Blog Gwadd - Mae agor pwyllgorau i fyny yn gam ymlaen i ddemocratiaeth gryfach yng Nghymru

Cyhoeddwyd 06/10/2016   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 06/10/2016

Dr Andy Williamson, Hydref 2016 Mae'n wych gweld y pumed Cynulliad Cenedlaethol yn dechrau gyda bwriad cryf i gynyddu cyfranogiad y cyhoedd. Mae'r Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu eisoes wedi dechrau, gyda chadeirydd y Pwyllgor, Bethan Jenkins, yn gofyn i'r cyhoedd helpu i lywio'r hyn maent yn siarad amdano drwy amrywiaeth o gyfryngau arloesol a gwreiddiol. Dyma stamp o ddeddfwrfa fodern, un sydd wedi buddsoddi mewn democratiaeth gref a buddiannau gorau y bobl y mae'n gwasanaethu. Senedd Siambr Deddfwrfeydd agored, tryloyw a hygyrch yw'r dyfodol a gallwn weld hyn yn digwydd ledled y byd:
  • yn San Steffan, mae'r Pwyllgor Deisebau yn denu cynulleidfaoedd newydd i wylio'r hyn y mae eu senedd yn gwneud a chymryd rhan mewn dadleuon;
  • yn Brazil a Chile, mae deddfwriaeth yn cael ei rhannu ar-lein â'r cyhoedd, a all roi sylwadau, diwygio a phleidleisio ar y newidiadau hynny cyn iddynt gael eu cyfeirio'n ôl at aelodau;
  • mae deddfwrfeydd mor eang â Georgia, Paraguay a Ffrainc yn gweithredu strategaethau i gynyddu cyfraniad y cyhoedd yn yr hyn maent yn gwneud i sicrhau eu bod yn dryloyw a hygyrch;
  • Mae'r Alban, yr Eidal a'r Weriniaeth Tsiec yn enghreifftiau o seneddau sy'n darparu mynediad agored amser real i'w data, tra bod seneddau'r Iseldiroedd a Seland Newydd yn darparu archifau ar-lein y gellir chwilio drwyddynt yn llawn o gofnodion eu seneddau; ac
  • mae Serbia a Periw ymysg y deddfwrfeydd o amgylch y byd sy'n gweithio mewn partneriaeth â sefydliadau cymdeithas sifil, gan chwilio am ffyrdd newydd o agor i fyny, estyn allan, gwrando a rhannu.
Mae hwn yn arfer sy'n tarfu ar y gwaith ac mae tarfu mewn ffordd gadarnhaol, hyd yn oed, yn gallu golygu heriau. Gall aelodau deimlo bod mwy o gyfraniad yn tresmasu ar eu rôl fel democratiaeth gynrychioliadol, ac mae rhai hyd yn oed yn dweud ei fod yn bygwth hynny. Mewn gwirionedd, mae profiad yn dangos i ni ei fod yn gwneud y gwrthwyneb. Ac mae'n rhaid i ni roi datblygiadau fel hyn yn eu cyd-destun; mae aelodau yn dal i fod yn gwneud y penderfyniadau, maent yn dal i benderfynu ar y rhan fwyaf o fusnes pwyllgorau. Ond, ym myd y cyfryngau cymdeithasol a newyddion cyson, mae'n amlwg bod ymgysylltu'n fwy a chysylltu'n well o fudd sylweddol i aelodau sydd am deimlo'r hyn sy'n digwydd yn eu cymunedau. Ledled y byd, mae'n rhaid i'n cynrychiolwyr dderbyn gwneud eu gwaith nid yn unig yn llygad craff y cyhoedd ond gyda rhagor o gyfraniad gan y cyhoedd. Mae'n beth da; nid yw democratiaeth yn golygu pleidlais bob pum mlynedd; mae'n golygu cael llais bob dydd. Mae'r byd wedi newid, gan ein gorfodi i ail-lunio gwaith deddfwrfeydd wrth i fwy a mwy o gyfryngau amrywiol o gyfraniad cyhoeddus a rhyngweithio ddod i'r amlwg. Er mwyn