Blog Gwadd #2: Gweithdy Bil Tai (Cymru)

Cyhoeddwyd 14/10/2013   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/10/2013

Yn ddiweddar bu i dîm Allgymorth y Cynulliad gynnal eu gweithdy cyn-ddeddfwriaethol cyntaf yng Ngogledd Cymru. Pwrpas y sesiwn oedd egluro broses ddeddfwriaethol y Cynulliad a sut gall pobl gyfrannu i’r ymgynghoriad ar Bil Tai (Cymru) Llywodraeth Cymru. Bu i Louise Blackwell o Awdurdod Tai Clwyd Alyn gymryd rhan yn y sesiwn ac mae hi yn dweud wrthym sut mae hi wedi elwa ohono. Roedd y gweithdy ar Bil Tai (Cymru) yn oddefgarwch croesawus - yn ddiddorol a gwybodus, ac yn rhoi'r sgiliau i mi allu ymgysylltu a chyfrannu at y broses ddeddfwriaethol yng Nghymru. Gan fy mod yn Swyddog Datblygu Cymunedol, bu i mi ddechrau deall y cysylltiadau rhwng ein prosiect ‘Community Voice’ aml-asiantaeth (sydd ar hyn o bryd yn rhedeg yng Nghonwy) a thîm Allgymorth Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Rhoddodd y cyfarfod yma hefyd mewnwelediad i’r sialens mae’r ddau yn eu hwynebu ac i wneud yn sicr bod materion a phryderon rydym yn eu clywed gan breswylwyr yn cyrraedd pobl sydd yn y sefyllfa i wneud gwahaniaeth. Roedd hyn yn fy ngwneud yn chwilfrydig. A fyddai deiseb ar y cyd yn gwneud ymarfer da yn y mannau trafodwyd yn ddiweddar yn ein digwyddiad ‘Cyfarfod Gweinidogion’ ym Mae Colwyn? Rhoddodd y sesiwn yma'r gobaith y byddai’r Cynulliad Cenedlaethol yn rhedeg ymgynghoriadau penodol gyda rhai o’n preswylwyr. Yn fy marn i, gall Cynulliad Cenedlaethol Cymru ddim ond ennill o astudiaethau achos craff profiadau pobl yng Nghymru am faterion cyfoes.