Cyhoeddwyd 25/03/2015
  |   Diweddarwyd Ddiwethaf 25/03/2015

Christine Chapman ydw i
(@ChrisChapmanAM), a fi yw Cadeirydd y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol.
Y Bil
Ym mis Chwefror, cyflwynodd y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi, Lesley Griffiths AC, y
Bil Rhentu Cartrefi (Cymru) i'r Cynulliad.
Bydd y Bil yn diwygio'r sail gyfreithiol yng Nghymru ar gyfer rhentu cartref oddi wrth landlord preifat neu landlord cymunedol, gan gynnwys awdurdodau lleol a landlordiaid cofrestredig.
Gwaith y Pwyllgor
Gan fod pwnc yn Bil yn dod o fewn cylch gwaith y Pwyllgor, gofynnwyd inni edrych ar ei 'egwyddorion cyffredinol' neu'r prif nodau. Gelwir hyn yn 'Gyfnod 1', ac rydyn ni'n defnyddio'r rhan hon o'r broses i glywed tystiolaeth ac i lunio adroddiad a fydd yn gwneud argymhellion i'r Gweinidog am newidiadau i'r Bil. Mae gennym tan 26 Mehefin i wneud hyn.
Rydyn ni wedi dechrau ar ein gwaith drwy gynnal
ymgynghoriad a gofyn i sefydliadau ac aelodau o'r cyhoedd edrych ar y Bil ac ysgrifennu atom i roi eu barn. Daw'r ymgynghoriad i ben ar 27 Mawrth, ac ar ôl hynny byddwn yn cyhoeddi'r dystiolaeth a gawsom.
Mae digon o amser ar ôl ichi anfon eich sylwadau ar y Bil; anfonwch nhw mewn e-bost at
SeneddCELG@Cynulliad.Cymru.
Digwyddiad i randdeiliaid
Yr wythnos diwethaf, cynhaliodd y Pwyllgor ddigwyddiad anffurfiol i randdeiliaid i glywed gan denantiaid am eu profiadau o rentu yng Nghymru. Roedd hwn yn ddigwyddiad diddorol iawn ac yn gyfle i aelodau'r Pwyllgor siarad â nifer o bobl a chasglu amryw o safbwyntiau. Fel Cadeirydd, fe gefais hyn yn hynod o ddefnyddiol wrth baratoi ar gyfer ein sesiynau tystiolaeth lafar.
[youtube https://www.youtube.com/watch?v=videoseries?list=PLAiwHW5TKfkH-cUo-9HZ9xW_4Do_ZKujb&w=560&h=315]
Mae lluniau o’r digwyddiad i’w gweld yn ein
albwm Flickr
Sesiynau tystiolaeth lafar
Bydd y Pwyllgor yn dechrau clywed tystiolaeth lafar ar y Bil ar ôl toriad y Pasg.
Ar 22 Ebrill, byddwn yn clywed gan y Gweinidog am y tro cyntaf, ac yna byddwn yn gwrando ar dystiolaeth sefydliadau dethol eraill.
Sut i gymryd rhan a chael y wybodaeth ddiweddaraf am waith y Pwyllgor