Angen mwy o gysondeb a thryloywder - Busnesau Cymru'n rhoi eu barn ynghylch Ardrethi Busnes yng Nghymru

Cyhoeddwyd 18/10/2016   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 18/10/2016

Mae Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau'n treulio llawer o amser yn siarad â phobl yn y byd busnes yng Nghymru. Ardrethi busnes yw un o'r materion sy'n codi ei ben yn aml gan ennyn ymateb cryf. Roedd hefyd yn rhywbeth a gododd yn gyson yn ein hymgynghoriad yn ystod yr haf wrth inni ofyn i bobl pa waith y dylai'r Pwyllgor ei flaenoriaethu. Am y rheswm hwnnw, penderfynodd y Pwyllgor gynnal sesiwn undydd cynnar yn edrych ar ardrethi busnes yng Nghymru. Cynhaliwyd y sesiwn ar 5 Hydref, ychydig ddyddiau ar ôl cyhoeddi manylion ailbrisio ardrethi busnes yng Nghymru.

Brecwast Busnes i glywed sylwadau pobl o bob cwr o Gymru

50committeepic Gwahoddodd y Pwyllgor drawstoriad o gynrychiolwyr busnes am frecwast yn y Byd Cychod ym Mae Caerdydd ddydd Mercher i glywed eu barn ar y pwnc. I sicrhau ein bod yn cael y darlun llawn gan fusnesau ledled Cymru, gwnaethom ffilmio cyfweliadau â busnesau ledled y wlad, er mwyn dangos fideo byr i'r sawl oedd yn bresennol, gan grynhoi rhai o'r materion allweddol i ysgogi trafodaeth. [youtube https://www.youtube.com/watch?v=8d5q-NaaeeQ] Trafododd y busnesau yr anawsterau iddynt eu profi, gan awgrymu ffyrdd o wella'r system ar gyfer busnesau bach a chanolig. Dyma rai o'r materion a godwyd yn y fideo:
Byddai wedi bod o gymorth pe byddem wedi cael mymryn o seibiant, yn enwedig yn ystod y chwe mis pan nad oeddem yn masnachu. Nid oedd unrhyw arian yn dod i mewn, dim ond arian yn cael ei wario a ninnau'n dal i dalu ardrethi busnes... Katia Fatiadou, Quantum Coffee Roasters Cyf, Bae Caerdydd
Pan rydym yn talu ardrethi busnes, nid ydym yn cael unrhyw beth yn ôl...felly mae ardrethi busnes yn gost i'r busnesau heb gael unrhyw beth yn ôl o gwbl. Robert Griffiths, Ruggers Carpets, Merthyr Tudful
Byddai polisi ardrethi busnes llwyddiannus yn cael ei seilio ar gyfrifiad o broffidioldeb cwmni yn hytrach na gwerth ardrethadwy'r eiddo y maent yn gweithio ynddo ar hyn o bryd neu'r lleoliad y maent yn dymuno symud i mewn iddo. Joshua Weaver, We are Promotional Products, Y Trallwng
Yn ystod y digwyddiad, y pynciau trafod mwyaf oedd sut mae ardrethi'n cael eu cyfrifo; yr hyn y caiff yr arian ei wario arno; p'un a oes modd gostwng ardrethi i hyrwyddo datblygiad economaidd, a sut y gellid gwneud hynny; materion yn ymwneud yn benodol â chost buddsoddi mewn cyfarpar (e.e. trwy ddiwydiannau mawr fel gwaith dur); gwrthdaro rhwng y stryd fawr a siopau y tu allan i'r dref; a sut y dylai bythynnod gwyliau gael eu hasesu. Beth ddigwyddodd ar ôl y sesiwn frecwast? Yn ddiweddarach y bore hwnnw, cynhaliodd y pwyllgor gyfarfod ffurfiol yn y Senedd, gan gymryd tystiolaeth yn gyntaf gan banel o arbenigwyr, ac yna gan Mark Drakeford, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, sy'n gyfrifol am ardrethi busnes yng Nghymru. Roedd y sesiwn, sydd ar gael i'w gwylio ar Senedd.tv yn pwysleisio'r angen am fwy o gysondeb a thryloywder mewn ardrethi busnes, ynghyd â system apelio well, ac eglurder ynghylch unrhyw newidiadau a allai godi yn y dyfodol. Yn ystod y sesiwn i graffu ar waith y Gweinidog, cyfeiriodd yr Aelodau sawl gwaith at yr hyn iddynt ei glywed gan fusnesau dros frecwast ac yn y cyfweliadau fideo. Y camau nesaf Yn y sesiwn frecwast, mynegodd rhai o'r cyfranogwyr fod ganddynt ragor o wybodaeth yr hoffent ei rannu â'r pwyllgor. Maent wedi cael gwahoddiad i fynegi hynny'n ysgrifenedig. Ar ôl i'r Pwyllgor ystyried unrhyw wybodaeth ychwanegol, bydd yn trafod ei gasgliadau, ac yna'n ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid gydag argymhellion ar gyfer gwella'r drefn bresennol. Cadwch mewn cysylltiad Aelodau'r Pwyllgor yr Econoi, Seilwaith a Sgiliau Sefydlwyd y Pwyllgor i ddwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif ar faterion fel datblygu economaidd; trafnidiaeth; seilwaith; cyflogaeth; sgiliau; ac ymchwil a datblygu, gan gynnwys technoleg a gwyddoniaeth. Cewch y wybodaeth ddiweddaraf am waith y Pwyllgor drwy ein dilyn ni ar Twitter @SeneddESS.