deall pam bod hyn yn bwysig, i ddechrau mae'n rhaid i ni dderbyn y manteision o ymgysylltu mwy â'r cyhoedd, ac mae'r manteision hynny yn niferus. Mae yna heriau logistaidd hefyd, gwybod pa offer i'w defnyddio a cheisio peidio â berchen arnynt neu eu rheoli (neu'r drafodaeth). Mae'n rhaid i ni ddatblygu parodrwydd i fynd lle mae pobl, defnyddio'r offer maen nhw'n eu defnyddio, dewis beth sydd orau i'r swydd dan sylw. Mae cyhoedd mwy gwybodus ac sy'n cymryd rhan yn creu democratiaeth gryfach. Mae creu ffyrdd newydd i roi llais i bobl a chael mwy o ran yn yr hyn mae eu cynrychiolwyr yn ei wneud yn dechrau goresgyn y rhwystrau o ddiffyg ymddiriedaeth sydd wedi datblygu ar draws nifer o'n sefydliadau cyhoeddus. Nid yw'n ateb i bob problem. Does dim ateb syml ac mae pobl yn cymryd amser i ymddiried, yn gyflym i wthio eu hagenda eu hunain, i fynegi rhwystredigaeth pan nad ydynt yn cael eu ffordd eu hunain. Ni allwn ddisgwyl i system y mae pobl wedi bod yn ddrwgdybus ohoni ac sy'n cael ei gweld fel peth caeedig sy'n rheoli newid dros nos ac ni ddylem ddisgwyl i agweddau cyhoeddus newid yn syth ychwaith. Byddai hynny'n naïf. Proses barhaus yw hon. Mae angen i ni fod yn ofalus a goddefgar ond hefyd i fwrw ymlaen â'r hyder o wybod fod bod yn fwy agored yn well i bawb yn y pen draw. Gall agor pwyllgorau i fyny deimlo'n galed am ei fod yn galed. Ond dyna'r peth iawn i'w wneud ac mae'n angenrheidiol. Mae'n adlewyrchiad o'r newid cymdeithasol parhaus yn ein hagweddau at ddemocratiaeth, a fydd yn haws i'w groesawu os gallwn siarad yn agored a gonest am yr hyn mae'n golygu i gynrychiolwyr etholedig, staff a'r cyhoedd. Mae agor pwyllgorau i fyny yn golygu cynhwysiant. Mae'n golygu cynrychiolaeth gryfach, gwneud democratiaeth yn fwy cyfranogol a sut mae hyn o fudd i aelodau a'r cyhoedd. Mae democratiaeth agored yn arwain at well ddeddfwriaeth, deddfwriaeth sy'n ystyrlon a phriodol, sy'n seiliedig ar safbwyntiau ehangach, wedi'u trochi ym mhrofiadau pobl go iawn. Deddfwriaeth sy'n adlewyrchu'n well pwy ydym ni. Mae'r byd yn gymhleth, a bydd dod o hyd i ffyrdd newydd, dibynadwy o ddatrys problemau yn haws pan fyddwn yn gallu harneisio'r gronfa enfawr o dalent, gwybodaeth a syniadau sydd heb ei gyffwrdd am lawer rhy hir. I gyrraedd yno, mae angen mwy o addysg arnom, mwy o wybodaeth a mwy o bartneriaid i hybu gwell aeddfedrwydd gwleidyddol ac ymgysylltu'n effeithiol. Mae angen mwy o bobl arnom, lleisiau gwahanol i gael eu clywed a'u clywed yn amlach. Mae gwahodd pobl i bwyllgorau, gofyn iddynt helpu i lunio'r agenda a rhoi mwy o le iddynt gael eu clywed yn gamau cadarnhaol ymlaen. Y llwybr hwn tuag at ymgysylltu'n effeithiol yw hanfod democratiaeth fodern. Dr Andy Williamson yw Sylfaenydd Democratise a Llywodraethwr The Democratic Society . Yn ddiweddar, ysgrifennodd World e-Parliament Report 2016 ac mae'n gyd-awdur ‘From Arrogance to Intimacy - A Handbook for Active Democracies’.