Bil Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) (20/03/2019)

Cyhoeddwyd 20/03/2019   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 20/03/2019

Blog gwadd gan Llyr Gruffydd, Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid, Cynulliad Cenedlaethol Cymru . Wnaeth yr erthygl yma dangos cyntaf yn y Western Mail

View this post in English

Llyr Gruffydd AC/ AM
Llyr Gruffydd AC/ AM

Y prynhawn yma, bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn pleidleisio i gymeradwyo Bil Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru). Os caiff y Bil ei gymeradwyo, caiff ei gyflwyno ar gyfer Cydsyniad Brenhinol a daw'r darpariaethau ynddo yn gyfraith yng Nghymru.

Mae gan yr Ombwdsmon yng Nghymru rôl hanfodol wrth sicrhau bod unrhyw un sy'n credu ei fod wedi dioddef anghyfiawnder, caledi neu fethiant gwasanaeth oherwydd corff cyhoeddus yn gallu gwneud cwyn. Darperir gwasanaeth yr Ombwdsmon yn rhad ac am ddim, yn ddiduedd ac yn annibynnol ar Lywodraeth Cymru. 

Mae'r mathau o gwynion a wneir i'r Ombwdsmon yn cynnwys ambiwlansys yn cymryd gormod o amser i gyrraedd; methu dod o hyd i'r addysg iawn i blant sydd ag anghenion ychwanegol; tai cymdeithasol nad ydynt yn cael eu hatgyweirio yn iawn, a llawer o faterion eraill.

Cyflwynodd y Pwyllgor Cyllid y Bil hwn am ein bod yn credu y dylid cryfhau rôl yr Ombwdsmon er mwyn gwella cyfiawnder cymdeithasol ac amddiffyn y bobl fwyaf bregus yn y gymdeithas. Mae hyn yn arbennig o berthnasol mewn cymdeithas lle mai'r bobl fwyaf bregus yn aml yw'r rhai sy'n dibynnu fwyaf ar wasanaethau cyhoeddus.

Bydd y Bil yn gwneud hyn trwy ei gwneud yn haws i bobl gwyno, a hynny drwy ddileu'r rhwystr bod rhaid i gŵyn gael ei chyflwyno yn ysgrifenedig. Ni ddylid gwahaniaethu yn erbyn pobl na pheri iddynt beidio â chwyno. Bydd pobl yn gallu gwneud cwynion ar lafar neu drwy gyfrwng Iaith Arwyddion Prydain ac efallai, yn y dyfodol, drwy dechnolegau digidol eraill. Bydd hyn yn helpu aelodau bregus a difreintiedig o'r gymdeithas.

Hefyd, lle mae tystiolaeth yn awgrymu bod mater ehangach yn effeithio ar fudd y cyhoedd, bydd y Bil yn galluogi'r Ombwdsmon i ddechrau ei ymchwiliadau ei hun heb iddo orfod cael cwyn ffurfiol. Yn aml, mae pobl yn amharod i wneud cwyn, neu'n ofni gwneud hynny, felly bydd modd iddynt gwyno'n ddienw, ac os bodlonir y meini prawf llym, bydd yr Ombwdsmon yn gallu ymchwilio.

Ar hyn o bryd, lle mae triniaeth iechyd cyhoeddus a thriniaeth iechyd preifat yn gorgyffwrdd, mae'n rhaid i rywun wneud cwynion ar wahân i wahanol sefydliadau. Mae'r Bil yn caniatáu i'r Ombwdsmon ymdrin â'r elfennau preifat a chyhoeddus gyda'i gilydd lle na fyddai fel arall yn gallu ymchwilio i'r camau perthnasol a gymerwyd gan ddarparwr y gwasanaeth cyhoeddus. Bydd hon yn broses decach a fydd yn rhoi atebion i gwestiynau ynghylch a gafodd unigolyn driniaeth feddygol briodol drwy gydol ei lwybr gofal iechyd.

Y prif newid arall yw y bydd yr Ombwdsmon yn gallu datblygu proses enghreifftiol i gyrff gwasanaethau cyhoeddus ar gyfer ymdrin â chwynion. Y nod yn hyn o beth yw ysgogi gwelliannau a helpu i sicrhau cysondeb ar draws y sector cyhoeddus.

Mae'r Bil hwn yn ffrwyth llawer o waith caled a wnaed dros nifer o flynyddoedd a phroses graffu drwyadl gan bwyllgorau'r Cynulliad.

Gobeithiaf y bydd y Cynulliad yn cymeradwyo'r Bil heddiw; mae arnom angen Cymru sy'n darparu gwasanaethau cyhoeddus rhagorol. Os nad yw gwasanaeth yn bodloni disgwyliadau unigolion, bydd ganddynt hyder yng ngallu'r Ombwdsmon i ymchwilio a gwneud pethau'n iawn.

Jocelyn Davies, Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid yn y Pedwerydd Cynulliad:

“Dechreuais weithio ar ehangu pwerau'r Ombwdsmon yn ôl yn y Pedwerydd Cynulliad. Rwy'n gobeithio y bydd y Bil yn pasio heddiw gan fy mod yn edrych ymlaen at ddyfodol lle mae gennym wasanaethau cyhoeddus rhagorol, ond pan fydd pethau'n mynd o'u lle, bydd yr Ombwdsmon yn gallu ymchwilio, gwneud iawn i unigolion, a gwneud gwelliannau i wasanaethau cyhoeddus er lles pawb.”


Os hoffech ragor o wybodaeth am y Pwyllgor Cyllid, neu os hoffech gael yr wybodaeth ddiweddaraf amdano, ewch i dudalen y Pwyllgor ar y we.

Gallwch hefyd ddilyn y Pwyllgor ar Twitter: @SeneddCyllid