Blog Gwadd #1: Gweithdy Bil Tai (Cymru)

Cyhoeddwyd 11/10/2013   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 11/10/2013

Blog gwestai #1 Yn ddiweddar bu i dîm Allgymorth y Cynulliad gynnal eu gweithdy cyn-ddeddfwriaethol cyntaf yn De Cymru. Pwrpas y sesiwn oedd i egluro broses deddfwriaethol y Cynulliad a sut gall pobl gyfrannu i’r ymgynghoriad ar Bil Tai (Cymru) Llywodraeth Cymru. Yma, mae Ceri Dunstan, Rheolwr Cyfathrebu Shelter Cymru yn siarad am y gweithdy Bil Tai (Cymru) bu iddi fynychu yn ddiweddar ym Mae Caerdydd. Ar ddydd Gwener 27 Medi, bu i mi fynychu gweithdy ar y Bil Tai (Cymru) yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru. Nod y gweithdy oedd amlinellu'r broses lle bydd Bil yn cael ei gyflwyno, craffu a’i ddiwygio cyn cael ei bleidleisio arno gan y Cynulliad. Roeddwn yn teimlo ychydig yn anghyfforddus yn cofrestru ar gyfer y digwyddiad. Mae fy rôl fel rheolwr cyfathrebu yn Shelter Cymru yn cynnwys llawer o ymgyrchu gwleidyddol, felly ddylwn i ddim fod yn gwybod am y broses ddeddfwriaethol a chraffu erbyn hyn? Ond, fodd bynnag, roeddwn yn teimlo llawer gwell wrth weld mwy nag ychydig o wynebau cyfarwydd o’r maes ymgyrchu a pholisi yn bresennol yn y digwyddiad. Mae’n debyg rydym i gyd yn profi'r un broblem - pan rydych yn ddwfn ym manylion y polisïau ac yn delio gyda llwyth gwaith dyddiol, mae’n hawdd colli golwg ar y broses ei hun. Roedd y gweithdy yn helpu gyda’r agwedd yma yn fawr iawn. Cafwyd eglurhad clir o’r gwahanol gyfnodau y mae Bil yn pasio drwodd gan Kevin Davies o’r tîm allgymorth a Jonathan Baxter o’r Gwasanaeth ymchwil, ynghyd ag amseriadau arfaethedig ac adegau lle mae’n bosib i bobl gyfrannu at neu ddylanwadu ar newidiadau. Roedd digon o gwestiynau a rhain i gyd wedi ei hateb yn dda iawn gan Kevin a Jonathan ac roedd y teimlad ymysg y mynychwyr yn bositif iawn. Rwyf yn deall mai dyma y tro cyntaf i’r tîm allgymorth gynnal y math yma o weithdy. O’m mhrofiad i, roedd yn bendant yn ymarfer gwerth chweil. Ar wahân i’r gefnogaeth ymarferol, mae’r ffaith bod y Cynulliad yn estyn allan i sefydliadau fel Shelter Cymru yn dangos sut mae cyfraniadau'r trydydd sector a chyrff cynrychioladol yng Nghymru yn cael ei werthfawrogi yn ystod y broses ddeddfwriaethol.