Bil Tai (Cymru) - Grwpiau ffocws

Cyhoeddwyd 07/02/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 07/02/2014

Ym mis Medi 2013 bu i dîm Allgymorth Cynulliad Cenedlaethol Cymru gynnal gweithdai er mwyn paratoi at cyflwyniad y Bil Tai (Cymru) i’r Cynulliad. photo Ar y 19 Tachwedd 2013 cyflwynwyd Bil Tai (Cymru) i’r Cynulliad gan y Gweinidog dros Tai ac Adfywio, Carl Sargeant AC. Pasiwyd y Bil ymlaen i’r Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol i’w craffu. Derbyniodd y Pwyllgor 67 o ymatebion i’r ymgynghoriad. Mae’n bosib i chi weld yr ymatebion wrth ymweld â thudalen we ymgynghoriad Bil Tai (Cymru) yma: http://www.senedd.cynulliadcymru.org/mgIssueHistoryHome.aspx?IId=8828 Fel rhan o’r ymgynghoriad mae’r tîm Allgymorth wedi bod yn canolbwyntio ar ddau agwedd o’r Bil;
  • Diwygio'r gyfraith ar ddigartrefedd, gan gynnwys rhoi rhagor o ddyletswydd ar awdurdodau lleol i atal digartrefedd a'u caniatáu i ddefnyddio llety addas o fewn y sector preifat;
  • Yn cyflwyno dyletswydd ar awdurdodau lleol i ddarparu safleoedd ar gyfer Sipsiwn a Theithwyr lle y nodwyd bod angen safleoedd o’r fath.
Mae’r tîm Allgymorth wedi cynnal nifer o grwpiau ffocws i drafod yr agweddau hyn gydag amryw o sefydliadau a grwpiau ar draws Cymru sydd yn cynnwys Llamau Cymdeithas Tai Clwyd Alyn a Gwasanaeth Addysg i Deithwyr Sir Benfro. Trafodwyd sawl pwynt gwahanol yn ystod y grwpiau ffocws gan gynnwys cefnogaeth gan Awdurdodau Lleol i ddigartrefedd, gwella safonau tai yn y sector rhentu preifat a’r angen i Awdurdodau Lleol ddarparu safleoedd parhaol i deuluoedd Sipsiwn a Theithwyr. I gael gweld lle mae’r tîm Allgymorth wedi bod edrychwch ar ein map: http://www.assemblywales.org/gethome/get-assembly-area/get_involved-outreach_bus.htm Hoffwn ddiolch i bawb o’r cyfranogwyr gymerodd rhan yn y grwpiau ffocws dros y ddau fis diwethaf. Mae eich barn chi wedi cael ei basio ymlaen i’r Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol wrth iddynt barhau i gasglu tystiolaeth. Os hoffech chi fwy o wybodaeth am ymgynghoriad Bil Tai (Cymru) gallwch ymweld â thudalen we’r Pwyllgor yma: http://www.senedd.cynulliadcymru.org/mgCommitteeDetails.aspx?ID=226