Blog y Cadeirydd: Y Bil Trais ar sail Rhywedd, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru)

Cyhoeddwyd 12/11/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 12/11/2014

Christine Chapman AM Christine Chapman ydw i (@ChrisChapmanAM), a fi yw Cadeirydd y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol. Y tymor hwn, mae'r Pwyllgor wedi bod yn brysur yn gweithio ar y Bil Trais ar sail Rhywedd, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru). Cyfraith ddrafft yw Bil: unwaith i'r Cynulliad ei drafod a'i basio, bydd yn cael Cydsyniad Brenhinol gan y Frenhines, ac yna bydd yn dod i rym. Cyflwynwyd y Bil i'r Cynulliad ar 30 Mehefin 2014 ac roedd cyfle i'r Pwyllgor ystyried yr 'egwyddorion cyffredinol' neu brif amcanion y Bil hyd at 14 Tachwedd 2014. Y Bil Bil y Llywodraeth yw hwn, a gyflwynwyd yn wreiddiol gan Lesley Griffiths AC, y Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth ar y pryd. Yn dilyn ad-drefnu'r Cabinet, Leighton Andrews AC, y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus, sy'n gyfrifol am y Bil ers 12 Medi 2014. Mae'r Bil hwn yn ceisio sicrhau bod ffocws ar draws y sector cyhoeddus ar atal, diogelu a chymorth mewn cysylltiad â thrais ar sail rhywedd, cam-drin domestig a thrais rhywiol. Bydd yn ei gwneud yn ofynnol i Awdurdodau Lleol a Byrddau Iechyd Lleol baratoi strategaethau (neu gynlluniau) i geisio cyfrannu at roi terfyn ar y mathau hyn o drais. Caiff Cynghorydd Gweinidogol ei benodi a'i swydd fydd gweithio gyda Llywodraeth Cymru drwy roi cyngor a chymorth i Weinidogion Cymru fynd i'r afael â'r materion difrifol hyn. Gwaith y Pwyllgor Digwyddiad i randdeiliaid Cyn dechrau ein gwaith Pwyllgor swyddogol ar y Bil, gwnaethom gynnal digwyddiad anffurfiol i randdeiliaid lle clywsom gan ddarparwyr gwasanaethau sy'n gweithio gyda phobl y mae cam-drin yn effeithio arnynt. Roedd yn ddigwyddiad diddorol iawn lle cafodd aelodau'r Pwyllgor gyfle i siarad â nifer fawr o bobl o sefydliadau perthnasol a chasglu amrywiaeth eang o safbwyntiau.   A minnau'n Gadeirydd, roedd yn ddefnyddiol imi o ran paratoi ar gyfer ein sesiynau casglu tystiolaeth gan fy mod yn ymwybodol o'r prif faterion a phryderon. [embed]https://www.flickr.com/photos/nationalassemblyforwales/15755102011/[/embed] Casglu tystiolaeth ysgrifenedig a llafar – Cyfnod 1 o broses y Bil Fel y nodais, 14 Tachwedd oedd terfyn amser y Pwyllgor, ac roedd hynny'n golygu bod gennym 12 wythnos i weithio ar y Bil hwn. Cyfnod 1 yw enw'r cam hwn, pan fyddwn yn clywed tystiolaeth ac yn llunio adroddiad sy'n gwneud argymhellion i'r Gweinidog o ran gwelliannau y mae'r Pwyllgor yn cynnig y gellid eu gwneud i'r Bil. Dechreuom ein gwaith drwy gynnal ymgynghoriad a gofyn i sefydliadau ac aelodau o'r cyhoedd edrych ar y Bil ac ysgrifennu atom i roi eu barn ar ein cylch gwaith. Cawsom 90 o ymatebion ysgrifenedig. Gwnaethom hefyd gynnal cyfarfodydd Pwyllgor cyhoeddus lle gwahoddwyd sefydliadau perthnasol i siarad yn uniongyrchol â'r Pwyllgor ac ateb cwestiynau'r Aelodau. Clywsom gan amrywiaeth eang o sefydliadau gan gynnwys Barnado's, Cymorth i Fenywod a Cymru Ddiogelach, ymhlith eraill, gan helpu i lywio penderfyniadau'r Pwyllgor. Tystiolaeth gan y Gweinidog Rhan arall o gyfnod 1 sy'n bwysig iawn yw clywed gan y Gweinidog sy'n gyfrifol am y Bil a gofyn cwestiynau pwysig am ddiben a manylion y Bil. Gwnaethom hynny ar ddechrau a diwedd y broses yng nghyfnod 1. Cynhaliwyd sesiwn dystiolaeth gyda Lesley Griffiths AC, y Gweinidog a oedd yn gyfrifol am y Bil yn wreiddiol, ar 17 Gorffennaf ac yna gyda Leighton Andrews AC, sydd bellach yn gyfrifol amdano, yn ein sesiwn olaf ar 17 Medi. Trafod ein Hadroddiad ar Gyfnod 1 A ninnau bellach wedi gorffen casglu tystiolaeth, rydym wedi bod yn trafod y wybodaeth a gafwyd a byddwn yn cyhoeddi ein hadroddiad maes o law. Sut i gymryd rhan a chael y wybodaeth ddiweddaraf