Bil Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru)

Cyhoeddwyd 02/12/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 02/12/2014

Wedi'r hir ymaros, cyflwynwyd Bil Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol gan Lywodraeth Cymru yn gynharach eleni. Dywedwyd wrthym y byddai'r Bil hwn yn rhoi datblygu cynaliadwy wrth wraidd llywodraethu gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru, ac mai dim ond ychydig ddeddfau tebyg sydd i'w cael drwy'r byd. Ein rôl ni fel Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd oedd asesu a fydd y Bil yn gallu gweithredu'r amcanion hyn. Gan fod y Bil yn cwmpasu sawl maes polisi gwahanol, clywsom gan amrywiaeth eang o randdeiliaid i gael eu barn ar allu'r Bil i gyflawni'r hyn y maent yn ei ddisgwyl o ddeddfwriaeth gynaliadwy. Cam 1 Adroddiad Pwyllgor Ar 28 Tachwedd 2014, cyhoeddwyd ein hadroddiad Cyfnod 1 ar y Bil gan wneud 32 o argymhellion i'r Gweinidog yr ydym o'r farn y byddant yn cryfhau'r Bil. Well-being of future generations (Wales) Bill cy   Er bod cefnogaeth unfrydol i fwriad polisi'r Bil, roedd aelodau'r Pwyllgor yn anghytuno ai'r Cynulliad ddylai gytuno ar egwyddorion cyffredinol y Bil. Fel cyfaddawd, cytunodd yr Aelodau i gefnogi egwyddorion cyffredinol y Bil ar yr amod bod y Gweinidog yn rhoi sicrwydd y bydd yn ymdrin â'r materion allweddol a amlinellir yn yr adroddiad. Mae'r materion allweddol yn cynnwys:
  • ehangu'r egwyddor datblygu cynaliadwy;
  • egluro a chryfhau geiriad y nodau llesiant;
  • egluro defnydd y Bil, a rôl y Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol arfaethedig, mewn perthynas â chyrff cyhoeddus; a
  • sicrhau bod gan aelodau o bob plaid a rhanddeiliaid ran yn y broses o benodi'r Comisiynydd.
Credwn fod angen diwygio'r egwyddor datblygu cynaliadwy er mwyn adlewyrchu'r materion ehangach sydd wedi eu cynnwys yn niffiniadau Cymru'n Un: Cenedl Un Blaned a Brundtland o "ddatblygu cynaliadwy", yn enwedig o ran newid yn yr hinsawdd, defnyddio ein cyfran deg o adnoddau'r ddaear, terfynau amgylcheddol ac effaith ryngwladol yr hyn a wnawn yng Nghymru. Rydym yn cytuno bod angen egluro, cryfhau a diwygio geiriad y nodau llesiant, i adlewyrchu'r sylwadau a wnaed gan randdeiliaid ac yng nghanfyddiadau adroddiad interim y Sgwrs Genedlaethol. Yn benodol, y dylai'r nodau fynd i'r afael â materion allweddol fel terfynau amgylcheddol, adfer bioamrywiaeth, effeithiau rhyngwladol a chyfiawnder cymdeithasol, ac y dylai'r iaith a ddefnyddir yn y nodau fod yn glir ac yn ddiamwys. Rydym wedi argymell y dylid cyflwyno gwelliannau er mwyn ei gwneud yn glir bod darpariaethau'r Bil yn berthnasol i holl swyddogaethau, gweithgareddau a phenderfyniadau cyrff cyhoeddus, ac i sicrhau bod cwmpas swyddogaethau rôl y Comisiynydd yn ymestyn i bob un o'r gweithgareddau, y swyddogaethau a'r penderfyniadau hyn. Mae Aelodau'n cytuno y dylid cynnwys aelodau o bob plaid a rhanddeiliaid yn y broses o benodi Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol, o bosibl ar ffurf panel penodi fydd yn cyflwyno argymhellion i'r corff penodi. Cyn bo hir, bydd dadl Cyfnod 1 yn y Cyfarfod Llawn a bydd gofyn i'r Cynulliad nodi a yw'n cytuno gydag egwyddorion cyffredinol y Bil. Sut i gymryd rhan a chael y wybodaeth ddiweddaraf: