Blog Gwadd - Gan Cyfranogaeth Cymru

Cyhoeddwyd 03/03/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 03/03/2014

Mae Cyfranogaeth Cymru yn gweithio gyda sefydliadau gwasanaethau cyhoeddus yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a'r trydydd sector i gyflawni ymgysylltiad cyhoeddus gwell wrth ddylunio, datblygu a darparu gwasanaethau sydd â dinasyddion Cymru yn y canol. Rydym yn cynnal rhwydweithiau cyfranogaeth rhanbarthol dair gwaith y flwyddyn sy'n addas i bawb y mae a wnelo'i waith â chyfranogaeth ac ymgysylltu â dinasyddion. Mae'r bobl sy'n cymryd rhan yn dod o wahanol sefydliadau yn y sector cyhoeddus a'r trydydd sector gyda ffocws ar amrywiaeth o faterion. Mae'r digwyddiadau hyn yn addas i’r rhai hynny, ar ba lefel bynnag, mewn sefydliadau sydd â diddordeb mewn gwaith cyfranogol ymarferol, gan gynnwys swyddogion ymgynghori, ymddiriedolwyr, gwirfoddolwyr, gweithwyr datblygu a rheolwyr. Mae gan bob digwyddiad rhwydwaith thema gyffredinol; y thema ddiweddaraf yn nigwyddiadau mis Chwefror oedd cynnwys y cyhoedd yn y gwaith craffu. Wrth baratoi'r rhaglen ar gyfer y diwrnod, teimlem y byddai tîm allgymorth Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn ddewis naturiol ar gyfer cyfraniad i'r pwnc hwn; felly, gwnaethom wahodd aelod o'r tîm i siarad ym mhob digwyddiad. Dechreuwn bob sesiwn gydag ymarfer i dorri'r garw. Y tro hwn, 'wal graffiti' ydoedd. Gofynnwyd i gyfranogwyr feddwl am gynifer o ddiffiniadau o'r gair craffu ag y medrent, neu roi enghreifftiau yr oeddent wedi’u gweld o waith craffu ar y teledu neu ar gyfryngau eraill. Fel hyn yr oedd hi ar ddiwedd y digwyddiad olaf o'r tri: Participation Cymru Y diffiniadau mwyaf cyffredin oedd atebolrwydd, gwirio a gofyn cwestiynau. Cafwyd ystyron diddorol hefyd! Gwelwch "Newsnight", "boring" a "sexy" yn eu mysg, os edrychwch yn ofalus! Nid cywir nac anghywir yw’r atebion hyn, ac mae’n amlwg bod y gair ‘craffu’ yn drwm gan ystyron. Cafodd cyfranogwyr fod y cyflwyniad gan y Cynulliad Cenedlaethol yn addysgiadol iawn, yn ddiddorol ac yn berthnasol gan ei fod yn rhoi enghreifftiau diweddar o ymchwiliadau gan bwyllgorau'r Cynulliad a'r modd yr oeddent wedi cynnwys y cyhoedd yn yr ymchwiliadau hynny. Roeddem yn hoffi yn arbennig y ffurfiau graffig a ddefnyddiwyd i gyflwyno gwybodaeth mewn modd hygyrch (mae'r Ymchwiliad i Lyfrgelloedd Cyhoeddus yng Nghymru yn enghraifft bert iawn) a'r defnydd o senarios - sef techneg i gasglu tystiolaeth y byddwn yn rhoi lle amlwg iddi yng nghylchlythyr nesaf Cyfranogaeth Cymru. Gallwch lawrlwytho'r cyflwyniad llawn o Dropbox yma. Clywsom hefyd gan arbenigwyr craffu lleol David Lloyd o TPAS Cymru (gogledd Cymru), Rebecca David-Knight o'r Ganolfan Craffu Cyhoeddus (de-orllewin Cymru) a Hazel Ilet o Gyngor Sir Fynwy (de-ddwyrain Cymru). Yng ngogledd Cymru, roedd llond bocs o eitemau gwahanol gan David, a phob un yn cynrychioli craffu. A allwch chi ddyfalu sut? Dyma nhw: • Tei • Chwyddwydr • Pêl ping-pong • Pyst gôl Yn ne-orllewin Cymru, pwysleisiodd Rebecca mai ymgysylltu â'r cyhoedd yw craffu ac mai grymuso yw'r gallu i herio penderfyniadau. Mae craffu yn cau'r bwlch o ran atebolrwydd democrataidd ac mae angen ymgysylltu o ansawdd i wasanaeth lwyddo, gan fod gwasanaethau yn dibynnu ar y defnyddwyr ac nid fel arall! Yn ne-ddwyrain Cymru, rhannodd Hazel enghreifftiau o astudiaethau achos, gan gynnwys achos o alw i mewn o ran cyfarfod pwyllgor craffu am ddynodi tir yn safle i Deithwyr. Canfu’r broses graffu hon ddiffygion yn y dystiolaeth a oedd yn ategu penderfyniad diweddar. Oherwydd y drafodaeth mewn fforwm cyhoeddus, fe aeth y penderfyniad gerbron y cyngor llawn. Mae hyn yn dangos grym y cyhoedd yn y broses graffu. Mae gan sir Fynwy hefyd fforwm agored cyhoeddus ar yr agenda i bob cyfarfod o'r pwyllgor craffu. Rydym bob amser yn gorffen ein digwyddiadau rhwydwaith cyfranogaeth gyda thrafodaeth grŵp ac yna dechneg i werthuso cyfranogi. Defnyddiasom 'calon, corff a meddwl' ac mae crynodeb o'r gwerthusiadau ar gael yma: Gogledd Cymru - 5 Chwefror, Wrecsam De-orllewin Cymru - 11 Chwefror, Caerfyrddin De-ddwyrain Cymru - 12 Chwefror, Casnewydd Rydym yn ddiolchgar iawn i Caryl, Lowri a Rhys o dîm allgymorth Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac i'n siaradwyr eraill am eu cyfraniad gwerthfawr i'r digwyddiadau hyn. Bydd y rownd nesaf o rwydweithiau cyfranogaeth ym mis Mai 2014, a'r thema yw cyd-gynhyrchu. Am fwy o wybodaeth neu i archebu lle, ewch i'n gwefan. Cofiwch nad yw'n costio dim i ddod i'r digwyddiadau hyn ac felly maent yn llenwi'n gyflym!