Cyhoeddwyd 25/11/2014
  |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024
Cyfnod 1 – Dadl yn y Cyfarfod Llawn ar yr egwyddorion cyffredinol
Brynhawn yma, bydd y Cynulliad yn trafod egwyddorion cyffredinol y Bil, a phleidleisio arnynt, yn y
Cyfarfod Llawn (y ‘ddadl Cyfnod 1’).

Yn ystod y ddadl hon, bydd Aelodau’r Cynulliad a’r Gweinidog yn cael cyfle i drafod cynnwys
Adroddiad Cyfnod 1 y Pwyllgor a’r argymhellion y mae’r Pwyllgor wedi cytuno arnynt.
Hefyd, mae’r ddadl yn gyfle i’r Gweinidog gadarnhau a yw’n cytuno ag unrhyw un o’r argymhellion a wnaed ai peidio, a nodi unrhyw newidiadau y mae’n bwriadu eu gwneud i’r Bil. Ar ddiwedd y ddadl, gofynnir i’r Cynulliad bleidleisio ar gynnig (cais ffurfiol) i gytuno ag egwyddorion cyffredinol y Bil.
Os bydd y Cynulliad yn cytuno, bydd y Bil yn symud ymlaen i’r cam nesaf, a elwir yn ‘Cyfnod 2’. Os nad yw’r Cynulliad yn cytuno â’r egwyddorion cyffredinol, mae’r Bil yn methu ac ni chymerir unrhyw gamau pellach mewn perthynas ag ef.
Gallwch wylio’r trafodion yn fyw yma:
http://www.senedd.tv/
Sut i gymryd rhan a chael y wybodaeth ddiweddaraf

Christine Chapman ydw i (
@ChrisChapmanAM), a fi yw Cadeirydd y
Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol.