Cyhoeddwyd 30/06/2015
  |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024
Y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol: Adroddiad Cyfnod 1 y Pwyllgor
Ar 26 Mehefin 2015, cyhoeddwyd ein
Hadroddiad Cyfnod 1 ar y Bil Rhentu Cartrefi (Cymru) (PDF 1.22 MB). Mae’n cynnwys 37 o argymhellion ar gyfer y Gweinidog, sy’n angenrheidiol yn ein barn ni i gryfhau’r Bil.
Yn gyffredinol, roedd y dystiolaeth a glywsom yn dangos bod cefnogaeth i amcanion cyffredinol y Bil, yn enwedig o ran symleiddio’r gyfraith bresennol am rentu. Ond, clywsom bryderon penodol am nifer o rannau o’r Bil, ac mae ein hargymhellion i’r Gweinidog yn adlewyrchu’r pryderon hyn.
Ymhlith materion eraill, mae ein hargymhellion yn ymwneud â:
- chyflwr eiddo ar rent – h.y. y gofyniad ar landlord i sicrhau bod yr eiddo y mae’n ei gynnig i’w rentu yn ‘addas i bobl fyw ynddo’ ac mewn cyflwr da;
- y cynigion ar gyfer pobl ifanc 16 neu 17 mlwydd oed er mwyn gallu cynnal ‘contract meddiannaeth’ (y term newydd am denantiaeth);
- y cynigion sy’n caniatáu i landlordiaid wahardd rhywun sydd â chontract safonol â chymorth o’u cartref am hyd at 48 awr heb orchymyn llys.
Mae’r manylion llawn am ein holl argymhellion, gan gynnwys y rhai y cyfeiriwyd atynt uchod, i’w gweld yn ein hadroddiad.
Y cam nesaf o ran cynnydd y Bil yw’r ddadl Cyfnod 1. Trefnwyd y ddadl hon ar gyfer 7 Gorffennaf yn Siambr ddadlau’r Cynulliad, a bydd yn cynnwys trafodaeth ar y Bil gan yr Aelodau, a chytuno ynghylch a fydd y Bil yn mynd ymlaen i gam nesaf y broses ddeddfu.
Cadwch lygad ar #RentingHomesBill i gael y wybodaeth ddiweddaraf.
Sut i gymryd rhan a chael y wybodaeth ddiweddaraf am waith y Pwyllgor
Fideo byr o’r Cadeirydd yn trafod adroddiad y Pwyllgor:
[youtube https://www.youtube.com/watch?v=04Sr2joVBJM&w=560&h=315]