Blog y Cadeirydd: Y Bil Rhentu Cartrefi (Cymru) (13/05/2015)

Cyhoeddwyd 13/05/2015   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 13/05/2015

Christine Chapman in Committee Rydym bellach dros hanner ffordd drwy'r broses o gasglu tystiolaeth. Cychwynnwyd y broses hon ar 22 Ebrill, pan gynhaliwyd sesiwn gyda'r Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi, yr Aelod sy'n gyfrifol am y Bil. Yn ystod yr wythnos ganlynol, ar 30 Ebrill, clywsom gan Gymdeithas y Cyfreithwyr, Tenantiaid Cymru, UCM Cymru a Let Down in Wales. Yr wythnos diwethaf, ar 6 Mai, daeth y Sefydliad Tai Siartredig, Tai Cymunedol Cymru, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, Cymorth Cymru, Tai Pawb a'r Tribiwnlys Eiddo Preswyl i'n cyfarfod i roi sylwadau ar y Bil. Yr wythnos hon, byddwn yn clywed gan gynrychiolwyr landlordiaid ac asiantaethau gosod tai, yn ogystal â Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig, Cyngor ar Bopeth Cymru a Shelter Cymru. Bydd y broses o gasglu tystiolaeth yn dod i ben ar 20 Mai, pan fyddwn yn clywed tystiolaeth gan y Gymdeithas Ymarferwyr Cyfraith Tai ac yn clywed tystiolaeth am yr ail dro gan y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi. Yn ogystal â'r dystiolaeth lafar a geir yn ystod ein cyfarfodydd pwyllgor ffurfiol, wrth ffurfio barn ar y Bil byddwn hefyd yn ystyried y 41 o ymatebion a gafwyd i'r ymgynghoriad cyhoeddus, a'r safbwyntiau a'r sylwadau amrywiol a fynegwyd yn ystod y digwyddiad a gynhaliwyd i randdeiliaid ym mis Mawrth. Bydd ein cyfarfod nesaf yn cael ei gynnal ddydd Iau 14 Mai. Gallwch wylio'r cyfarfod yn fyw ar Senedd.tv. Sut i gymryd rhan a chael y wybodaeth ddiweddaraf am waith y Pwyllgor