Blog Gwedd: Digwyddiad Ymgynghori i Graffu ar y Bil Rhentu Cartrefi (Cymru)

Cyhoeddwyd 17/04/2015   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 17/04/2015

Fy enw i ydy Claire Blakeway a fi ydy Is-lywydd Campws Parc y Mynydd Bychan yn Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd. Ddydd Mercher 18 Mawrth, cymerais ran mewn digwyddiad ymgynghori i graffu ar y Bil Rhentu Cartrefi (Cymru). Roedd hyn yn golygu bod Aelodau'r Cynulliad yn siarad ag amrywiaeth eang o denantiaid am eu profiadau yn rhentu eiddo gan y cyngor, cymdeithasau tai a landlordiaid preifat. Cafodd tenantiaid o wahanol sectorau rhentu eu rhoi mewn grwpiau ffocws o dan arweiniad Aelodau'r Cynulliad. Yn fy grŵp ffocws i, roeddwn i'n cynrychioli barn myfyrwyr ynglŷn â tenantiaeth. Ar y cyfan, roeddwn yn cytuno a syniadau'r Bil Cartrefi newydd, ond fod angen rhagor o fanylion ynghylch cytundebau atgyweirio. Er enghraifft, mae angen amserlen fanwl yn y cytundeb sy'n amlinellu pa mor gyflym y bydd landlordiaid yn ymateb i gydnabod ac anelu at gyflawni atgyweiriad y mae tenant yn tynnu sylw ato. Dwi'n teimlo y gall tenantiaid aros yn hir iawn ar hyn o bryd cyn i atgyweiriadau gael eu gwneud, ac maent, felly, yn talu rhent ar eiddo nad yw o'r safon y gwnaethant dalu rhent amdano'n wreiddiol. Drwy weithredu cytundeb atgywirio gydag amserlen benodol, bydd y landlord a'r tenant yn gwybod yn union beth fydd y disgwyliadau arnynt o ran atgywiriadau, a gall y landlord weithio tuag at gyflawni'r atgyweiriad o fewn amser y cytunwyd arno, a bodloni disgywliadau eu tenant. Dyma gyfweliad a wnaeth Claire ar ôl y digwyddiad: [embed]https://www.youtube.com/watch?v=SWSiPicwQco&index=1&list=PLAiwHW5TKfkH-cUo-9HZ9xW_4Do_ZKujb[/embed] Siaradais gyda'r grwp ffocws hefyd am fy syniadau ynghylch sut mae angen gweithredu cosbau gadarnach yn erbyn landlordiaid a thenantiaid sy'n torri eu contractau. Y mwyaf llym yw'r cosbau, y mwyaf tebygol yw y bydd y contractau yn cael eu cadw a'u parchu. Wnes i wir fwynhau cymryd rhan yn y grwpiau ffocws, ac roeddwn wrth fy modd clywed Aelod oedd â chymaint o ddiddordeb mewn clywed barn myfyrwyr. Dwi'n edrych ymlaen at pan gaiff y Bil Cartrefi ei ryddhau, a gobeithio y bydd fy marn yn cael ei hystyried. Diolch i Gynulliad Cymru am y gwahoddiad! - Y cam nesaf fydd i'r Pwyllgor glywed barn pobl eraill am y Bil, mewn cyfarfodydd ffurfiol yn y Senedd. Cynhelir y cyfarfod cyntaf ddydd Mercher, pan fydd y Pwyllgor yn siarad â Lesley Griffiths AC, sef Gweinidog Llywodraeth Cymru sy'n gyfrifol am y Bil. Gallwch wylio'r cyfarfod hwn yn fyw ar Senedd TV. Gellir cael rhagor o wybodaeth am y cyfarfod yma.