
Bil Llythrennedd Ariannol (Cymru): Beth mae’n golygu i Gymru
Cyhoeddwyd 17/10/2013   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024
Mae tri o bob pedwar o bobl ifanc yng Nghymru yn teimlo nad ydynt wedi cael digon o addysg am sut i reoli eu harian yn effeithiol. Dyma un o ganfyddiadau’r gwaith ymchwil a wnaeth Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar gyfraith y mae Bethan Jenkins AC yn ei chynnig ynghylch llythrennedd ariannol.
Cymerodd 464 o bobl ran yn yr arolwg. Roedd un holiadur wedi ei lunio ar gyfer pobl ifanc sydd yn yr ysgol, a'r llall ar gyfer y cyhoedd a fu’n ymweld â bws y Cynulliad yn y sioeau haf ledled Cymru, i ganfod beth yw eu barn am y cynigion, sydd â'r nod o:
• gynnwys addysg ariannol yng nghwricwlwm ysgolion;
• rhoi dyletswydd ar rai sefydliadau i hyrwyddo arferion ariannol da; a
• sicrhau bod cynghorau'n cynnig cyngor i bobl ynghylch dyledion.
Awgrymodd 131 o bobl y dylid hyrwyddo llythrennedd rhifedd yn yr ysgolion, y prifysgolion a thrwy addysg i oedolion, a nododd 67% o’r bobl ifanc a lenwodd yr holiadur nad oeddent yn credu bod ganddynt ddigon o wybodaeth am y system ariannol, na dealltwriaeth ohoni, i reoli eu harian yn synhwyrol ac yn effeithiol.
Gallwch weld y ddogfen gyfan yma.
Pleidleisiwyd Aelodau'r Cynulliad yn y Siambr ddydd Mercher, 16 Hydref, i ganiatáu Bethan Jenkins AC ymgynghori ymhellach ar ei chynigion (38 o blaid, 0 yn erbyn, a 15 yn ymatal). Gan y bod y mwyafrif o’r Aelodau wedi pleidleisio o blaid hynny, mae ganddi naw mis i lunio cyfraith ddrafft. Wedyn, bydd pwyllgor trawsbleidiol o Aelodau’r Cynulliad yn craffu ar y gyfraith ddrafft, cyn ei thrafod eto yn y Siambr a phleidleisio arni. Os caiff ei phasio, daw yn ddeddf newydd i Gymru.
Mae rhagor o wybodaeth am y cynnig i’w chael yma.
Gallwch hefyd wylio’r ddadl yma: http://www.senedd.tv/archiveplayer.jsf
