Beth sydd yn eich cwpwrdd moddion chi? Ymchwiliad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus mewn i Rheoli Meddyginiaethau

Cyhoeddwyd 06/06/2017   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 06/06/2017

A oes gennych bryderon am nifer yr eitemau ar eich presgripsiwn amlroddadwy?

Blog Header CY

A ydych chi wedi wynebu anawsterau o ran cael y feddyginiaeth gywir gan fferyllydd? Ydych chi wedi cael unrhyw broblemau yn yr ysbyty gyda siartiau cyffuriau anghyflawn sy’n golygu eich bod yn cael y feddyginiaeth anghywir?

Nid dyma ond ambell un o’r materion y mae’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus wedi bod yn eu hystyried fel rhan o’i ymchwiliad i Reoli Meddyginiaethau. Gyda dros £800 miliwn yn cael ei wario ar feddyginiaethau a dros 79.5 miliwn o feddyginiaethau yn cael eu dosbarthu yng Nghymru bob blwyddyn, mae GIG Cymru yn defnyddio meddyginiaethau ar raddfa sylweddol. Yn y deng mlynedd diwethaf, bu cynnydd o 46 y cant yn nifer yr eitemau a ddosbarthwyd. Yn wyneb y galw cynyddol hwn, mae Llywodraeth Cymru yn annog presgripsiynu doeth, a hynny er mwyn optimeiddio meddyginiaethau fel bod cleifion yn cael y canlyniadau gorau posibl a bod y GIG yn sicrhau gwerth am arian o feddyginiaethau. Cyhoeddodd Archwilydd Cyffredinol Cymru adroddiad ar reoli meddyginiaethau mewn lleoliadau gofal sylfaenol a gofal eilaidd ar 15 Rhagfyr 2016. Roedd yr adroddiad hwn yn trafod a yw GIG Cymru yn rheoli meddyginiaethau yn effeithiol mewn gofal sylfaenol, mewn gofal eilaidd ac yn y rhyngwyneb rhwng gofal sylfaenol a gofal eilaidd. Roedd yr adroddiad hefyd yn trafod trefniadau corfforaethol cyrff iechyd ar gyfer rheoli meddyginiaethau, fel cynllunio strategol a chynllunio’r gweithlu, proffil materion sy’n gysylltiedig â meddyginiaethau yng nghyfarfodydd byrddau a phwyllgorau, a threfniadau ar gyfer monitro perfformiad cyrff iechyd o ran meddyginiaethau. Yn ôl yr Archwilydd Cyffredinol:
  • Mae lle i wneud presgripsynu yn fwy diogel, gan sicrhau mwy o werth am arian, ym maes gofal sylfaenol;
  • Mae yna risgiau o ran diogelwch ac aneffeithlonrwydd sy’n gysylltiedig â rheoli meddyginiaethau wrth i bobl fynd a dod o ysbytai;
  • Mae yna broblemau mewn ysbytai o ran storio meddyginiaethau, diffyg gwybodaeth am feddyginiaethau a rhwystredigaeth oherwydd oedi yn y broses o roi presgripsiynau electronig ar waith.
Trafododd y Pwyllgor nifer o’r materion hyn gyda Llywodraeth Cymru yn ein cyfarfod ym mis Mawrth 2017. Nododd y Pwyllgor bod y ffaith ei bod hi wedi cymryd cyhyd i gyflwyno presgripsiynau electronig (trafodwyd hyn yn gyntaf yn 2007, ond nid yw’n debygol o fod ar waith hyd nes 2023) yn destun pryder. Maes arall yr oedd y Pwyllgor yn teimlo y gellid ei wella oedd datblygu system ganolog ar gyfer meddyginiaethau drud iawn nad ydynt yn gyffredin yn hytrach na bod gan bob bwrdd iechyd stôr o’r meddyginiaethau hyn. Roedd presgripsiynau amlroddadwy yn destun pryder arbennig i’r Pwyllgor. Roedd aelodau’r Pwyllgor hefyd am wybod a yw’r holl feddyginiaethau a roddir i gleifion yn cael eu defnyddio neu a yw cleifion yn cronni meddyginiaethau sydd dros ben oherwydd anawsterau o ran newid presgripsiwn. Mae hyn yn bwysig oherwydd bod arian yn cael ei wastraffu bob dydd oherwydd bod cleifion yn cael meddyginiaethau nad oes angen arnynt mewn gwirionedd. Eglurodd y Llywodraeth i’r Pwyllgor fod tair rhan i’r mater hwn, gyda chyfrifoldeb ar ysgwyddau’r claf, y fferyllfa a’r sawl sy’n presgripsiynu. Mae’r Pwyllgor yn awyddus i glywed eich profiadau o’r materion hyn, neu unrhyw ran arall o reoli meddyginiaeth – hoffem glywed eich profiadau drwy Twitter yn @SeneddArchwilio neu drwy anfon e-bost at seneddarchwilio@cynulliad.cymru. Y camau nesaf: Bydd y Pwyllgor yn clywed tystiolaeth gan fyrddau iechyd a fferyllwyr ym mis Mehefin i drafod i ba raddau y mae arferion gorau yn cael eu rhannu ac i glywed eu hymateb i rai o bryderon y Pwyllgor. Gellir gwylio’r cyfarfod cyfan a gynhaliwyd ym mis Mawrth ar Senedd TV a gellir gweld trawsgrifiad o’r cyfarfod, ynghyd â’r holl dystiolaeth ysgrifenedig sydd wedi dod i law’r Pwyllgor hyd yn hyn, ar dudalen y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus. Bydd y cyfarfod ym mis Mehefin hefyd ar gael ar Senedd TV.