Blog Gwadd - Gweithdy Airbus

Cyhoeddwyd 06/01/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 06/01/2014

Wythnos diwethaf bu’r gwneuthurwyr adain Cymraeg Airbus ymweld â Chynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae Airbus yn stori llwyddiant go iawn. Mae awyren Airbus yn esgyn neu lanio rhywle yn y byd bob 2.3 eiliad. Yn wir, mae awyrennau Airbus yn gwneud i fyny hanner y fflyd fasnachol sydd yn hedfan dros wybren y byd ac mae bob un ohonyn nhw yn hedfan ar adain wedi ei gwneud yn ein ffatri ym Mrychdyn, gogledd Cymru. Ar ddydd Mawrth 10 Ragfyr 2013, aethom a grŵp bach o’r 6000 o weithwyr o ein safle ym Mrychdyn, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yng Nghaerdydd. Fel cwmni angor Cymraeg roeddwn yn edrych ymlaen am ddiwrnod fyddai’n ehangu ein hymwybyddiaeth a rhoi mewnwelediad go iawn i ni o’r Cynulliad. Ni chawsom ein siomi. Dechreuwyd y diwrnod gyda throsolwg o Gynulliad Cenedlaethol Cymru, o’i chenhedliad at heddiw. Rhoddodd Rhys Morgan, Swyddog Ymgysylltu’r Cynulliad cyflwyniad gwybodus a chryno. Amlinellodd yr hanes a strwythur gwaith a dod â ni i gyd i fyny at y sefyllfa bresennol. Nesaf, derbyniwyd taith o’r Senedd. Wrth archwilio’r siambr ac ystafelloedd pwyllgorau roeddem wedi ein gwefreiddio a’r adeilad sydd wedi’w gynllunio i annog democratiaeth a ymgysylltu cyhoeddus. Cawsom ambell i stori difyr gan ein tywys Gareth Coombes a ddaeth a’r broses deddfwriaethol yn fyw i ni. Dilynwyd hyn gan gyfle i glywed am brosesau pwyllgorau, ymgysylltu busnes a sut mae adroddiadau yn cael ei greu gan y tîm ymchwil. Roedd hyn yn arwain yn dda i’n sesiwn nesaf, wrth i ni gwrdd ag aelodau o’r Pwyllgor Menter a Busnes dros ginio. Rhoddodd Nick Ramsay AC, Cadeirydd y Pwyllgor amlinelliad o gyfrifoldebau’r pwyllgor a rhoi’r newyddion diweddaraf am eu gwaith. Roedd yn wych cael rhannu newyddion diweddaraf Airbus gyda’r aelodau ac roeddem yn hynod o ddiolchgar eu bod wedi cymryd yr amser i ddod i’n cwrdd. Daeth y diwrnod i ben gydag uchafbwynt i nifer fawr o’r grŵp; y cyfle i weld cwestiynau’r Prif Weinidog. Daeth y sesiwn a’r diwrnod i ben yn dda ac roedd yn clymu mewn yn dda hefo’r hyn yr oeddem wedi ei ddysgu yn ystod y diwrnod. Roedd yn fraint arbennig cael clywed y teyrngedau i Nelson Mandela yn ystod y Cyfarfod Llawn. Roedd ein hymweliad yn hynod o wybodus a pleserus. Diolch unwaith eto i bawb a wnaeth y diwrnod mor werth chweil.