Bil Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru)

Cyhoeddwyd 18/07/2018   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 18/07/2018

Y wybodaeth ddiweddaraf am y Bil gan yr Aelod Cyfrifol – Simon Thomas AC, Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid Ar 17 Gorffennaf 2018, cytunodd y Cynulliad ar y Penderfyniad Ariannol ynghylch Bil Ombwdsman Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru). Mae hon yn garreg filltir arwyddocaol i'r Bil. Yn awr, gallwn symud ymlaen i drafodion Cyfnod 2 ar y Bil—sef y broses o waredu gwelliannau. Bydd llawer o bobl sydd wedi dilyn hynt y Bil yn ymwybodol ei fod yn ffrwyth gwaith caled a wnaed dros nifer o flynyddoedd gan Bwyllgor Cyllid y Cynulliad hwn a Phwyllgor Cyllid y Cynulliad blaenorol. Mae gan yr Ombwdsmon swyddogaeth hollbwysig, yn cynrychioli pobl Cymru pan fyddant wedi cael gwasanaeth gwael neu wedi cael eu trin yn annheg gan wasanaethau cyhoeddus. Ein prif fwriadau polisi mewn perthynas â'r Bil yw:
  • gwella cyfiawnder cymdeithasol a chyfle cyfartal;
  • amddiffyn y rhai mwyaf bregus yn ein cymdeithas;
  • hybu gwelliannau mewn gwasanaethau cyhoeddus ac wrth ddelio â chwynion.
Os yw'r Bil yn dod yn gyfraith, bydd yn ymestyn pwerau'r Ombwdsmon ac yn gwneud y rôl yn fwy ymatebol i bobl Cymru. Bydd yn cyflawni hyn drwy ei gwneud hi'n haws i bobl wneud cwyn. Mae'r Bil yn dileu'r gofyniad i wneud cwynion yn ysgrifenedig. Drwy ganiatáu i'r Ombwdsmon dderbyn cwynion llafar, bydd y Bil yn caniatáu i'r rhai mwyaf bregus yn ein cymdeithas ymgysylltu â'r Ombwdsman, gan greu Cymru decach. Mae'r Bil yn cynnwys darpariaeth i'r Ombwdsman gynnal ymchwiliadau ar liwt ei hun. Bydd y pŵer hwn yn caniatáu iddo fynd i'r afael â chamweinyddu systematig neu wasanaethau'n methu ar raddfa eang, a hynny mewn modd cydlynol. Bydd yn caniatáu i'r Ombwdsmon fod yn fwy ymatebol, gan ganiatáu iddo ymchwilio i faterion sy'n dod i law yn ddienw a chan gryfhau llais y dinesydd. Mae'r Bil yn ceisio hybu gwelliannau mewn gwasanaethau cyhoeddus ac wrth ddelio â chwynion. Bydd hefyd yn ehangu pwerau'r Ombwdsmon i ymchwilio i ddarparwyr gofal iechyd preifat mewn achosion lle mae cleifion wedi comisiynu triniaeth breifat ochr yn ochr â'r gwasanaeth a ddarperir gan y GIG. Mae penderfyniad y Cynulliad i gytuno ar y Penderfyniad Ariannol yn golygu bod y Cynulliad bellach wedi cael yr awdurdod, mewn egwyddor, i wario arian o ganlyniad i'r Bil. Er bod costau'n gysylltiedig â'r Bil, credwn fod gan y Bil y potensial i wireddu arbedion cost yn y sector cyhoeddus ehangach. Mae mwyafrif yr arbedion hynny'n debygol o ddeillio o ddarpariaethau a fydd yn sbarduno gwelliannau mewn gwasanaethau cyhoeddus, fel llai o iawndal yn cael ei hawlio ymhlith y cyrff o fewn yr awdurdodaeth dan sylw. Felly, ceir buddion effeithlonrwydd ehangach. Mae gan y Cynulliad gyfle bellach i drafod gwelliannau manwl i'r Bil. Fel yr Aelod sy'n Gyfrifol (ac ar ran y Pwyllgor Cyllid), byddaf yn cyflwyno nifer o welliannau a fydd, yn fy marn i, yn cryfhau'r Bil. Datblygwyd y gwelliannau hyn drwy ystyried yn ofalus yr argymhellion a wnaed gan y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau yn ei adroddiad ar y Bil yng Nghyfnod 1. Yn ogystal, rwyf wedi cael nifer o gyfarfodydd adeiladol gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid i drafod rhannau eraill o'r Bil, a hynny er mwyn sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn gallu ei gefnogi. Mae gwaith yn mynd rhagddo i ddrafftio gwelliannau a gaiff eu trafod gan y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau. Unwaith eto, hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu at y broses o ddrafftio a datblygu'r Bil hwn, sydd wedi cymryd cam arall yn y daith tuag at fod yn gyfraith. Mae'n bwysicach nag erioed bod gwasanaethau cyhoeddus yn darparu ar gyfer pobl Cymru a bod yr Ombwdsmon yn cael ei rymuso i sicrhau bod ein gwasanaethau'n canolbwyntio ar y dinesydd.
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i hafan y Bil: Gwybodaeth am y broses ddeddfwriaethol: Dilynwch y Pwyllgor ar Twitter @SeneddCyllid