Beth fydd yn digwydd yn Agoriad Swyddogol y Senedd?

Cyhoeddwyd 13/10/2021   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 13/10/2021   |   Amser darllen munudau

Ddydd Iau 14 Hydref, bydd Ei Mawrhydi y Frenhines, yn ogystal ag Ei Uchelder Brenhinol Tywysog Cymru ac Ei Huchelder Brenhinol Duges Cernyw, yn ymweld â Chaerdydd ar gyfer Agoriad Swyddogol chweched sesiwn y Senedd.

Beth fydd yn digwydd yn Agoriad Swyddogol y Senedd?

Ar ddechrau’r digwyddiad, bydd aelod o dîm Diogelwch y Senedd yn cario’r byrllysg seremonïol i mewn i’r Senedd. Bydd Aelodau o’r Senedd a gwesteion allweddol yn dilyn cludwr y byrllysg.

Ar ôl i bawb eistedd, bydd y Seremoni Agoriadol yn dechrau yn Siambr y Senedd. Bydd Ei Mawrhydi y Frenhines yn rhoi araith, ynghyd ag Elin Jones AS, Llywydd y Senedd, a Mark Drakeford AS, Prif Weinidog Cymru.

Caiff y byrllysg seremonïol ei osod yn ei briod le i nodi Agoriad Swyddogol y chweched Senedd.

Ar ôl i’r seremoni ddod i ben, adroddir cerdd sydd wedi’i chomisiynu’n arbennig ar gyfer yr achlysur, sef ‘Ein Llais’, gan Gruffudd Owen, Bardd Plant Cymru. Bydd dau o gyn-Aelodau Senedd Ieuenctid Cymru yn darllen y gerdd.

Yna bydd y Parti Brenhinol yn cwrdd â Hyrwyddwyr Cymunedol Covid. Pobl gyffredin o bob rhan o Gymru yw’r rhain, sydd wedi’u henwebu gan Aelodau o’r Senedd am eu gwaith yn y gymuned leol yn ystod pandemig Covid-19. 

Pam ydym yn Cynnal Agoriad Swyddogol?

Agorodd y Frenhines Gynulliad Cenedlaethol cyntaf Cymru ym 1999, ac mae wedi agor pob sesiwn yn dilyn etholiad yng Nghymru ers hynny. Hefyd, ymwelodd y Frenhines â’r Cynulliad yn 2006 i agor adeilad newydd y Senedd ar Ddydd Gŵyl Dewi. Fel arfer, caiff yr Agoriad Swyddogol ei gynnal yn fuan ar ôl etholiad, ond cafodd ei ohirio eleni oherwydd cyfyngiadau yn sgil y coronafeirws.

Beth yw’r byrllysg?

Fel sawl senedd arall, mae gan y Senedd fyrllysg seremonïol. Gwialenffon addurnedig wedi’i gwneud o bren neu fetel yw’r byrllysg. Fel arfer, caiff byrllysg ei gario i mewn i senedd-dŷ yn ystod y seremoni agoriadol swyddogol fel symbol o awdurdod brenhinol.

Rhodd gan Senedd De Cymru Newydd yn Awstralia oedd byrllysg y Senedd, ac fe’i cyflwynwyd pan agorwyd adeilad y Senedd yn 2006. Cafodd ei ddylunio a’i grefftio gan Fortunato Rocca, sef gof aur o Melbourne, ac fe’i lluniwyd o aur, arian a phres.

Yn ystod y seremoni agoriadol swyddogol yn Siambr y Senedd, caiff y byrllysg seremonïol ei osod yn ei briod le i nodi Agoriad Swyddogol y chweched Senedd.

Pwy fydd yn perfformio?

Bydd y digwyddiad yn cynnwys perfformiadau creadigol gan gerddorion, dawnswyr, cantorion ac artistiaid o bob cwr o Gymru i gyfleu’r thema ‘Ein Llais’.

Bydd perfformiadau gan Alis Huws, Telynores Swyddogol Ei Uchelder Brenhinol Tywysog Cymru, Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru, Theatr Hijinx Cymru, Opera Ieuenctid Cenedlaethol Cymru a Tân Cerdd. I gael rhagor o wybodaeth am y perfformwyr, ewch i dudalen yr Agoriad Swyddogol ar y we.

Mae Zillah Bowes, y ffotograffydd, gwneuthurwr ffilm a bardd, hefyd wedi creu darn o gelf unigryw i nodi’r Agoriad Swyddogol o’r enw Gwawr / Dawn. Mae’n cynnwys ffotograffau o bobl o bob cwr o Gymru a dynnwyd yn yr awyr agored yng ngolau’r wawr. Bydd modd gweld y gwaith hwn ar-lein ar ddiwrnod yr Agoriad Swyddogol.

Oherwydd y cyfyngiadau yn sgil y coronafeirws, am y tro cyntaf bydd y digwyddiad hefyd yn cynnwys cyfuniad o berfformiadau byw ar y safle a pherfformiadau wedi’u recordio ymlaen llaw.

Sut y gallaf wylio’r Agoriad Swyddogol?

Lle bynnag y byddwch chi yn y byd, gallwch ymuno â ni’n fyw ar gyfer Agoriad Swyddogol y chweched Senedd.

Gallwch wylio’r seremoni agoriadol swyddogol o Siambr y Senedd yn fyw ar 14 Hydref 2021 o 11:00 GMT.

Rhagor o wybodaeth, gan gynnwys yr amserlen lawn.

Beth ddigwyddodd y tro diwethaf?

I gael blas ar yr hyn fydd yn digwydd ar 14 Hydref, gallwch fwrw golwg ar ein horielau ffotograffau o ddau Agoriad Swyddogol diwethaf y Senedd (sef Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar y pryd) ar Flickr:

Pumed Cynulliad

Pedwerydd Cynulliad

Gallwch wylio Agoriad Swyddogol y Pumed Cynulliad yn ei gyfanrwydd ar Senedd.tv