Bil Rhoi Terfyn ar Drais yn Erbyn Menywod a Cham-drin Domestig (Cymru)

Cyhoeddwyd 21/11/2013   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 21/11/2013

Yn ôl ym mis Gorffennaf bu i’r Prif Weinidog ein diweddaru, mewn Cyfarfod Llawn, ar raglen ddeddfwriaethol y Llywodraeth â’r 8 Bil fydd yn cael eu cyflwyno yn ystod y flwyddyn yma. Un o rhain oedd Bil Rhoi Terfyn ar Drais yn Erbyn Menywod a Cham-drin Domestig (Cymru) Dywedodd Carwyn Jones, Prif Weinidog Cymru, “Rydym wedi bod yn glir iawn ynghylch ein dyletswydd i geisio amddiffyn yr unigolion a’r teuluoedd mwyaf agored i niwed. Mae gan bawb yng Nghymru yr hawl i fyw mewn cymuned ddiogel, yn rhydd rhag trais a chamdriniaeth. Er mwyn cyflawni hyn, mae angen i ni fynd i’r afael â’r problemau cymdeithasol parhaus o drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol. Felly, fis Mehefin nesaf, byddwn yn cyflwyno’r Bil rhoi terfyn ar drais yn erbyn menywod a cham-drin domestig i fynd i’r afael â phob math o drais yn erbyn menywod a cham-drin domestig.” Bydd y Tîm Allgymorth yn cynnal gweithdy ym Mae Colwyn ar Ddydd Mercher 11 Rhagfyr 2013, 13:30 - 15:30 Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Swyddfa’r Gogledd, Parc y Tywysog, Rhodfa’r Tywysog, Bae Colwyn, Conwy, LL29 8PL Bydd y gweithdai hyn yn anelu i’ch helpu i ddeall sut mae deddfau yn cael eu gwneud yng Nghymru ac yn fwy pwysig sut allwch chi gael dweud eich dweud ar y Bil Rhoi Terfyn ar Drais yn Erbyn Menywod a Cham-drin Domestig (Cymru), wedi iddo gael ei gyflwyno, gydag awgrymiadau a chynghorion defnyddiol. I archebu eich lle ar un o’n gweithdai e-bostiwch archebu@cymru.gov.uk neu ffoniwch 0845 010 5500.