Beth mae Aelodau o'r Senedd yn ei wneud?

Cyhoeddwyd 23/09/2025   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 25/09/2025

Yn etholiad y Senedd ar 7 Mai 2026, byddwch yn pleidleisio i ethol Aelodau a fydd yn cynrychioli eich cymuned yn Senedd Cymru.

Ond beth mae hynny’n ei olygu mewn gwirionedd?

O drafod deddfau ym Mae Caerdydd i gefnogi pobl yn eu hardaloedd lleol, mae Aelodau o’r Senedd yn chwarae rhan hanfodol wrth siapio bywyd yng Nghymru.

Mae’r blog hwn yn trafod yr hyn maen nhw’n ei wneud – yn y Senedd ac yn eich cymuned – a sut allwch chi gymryd rhan.

Yn y Senedd

Y Cyfarfod Llawn

Caiff Aelodau o’r Senedd eu hethol o bob rhan o Gymru i’ch cynrychioli chi a’ch cymuned yn Senedd Cymru.

Yn ystod y tymor, mae holl Aelodau o’r Senedd yn cyfarfod ddwywaith yr wythnos yn y Siambr ar gyfer y Cyfarfod Llawn.

Y Llywydd sy’n cadeirio’r Cyfarfod Llawn a dyma’r prif fforwm i’r Aelodau gyflawni eu rôl fel eich cynrychiolwyr etholedig.

Dyma lle maen nhw'n siarad ar eich rhan, yn holi Gweinidogion Llywodraeth Cymru, yn trafod ac yn pleidleisio ar faterion pwysig, ac yn pasio deddfau.

Gofyn Cwestiynau

Un ffordd y gall Aelodau ddod â materion lleol i sylw’r Senedd yw cyflwyno cwestiwn.

Gellir cyfeirio’r rhain at y Prif Weinidog bob wythnos, neu at aelodau eraill y Cabinet a Chomisiwn y Senedd bob pedair wythnos.

Os bydd rhywbeth brys neu bwysig yn codi – yn lleol neu’n genedlaethol – gall Aelodau wneud cais i ofyn Cwestiynau Amserol neu hyd yn oed Gwestiynau Brys os oes angen ateb cyflym.

Dadleuon byr

Gall Aelodau drefnu dadleuon byr i dynnu sylw at faterion sy’n bwysig i’w cymunedau.

Mae dadleuon byr yn wahanol i ddadleuon eraill gan eu bod yn caniatáu i unrhyw Aelod (ac eithrio Ysgrifenyddion y Cabinet a Gweinidogion Llywodraeth Cymru) arwain dadl gyffredinol ar bwnc sy’n bwysig iddyn nhw, neu sy’n fater yn eu hetholaeth.

Mae’r Llywydd yn cynnal balotau rheolaidd i ddewis Aelodau ar gyfer dadleuon byr. Bydd yr Aelod sydd wedi’i ddewis yn agor y ddadl ar bwnc o’u dewis, ac fel arfer bydd Gweinidog neu Gomisiynydd y Senedd yn ymateb.

Mewn pwyllgorau

Mae’r rhan fwyaf o Aelodau o’r Senedd hefyd yn aelod o bwyllgorau.

Pwyllgorau yw grwpiau bach o Aelodau sy’n edrych ar bynciau neu faterion penodol sy’n effeithio ar fywydau pobl yng Nghymru.

Pwyllgorau yw lle mae llawer o waith manwl y Senedd yn digwydd. Maent yn galluogi Aelodau i archwilio materion yn fanwl a chlywed yn uniongyrchol gan y cyhoedd ac arbenigwyr.

Nid dim ond mynychu cyfarfodydd yn unig fydd yr Aelodau. Maent yn edrych ar ymchwil a thystiolaeth ac yn ymweld â chymunedau y mae materion dan sylw yn effeithio arnynt. Maent yn gwneud argymhellion ar gyfer newid ac yn cymryd rhan os caiff adroddiadau pwyllgor eu trafod yn ystod y Cyfarfod Llawn.

Darllenwch fwy am sut mae pwyllgorau yn gweithio.

Yn eich cymuned

Pan na fyddant yn gweithio yn y Senedd, mae gan y rhan fwyaf o Aelodau swyddfa leol yn eu hetholaeth neu ranbarth.

Yn ogystal â bod yn wleidyddion, maen nhw’n rhan o’ch cymuned.

Maen nhw’n cynnal sesiynau galw heibio, o'r enw cymorthfeydd, fel y gallwch chi gwrdd â nhw a thrafod materion lleol a allai fod yn berthnasol i chi. Gallwch hefyd gysylltu â nhw ar-lein neu dros y ffôn.

Byddan nhw’n helpu os gallant, ac mae staff swyddfa’r Aelodau yn eu helpu i reoli ymholiadau gan etholwyr.

Ar ôl clywed gennych chi, gallai’ch Aelod dynnu sylw at eich pryder yn y Senedd. Gallan nhw ofyn cwestiwn neu drefnu dadl yn y Cyfarfod Llawn.

Mae Aelodau hefyd yn ymweld ag ysgolion, busnesau a sefydliadau lleol eraill i feithrin cysylltiadau â’r bobl maen nhw’n eu cynrychioli. Mae’r ymweliadau hyn yn eu helpu i ddeall beth sy’n digwydd yn lleol a dod â’r lleisiau hynny yn ôl i’r Senedd.

Lwfansau a threuliau

Gall Aelodau o’r Senedd hawlio costau o lwfansau i’w helpu i gyflawni eu dyletswyddau. Nid yw lwfansau a threuliau yn cael eu rhoi’n awtomatig - rhaid i Aelodau wneud cais amdanynt.

Mae bwrdd taliadau annibynnol yn pennu rheolau ar gyfer lwfansau, ac mae’r broses hawliadau yn cael ei rheoli gan Gomisiwn y Senedd.

Mae lwfansau ar gael ar gyfer pethau fel rhedeg swyddfa leol, teithio ledled Cymru, a chyflogi staff i gynorthwyo gyda gwaith achos ac ymchwil.

Mae’r cymorth hwn yn helpu i gael gwared ar rwystrau ariannol, fel y gall unigolion o ystod eang o gefndiroedd sefyll mewn etholiad a chynrychioli eu cymunedau.

Cysylltu â’ch Aelodau

Mae pawb yng Nghymru yn cael eu cynrychioli yn y Senedd gan bum Aelod. Un ar gyfer eich ardal leol (etholaeth) a phedwar ar gyfer y rhanbarth o Gymru yr ydych yn byw ynddi.

Gallwch gysylltu ag unrhyw un ohonyn nhw – yn bersonol, ar-lein, neu dros y ffôn – dim ots i bwy y gwnaethoch chi bleidleisio. Mae’r pump yn eich cynrychioli chi’n gyfartal.

Ddim yn siŵr pwy yw eich Aelodau? Defnyddiwch eich cod post i chwilio amdanyn nhw