoethog ac amrywiol yng Nghymru, gan ddathlu’n tirlun, ein hanes a’n diwylliant.

Mae'r perfformiad yn rhoi cipolwg i'r gwyliwr ar y gwahanol dirweddau yng Nghymru, yn wledig ac yn drefol, a’r hyn y mae’r mannau hynny yn ei olygu i bobl.

Nod Hijinx yw arloesi, cynhyrchu a hyrwyddo cyfleoedd i actorion ag anableddau dysgu a/neu awtistiaeth greu cynyrchiadau rhagorol.

Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru

Ar gyfer Agoriad Swyddogol y Chweched Senedd, mae Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru wedi cynhyrchu pedair ffilm, wedi'u recordio yn y Senedd. Gan weithio gyda Llenyddiaeth Cymru, mae beirdd ac artistiaid dawns wedi gallu dod ynghyd yn yr un lle am y tro cyntaf ers y pandemig.

Gan archwilio themâu sy’n amrywio o iaith a pherthyn, i gynaliadwyedd, mamolaeth ac anabledd, mae'r ffilmiau hyn yn tynnu sylw at wythïen gyfoethog o leisiau, straeon a phrofiadau o’r Gymru gyfoes.

Mae 'Good Things to Come', gan Krystal Lowe, yr artist dawns a chyfarwyddwr artistig Kokoro Arts, ac Alex Wharton, bardd arobryn Rising Stars Cymru, yn edrych ar thema cynaliadwyedd amgylcheddol. Gan roi llais i’r brys o ran yr angen i ni ofalu am dirweddau naturiol Cymru, mae'r ffilm hon yn cofleidio’r gwyliwr mewn ennyd o dawelwch ac yn ein hannog i werthfawrogi'r byd rydym yn byw ynddo.

Crëwyd 'Spell for a New Beginning' gan Iestyn James, sef artist dawns newydd, a Taylor Edmonds, bardd ac un o sylfaenwyr Where I’m Coming From, sef sefydliad sy'n rhoi llwyfan i awduron sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yng Nghymru. Gan edrych ar y berthynas rhwng yr hunan, y teulu, y gymdeithas a'r byd naturiol, mae'r ffilm hon yn dathlu gwytnwch ac egni bodau dynol trwy gyfrwng delweddau trawiadol a barddoniaeth sy’n hoelio’ch sylw.

Mae'r pedair ffilm yn dod â straeon perthnasol am fywyd yn y Gymru fodern i'r amlwg, yn rhoi sylw i amrywiaeth eang o leisiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol, ac yn arddangos creadigrwydd ac egni syfrdanol artistiaid o Gymru ac artistiaid sy’n byw yng Nghymru.

Ein Llais

Mae ‘Ein Llais’ yn gerdd a gomisiynwyd yn benodol ar gyfer yr Agoriad Swyddogol, a dyma benllanw prosiect mewn partneriaeth â Llenyddiaeth Cymru.

Ymwelodd beirdd ag ysgolion cynradd ledled Cymru, gan weithio gyda’r plant i greu cerdd ddwyieithog sy’n darlunio’r hyn y mae Cymru yn ei olygu iddynt. Mae’n cyfleu eu dyheadau a’u gobeithion ar gyfer y dyfodol, gan ein hatgoffa mai ‘diben ein lleisiau unigryw yw i gael eu clywed’.

Cyflwynwyd y gweithdai mewn ysgolion gan Anni Llŷn, Eloise Williams, Gruffudd Owen a Taylor Edmonds. Gruffudd Owen, Bardd Plant Cymru, a guradodd y gerdd derfynol.

 

Ein Llais

Mae gennym ni sawl enw:
We have several names:

‘Criw’r Gromlech’,
‘The Ponty Panthers’,
‘Dawnswyr Afon Dyfi’,
‘The Gwent Giants’,
‘Mellt Maenclochog’,
‘The Cardiff Mixing Pot’
a ‘Brain Bendigedig Betws Gwerfyl Goch’.

We are the musty smell of rooms,
of damp wood and rotting leaves.
Ni yw cri’r gwylanod a chyffro’r Wal Goch.
We are ‘un teulu mawr’;
ac ni yw sŵn y tractors yn suo fel gwenyn yn caeau gwaith.
Wildlife, pondlife,
Ni yw’r adeiladau newydd a’r pocedi gweigon;
mossy slimy rocks and information boards.
Ni yw’r rhai sy’n hapus ac yn drist.
We are made of iron, of meandering rivers
ac ni yw waliau Senedd Glyndŵr,

foxes, badgers, owls, woodpeckers
ac ni yw’r Gwmrâg sy’n ein gludo at ein gilydd fel mêl gwyllt.
We are the tasty, scrumptious crumbly Welsh cakes.
Ni yw’r cychod sy’n ein cario i’r ynysoedd nesaf.
We are fast readers,
weird singers, friendly dancers;
ni yw’r cerrig mân a’r creigiau moel,
and we pride ourselves on kindness.

And we know what it is to feel ‘hiraeth’
Ac rydan ni’n gwybod fod ’na bobol yng Nghymru yn llwgu,
And we know what it’s like to have mixed emotions,
fod capeli yn arogli fel hen lyfrau,
a dillad neiniau a fferins a gweddïau.
When I speak Welsh, I can taste my tongue;
bod hiliaeth yn staen ar y galon.
Our mountains stand ragged and rocky;
bod Cymreictod yn brofiad sur-felys fel blas mwyar duon ar dafod.
We speak Arabic, Tamil, Urdu, Afrikaans,
ac mai bara brith yw bara’r nefoedd
am ei fod o’n arogli’n dywyll ac yn dyner fel tŷ Mam-gu;
Welsh, English, Turkish, Telegu, Somali;
a bod yno’m y ddawn i fod yn genedl.


A’r cyfan rydym ni eisiau,
and all we want,
yw bod yn ffrind i wledydd eraill;
to keep the air clean so we can breathe;
a llai o dywod rhwng ein brechdanau;
a trampoline in the chimney so we can reach the clouds
a bod neb yn trashio parciau plant yfory;
for our girls to have the same opportunities as our boys;
ac rydym ni’n mynnu
yr hawl i gael byw yn ein cymunedau;
robot butlers and the Welsh flag on the moon!
Rydym eisiau gwyrddni, ag awyr iach
ac arogl dom!
Our unique voices were made to be heard.
Rydym ni moyn cymryd pleser yn ein gwaith,
yn gwmws fel y gwna Mam-gu
wrth iddi weithio tartren rhiwbob.

We want to set an example for the rest of the world.

 

Eich Llais

Rydym yn eich cynrychioli chi. Felly os oes rhywbeth rydych yn teimlo'n angerddol yn ei gylch, neu os oes newid yr hoffech ei weld yng Nghymru, mae yna nifer o ffyrdd y gallwch leisio'ch barn yn y Senedd:

Fe allech chi greu deiseb newydd neu lofnodi deiseb rhywun arall. Rhagor o wybodaeth am ddeisebau’r Senedd.

Gallwch helpu un o bwyllgorau’r Senedd gydag ymchwiliad. Rhagor o wybodaeth am weithio gyda phwyllgor.

Gallwch gysylltu ag un o’ch Aelodau o’r Senedd am y mater. Mae gan bawb yng Nghymru bum Aelod etholedig. Darganfyddwch pwy sy'n eich cynrychioli chi.