Cyhoeddwyd 17/01/2017
  |   Diweddarwyd Ddiwethaf 17/01/2017
Mae ffigurau gan Age Cymru yn dangos bod 75,000 o bobl hŷn yng Nghymru yn teimlo unigrwydd neu unigedd. Dywedodd bron i hanner y rhai a holwyd mai eu set deledu neu eu hanifail anwes oedd eu prif gwmni.
Mae
Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon y Cynulliad Cenedlaethol wedi dechrau ymchwiliad i edrych ar sut y mae’r broblem hon yn effeithio ar bobl hŷn yng Nghymru. Bydd yn edrych ar ba gymorth sydd ar gael i bobl hŷn a beth arall y gellir ei wneud i fynd i'r afael â'r broblem. Bydd y Pwyllgor hefyd yn edrych i ba raddau y gall mentrau a sefydlwyd i fynd i'r afael ag unigrwydd ac unigedd ymhlith grwpiau eraill hefyd helpu pobl hŷn.
Mae tystiolaeth i awgrymu y gall unigrwydd ac unigedd gael effaith sylweddol ar iechyd corfforol a meddyliol, a gall achosi iselder, problemau cysgu, straen, a hyd yn oed problemau gyda'r galon.
Felly mae'n bosibl y gallai atal unigrwydd ac unigedd leihau'r galw a’r pwysau ar wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol.
Nid yw unigrwydd ac unigedd yn golygu’r un peth - mae modd profi'r naill heb y llall. Gall person deimlo unigrwydd mewn ystafell orlawn, ac unigedd mewn cymuned wledig neu hyd yn oed i'r gwrthwyneb.
Mae
Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol eisoes wedi cydnabod bod y broblem o unigrwydd ac unigedd yn fater iechyd y cyhoedd pwysig, tra bod
Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru wedi gwneud mynd i'r afael â'r broblem yn flaenoriaeth.
Mae gan Lywodraeth Cymru eisoes gyfres o ddangosyddion i wirio ei chynnydd o ran cyflawni ei 'nodau lles' ac un ohonynt yw monitro 'canran y bobl sy'n unig'.
Bydd y Pwyllgor yn edrych ar y pwnc cymhleth hwn a'r ystod eang o wasanaethau a all effeithio arno fel iechyd, gofal cymdeithasol a gwasanaethau cymunedol, trafnidiaeth a hyd yn oed mynediad i'r rhyngrwyd.
Dywedodd
Dr Dai Lloyd AC, Cadeirydd y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon:
"Gall unigrwydd ac unigedd effeithio ar unrhyw un, boed yn gyflogedig neu wedi ymddeol, yn byw mewn tref, dinas neu gefn gwlad.
Rydym eisoes yn gwybod bod y problemau’n effeithio ar nifer fawr o bobl hŷn. Gallai mynd i'r afael â'r broblem helpu unigolion i deimlo'n well a gallai hefyd olygu llai o alw ar ein gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol.
Os ydych chi neu rywun yr ydych yn ei adnabod yn cael, neu wedi cael ei effeithio gan broblemau unigrwydd neu unigedd, neu os ydych yn ymwneud â gwaith i'w cefnogi, hoffem glywed am eich profiadau ac am y syniadau rydych chi’n credu a allai helpu."
Os hoffech gyfrannu at yr ymchwiliad, gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth, gan gynnwys sut i wneud hynny, ar
dudalennau’r Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon ar wefan y Cynulliad Cenedlaethol.
Bydd y Pwyllgor yn cynnal sesiwn Facebook Fyw ar 25/01 am 17.20 i siarad mwy am yr ymchwiliad a gwahodd pobl i gymryd rhan.
Gallwch hefyd gael y wybodaeth ddiweddaraf am yr hyn y mae'r Pwyllgor yn ei wneud drwy ei gyfrif Twitter - @SeneddIechyd.