Blog gwadd - Sgiliau STEM
Cyhoeddwyd 01/07/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 01/07/2014
Mae rhoi grŵp o wyddonwyr, mathemategwyr, technegwyr a electronwyr ifanc yn yr un stafell yn syniad eithaf brawychus. Lwcus felly bod y cynulliad wedi trefnu i ni siarad dros y we.
Fy enw i yw Aled Illtud, dwi’n astudio Ffiseg ym Mhrifysgol Aberystwyth. Cefais i, a nifer o fyfyrwyr STEM eraill, y cyfle i drafod ein pynciau a sut y gallwn wella neu gynnal gwahanol agweddau ohonynt. Cynhaliwyd y sgwrs ar Google Hangouts a chafodd nifer o eitemau ei drafod.
Cychwynnodd y sgwrs gydag Aelodau’r Pwyllgor Menter a Busnes yn gofyn i ni pam dewisom ein cwrs, a ydy'r pwnc yn addo swydd ar ôl, a sut ydyn ni'n hoffi'r pwnc. Yn bennaf roeddwn i am ymladd am dwf yr iaith Gymraeg yn bynciau STEM sydd yn amlwg o’r we sgwrs sydd ar gael i chi ei ddarllen.
Beth synnodd fi'r mwyaf oedd pa mor frwdfrydig oedd y myfyrwyr eraill am gael eu lleisiau wedi clywed. Mae’n braf iawn cael gweld bod pobl yn poeni digon am ei bynciau i allu cael trafodaeth ddifyr am yr hyn sydd angen i newid neu gadw yn eu meysydd.
Braf oedd bod yn rhan o’r sgwrs hwn. Dwi’n awgrymu i bawb arall sy’n frwdfrydig am ei gwrs i gymryd mantais ar unrhyw gyfleoedd tebyg. Mynegwch farn, hybwch gynnydd yn eich pwnc!
Am rhagor o wybodaeth ar ymchwiliad dilynol y Pwyllgor Menter a Busnes i Sgiliau STEM yng Nghymru cliciwch yma:
http://www.senedd.cynulliadcymru.org/mgIssueHistoryHome.aspx?IId=9156