Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru): Tatŵio, addasu’r corff a rhoi twll mewn rhan bersonol o’r corff

Cyhoeddwyd 04/12/2015   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 04/12/2015

Erthygl gan Amy Clifton, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru, blog Pigion Ar ddydd Mawrth, 8 Rhagfyr 2015 bydd y Cynulliad yn cynnal ddadl ar Fil Iechyd y Cyhoedd (Cymru) yn y Cyfarfod Llawn. Cyhoeddodd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, sydd yn gyfrifol am graffu'r cynnig ddeddf, eu Adroddiad ar y Bil wythnos diwethaf â oedd yn cynnig nifer o argymhellion a gwelliannau. Ar ddechrau'r ymgynghoriad, cynhaliodd Tîm Allgymorth y Cynulliad holiadur cenedlaethol er mwyn gofyn i bobl Cymru beth oedd eu barn ar gynnigion Llywodraeth Cymru ar deddfu e-sigaréts, triniaethau arbennig a tyllu man personol o'r corff. Mae llawer o’r sylw ynghylch Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru) wedi bod ar e-sigaréts. Fodd bynnag, mae rhan ddiddorol arall o’r Bil yn ymwneud â thriniaethau arbennig a rhoi twll mewn rhan bersonol o’r corff (Rhannau 3 a 4 o’r Bil). Triniaethau arbennig Bydd y Bil fel y cafodd ei ddrafftio yn creu cynllun trwyddedu gorfodol i ymarferwyr a busnesau sy’n rhoi triniaethau arbennig yng Nghymru. Y triniaethau arbennig sydd ynddo ar hyn o bryd yw aciwbigo, electrolysis, tyllu’r corff a thatŵio, ond byddai’r Bil hefyd yn caniatáu i Weinidogion Cymru ddiwygio’r rhestr hon drwy is-ddeddfwriaeth. Yn eu tystiolaeth i’r Pwyllgor, nododd llawer o randdeiliaid fod diffyg sylweddol ar hyn o bryd o ran rheoli ansawdd yn y diwydiannau tatŵio a thyllu. Clywodd y Pwyllgor adroddiadau brawychus fod llawer o driniaethau’n cael eu rhoi gan bobl sydd ag ychydig, os o gwbl, o wybodaeth am anatomeg, rheoli heintiau neu brosesau iachau. Hefyd, tynnodd rhanddeiliaid sylw at driniaethau ychwanegol a ddylai fod yn rhan o’r Bil yn eu barn nhw. Mae’r rhain yn cynnwys addasu’r corff (creithio, mewnblaniadau croen, llosgnodi a hollti’r tafod), pigiad o hylif i mewn i’r corff (botox neu lenwyr croen), a thriniaethau laser (cael gwared ar datŵ neu gael gwared ar flew). Gwnaeth tîm Allgymorth y Cynulliad fideo byr am driniaethau arbennig drwy gyfweld ag ymarferwyr ledled Cymru: https://www.youtube.com/watch?v=xsUHPEWTaxU&feature=youtu.be Mae artistiaid tatŵ yn y fideo yn mynegi pryder yn arbennig am frandio, creithio, addasu eithafol o’r corff (fel hollti’r tafod a hollti’r pidyn) a mewnblaniadau croen. Maent yn egluro bod creithio (lle caiff rhan o’r croen ei dynnu i adael craith) yn aml yn digwydd mewn ffordd beryglus. Mae’r tatwyddion hefyd yn dweud bod brandio yn cael ei wneud gyda lampau llosgi, bachau hongian dillad a heyrn sodro sydd wedi’u haddasu, ac yn sôn am bryderon ynghylch mewnblaniadau croen, fel gosod cyrn a sêr o dan y croen:
Dyw gosod gwrthrychau yn eich corff ddim yn beth da heb ryw fath o bwysau deddfwriaethol tu ôl iddo i ddweud, ‘Dyw hynny ddim yn ddiogel’, neu ‘A yw’r deunydd yn ddiogel?’ neu ‘Oes rhywun wedi’i archwilio?’; ‘A yw’n gwbl lân? Ydych chi wedi’i awtoclafio cyn i chi ei roi mewn yna? O ble mae’n dod? Ydy hwn wedi dod allan o beiriant pêl pum ceiniog rownd y gornel?’
Rhoi twll mewn rhan bersonol o’r corff Mae’r Bil yn cynnig gosod trothwy oedran o 16 oed ar gyfer rhoi twll mewn rhan bersonol o’r corff. Mae’n diffinio’r rhannau personol o’r corff fel yr anws, y fron, y folen, rhych y pen ôl, y pidyn, y perinëwm, y mons pubis, y ceillgwd a’r fwlfa. Er bod cefnogaeth i’r egwyddor o osod trothwy o’r fath, mae llawer o randdeiliaid yn credu y byddai 18 oed yn drothwy mwy priodol yn achos mannau personol. Er enghraifft, mae Sefydliad Siartredig Iechyd yr Amgylchedd (CIEH) yn credu y byddai 18 oed yn drothwy mwy priodol, gan fod hyn yn cyd-fynd â’r oedran isaf ar gyfer tatŵio, ac yn adlewyrchu’r aeddfedrwydd sydd ei angen i wneud penderfyniadau o’r fath. Roedd rhanddeiliaid hefyd yn rhesymu bod unigolyn 16 oed yn dal i dyfu ac felly bod mwy o risg o niwed i’r croen. Nodwyd hefyd fod rhoi twll mewn rhan bersonol o’r corff yn gofyn am safon uwch o ôl-ofal na thatŵs, gan ei fod o bosibl yn fwy agored i haint. Mae Dr Ncube yn cefnogi trothwy oedran uwch, gan nodi bod goblygiadau hirdymor yn sgil tyllu’r organau cenhedlu. Rhoddodd enghraifft o astudiaeth achos o dad â thwll mewn organ cenhedlu, a oedd yn chwarae gyda’i ferch. Cafodd ei gicio’n ddamweiniol gan ei ferch.
Arweiniodd y trawma a achoswyd gan y tyllu at fadredd (gangrene) yn ei bidyn. Cyflwr Fournier yw’r enw ar hyn. Oherwydd hynny, cafodd greithiau sylweddol. Felly, mae risgiau sylweddol ynghlwm â thyllu organau cenhedlu, sy’n golygu bod goblygiadau hirdymor tyllu yn bwysig, yn ogystal â’r tyllu ei hun.
Cafwyd neges gref hefyd gan randdeiliaid, gan gynnwys Iechyd Cyhoeddus Cymru, y dylid cynnwys tyllu’r tafod yn y Bil, gyda thystion yn nodi risg uchel o gymhlethdodau, niwed a haint. Dadl Cyfarfod Llawn Bydde chi'n gallu gwylio'r ddadl ar Fil Iechyd y Cyhoedd (Cymru) yn fyw ar  senedd.tv neu dal lân yn hwyrach ymlaen. Am ragor o wybodaeth ar waith y Pwyllgor, ewch i wefan y Pwyllgor ar www.cynulliad.cymru/seneddiechyd.