Blog y Cadeirydd: Y Bil Casglu a Rheoli Trethi (Cymru)

Cyhoeddwyd 22/09/2015   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 22/09/2015

Jocelyn Davies Aelod Cynulliad Fy enw i yw Jocelyn Davies, a fi yw Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid (@SeneddCyllid). Yn ystod y tymor hwn, bydd y Pwyllgor yn brysur yn gweithio ar y Bil Casglu a Rheoli Trethi (Cymru). Cyfraith ddrafft yw Bil – unwaith i'r Cynulliad ei drafod a'i basio, bydd yn cael Cydsyniad Brenhinol gan y Frenhines, ac yna bydd yn dod i rym. Cyflwynwyd y Bil i'r Cynulliad ar 13 Gorffennaf 2015 ac mae gan y Pwyllgor gyfle i ystyried yr 'egwyddorion cyffredinol' neu brif amcanion y Bil hyd at 27 Tachwedd 2015. Cefndir y Bil Cyhoeddodd Llywodraeth y DU Fil Cymru ym mis Mawrth 2014 a chafodd Gydsyniad Brenhinol ym mis Rhagfyr 2014. Mae Deddf Cymru 2014 yn rhoi'r cymhwysedd i'r Cynulliad ddeddfu mewn meysydd datganoledig o ran treth ac yn rhoi fframwaith clir ar gyfer yr opsiynau polisi mewn perthynas â threthi newydd, gan gynnwys treth ar drafodion sy'n cynnwys buddiannau mewn tir a threth ar waredu i safleoedd tirlenwi. Y Bil Un o Filiau'r Llywodraeth yw hwn a chafodd ei gyflwyno gan Jane Hutt AC, sef y Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth (a elwir yr Aelod sy'n gyfrifol). Diben y Bil yw rhoi'r fframwaith cyfreithiol sydd ei angen ar waith ar gyfer casglu a rheoli trethi datganoledig yng Nghymru yn y dyfodol. Yn benodol, mae'r Bil yn darparu ar gyfer:
  • sefydlu Awdurdod Cyllid Cymru a fydd yn casglu ac yn rheoli trethi datganoledig yn bennaf;
  • cyflwyno'r dyletswyddau a'r pwerau priodol i Awdurdod Cyllid Cymru (a dyletswyddau a hawliau cyfatebol i drethdalwyr ac eraill) mewn perthynas â chyflwyno ffurflenni treth a chynnal archwiliadau ac asesiadau er mwyn galluogi'r Awdurdod i nodi a chasglu'r swm priodol o dreth ddatganoledig sy'n ddyledus gan drethdalwyr;
  • pwerau gorfodi ac ymchwilio sifil cynhwysfawr, gan gynnwys pwerau sy'n caniatáu i Awdurdod Cyllid Cymru ofyn am wybodaeth a dogfennau a chael mynediad  at safleoedd a mathau eraill o eiddo er mwyn eu harchwilio;
  • dyletswyddau ar drethdalwyr i dalu cosbau a llog mewn amgylchiadau penodol;
  • hawliau i drethdalwyr ofyn am adolygiadau mewnol o rai o benderfyniadau Awdurdod Cyllid Cymru ac i apelio i'r Tribiwnlys Haen Gyntaf yn erbyn penderfyniadau o'r fath; a
  • chyflwyno pwerau gorfodi troseddol ar Awdurdod Cyllid Cymru.
Gwaith y Pwyllgor – Cyfnod 1 Mae Cyfnod 1 yn cynnwys y Pwyllgor yn ystyried egwyddorion cyffredinol y Bil, yna bydd y Cynulliad yn cytuno ar yr egwyddorion cyffredinol hynny mewn pleidlais yn y Cyfarfod Llawn. Gwaith y Pwyllgor Cyllid yw canolbwyntio ar brif ddiben y Bil, yn hytrach nag yn edrych ar y manylion (sy'n fater ar gyfer y cyfnodau diweddarach). Dros yr haf, cynhaliodd y Pwyllgor ymgynghoriad yn gofyn i sefydliadau ac unigolion sydd â diddordeb ddarparu tystiolaeth ysgrifenedig er mwyn llywio gwaith y Pwyllgor. Cafwyd 15 o ymatebion ac maent ar gael i'w darllen ar ein gwefan. Rhan nesaf ein gwaith fydd gwahodd cynrychiolwyr o grwpiau sydd â diddordeb i ddarparu tystiolaeth lafar i'r Pwyllgor. Cynhaliodd y Pwyllgor ei sesiwn dystiolaeth gyntaf ar y Bil ar 17 Medi 2015. Yn y cyfarfod hwn, clywsom gan yr Aelod sy'n gyfrifol, y Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth, a gwnaethom ei holi  ynghylch y Bil a'i brif ddiben. Os hoffech weld y sesiwn, gallwch ei gwylio ar Senedd.TV. Sut i gymryd rhan a chael y wybodaeth ddiweddaraf Pound coins on a desk