Blog y Cadeirydd: Ymchwiliad i sylweddau seicoweithredol newydd

Cyhoeddwyd 12/05/2015   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 12/05/2015

DavidReesAM David Rees ydw i  (@DavidReesAM), Cadeirydd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Ym mis Medi 2014, dechreuodd y Pwyllgor drafod sylweddau seicoweithredol newydd (“NPS”). Erbyn hyn, rydyn ni wedi gorffen ein hymchwiliad, ac rydyn ni wedi ysgrifennu adroddiad (PDF, 1MB) yn gwneud 14 o argymhellion i Lywodraeth Cymru. Mae crynodeb (PDF, 252KB) ar gael hefyd. Beth yw sylweddau seicoweithredol newydd (NPS)? Mae NPS yn cael eu marchnata’n aml fel cyffuriau cyfreithlon, sy’n fwy diogel na chyffuriau anghyfreithlon, ac sy’n cael eu cynhyrchu mewn labordai a’u gwerthu ar y rhyngrwyd neu mewn siopau arbennig ar y stryd fawr (“head shops”). Cyfeirir atyn nhw'n aml fel “cyffuriau penfeddwol cyfreithlon” (legal highs). Mae’r ffordd yma o’u marchnata’n gamarweiniol  – gall eu sgil-effeithiau fod yr un mor ddifrifol â sgil-effeithiau cyffuriau anghyfreithlon, a gallan nhw fod yr un mor gaethiwus hefyd. Yn aml iawn, maen nhw'n cynnwys olion sylweddau nad yw’n gyfreithlon eu gwerthu na’u cymryd. Pam benderfynodd y Pwyllgor gynnal yr ymchwiliad hwn? Fe wnaethon ni benderfynu ymchwilio i’r mater hwn oherwydd bod y nifer sy’n defnyddio NPS wedi cynyddu yng Nghymru, a lleoedd eraill, yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Bu farw 60 o bobl yng Nghymru a Lloegr yn 2013 oherwydd NPS. Roedd hyn 15 y cant yn uwch na’r flwyddyn flaenorol. Roedd yr Aelodau yn poeni am y niwed y mae NPS yn ei achosi i iechyd pobl ac i’r gymdeithas, ac roedden nhw am dynnu sylw at y camau ymarferol y mae angen eu cymryd er mwyn i bobl allu gwneud penderfyniadau gwybodus am ddefnyddio NPS. Sut aeth y Pwyllgor ati i gasglu sylwadau gan bobl ar gyfer yr ymchwiliad? Defnyddiodd y Pwyllgor nifer o wahanol ffyrdd o ofyn barn pobl am NPS, gan gynnwys:
  • gofyn i’r cyhoedd lenwi holiadur.  Aeth 1072 o bobl o bob rhan o Gymru ati i lenwi’r holiadur;
  •  gwahodd cynrychiolwyr o gyrff allweddol i siarad â'r Aelodau mewn cyfarfodydd swyddogol yn y Senedd ym Mae Caerdydd;
  • cynnal grwpiau ffocws ym Merthyr Tudful a Wrecsam i glywed gan staff rheng flaen yn uniongyrchol. Aeth aelodau’r Pwyllgor i ymweld â phrosiect LOTS, Clwb Ieuenctid Forsythia, DrugAid a phencadlys DAN 24/7, llinell gymorth Cymru i helpu pobl sy’n camddefnyddio sylweddau. 
Rydyn ni wedi ysgrifennu blog am yr ymweliadau hyn ac rydyn ni hefyd wedi cyhoeddi lluniau o Wrecsam a Merthyr ynghyd â rhai fideos byr er mwyn ichi allu gweld beth y mae'r Pwyllgor wedi bod yn ei wneud: NPS NPS [youtube https://www.youtube.com/watch?v=k3DdKzhfrh8?list=PLAiwHW5TKfkGo7P-NpsxYme-XAO_ucUQ_] Mae'r Pwyllgor hefyd wedi defnyddio Storify. Beth ddywedodd pobl wrth y Pwyllgor a beth rydyn ni wedi’i wneud? Beth ddywedodd pobl wrth y Pwyllgor
  • Mae angen gwneud rhagor i godi ymwybyddiaeth y cyhoedd o’r niwed y mae sylweddau seicoweithredol newydd yn ei achosi.
  • Mae’r term ‘cyffuriau penfeddwol cyfreithlon’ yn gwbl anaddas.  Mae’n awgrymu ei bod yn ddiogel ac yn gyfreithlon i ddefnyddio’r cyffuriau hyn. Mewn gwirionedd, maent yn aml yn niweidiol iawn ac yn cynnwys sylweddau anghyfreithlon;
  • Dylai Llywodraeth y DU, sy’n gyfrifol am y polisi cyffuriau, wahardd cyflenwi sylweddau seicoweithredol  newydd, a gwneud y siopau arbennig ar y stryd fawr, a’r stondinau marchnad sy’n eu gwerthu, yn anghyfreithlon;
  • Ni ddylid rhoi record droseddol i’r rhai sy’n defnyddio sylweddau seicoweithredol newydd – gallai hynny wneud pethau’n waeth i ddefnyddwyr sy’n ceisio ailafael yn eu bywydau;
  • Nid ydym yn gwybod digon am nifer y bobl sy’n cymryd sylweddau seicoweithredol newydd a’r niwed y gall y sylweddau ei achosi.
Beth ddywedodd y Pwyllgor yn ei adroddiad
  • Dylid ailedrych ar fyrder ar y rhaglen addysg cyffuriau mewn ysgolion, i’w gwella, ac i sicrhau cysondeb drwy Gymru, ac i wneud yn siŵr bod y rhai sy’n ei chyflwyno wedi cael yr hyfforddiant a’r cymwysterau priodol.
  • Dylid datblygu rhaglen hyfforddi genedlaethol ar sylweddau seicoweithredol newydd i’r holl staff sy’n darparu gwasanaethau cyhoeddus (e.e. meddygon, nyrsys, yr heddlu, gweithwyr cymdeithasol, swyddogion carchar ac ati);
  • Dylai ymgyrch ymwybyddiaeth y cyhoedd 2015 Llywodraeth Cymru ar sylweddau seicoweithredol newydd gynnwys gwybodaeth wedi’i thargedu ar gyfer pobl ifanc, a phwysleisio nad yw cyfreithlon yn golygu diogel;
  • Dylai’r rhai sy’n gweithio yn y maes hwn, gan gynnwys y cyfryngau, roi’r gorau i ddefnyddio’r term “cyffuriau penfeddwol cyfreithlon” gan ei fod yn gamarweiniol iawn.
  • Dylai Llywodraeth Cymru annog Llywodraeth y DU i gymryd camau cyn gynted â phosibl i wahardd cyflenwi sylweddau seicoweithredol newydd fel yr awgrymwyd.
I weld yr 14 argymhelliad yn llawn darllenwch ein hadroddiad (PDF, 1MB) neu'r crynodeb (PDF, 252KB). Beth oedd barn Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU am ein hadroddiad? Yn ei hymateb i'n hadroddiad mae Llywodraeth Cymru  (PDF, 295KB) yn derbyn pob un o'n hargymhellion yn llwyr. Mae Swyddfa Gartref Llywodraeth y DU (PDF, 69KB) hefyd wedi ysgrifennu at y Pwyllgor i nodi ei bod yn croesawu ein gwaith a'i bod yn cefnogi pob un o'r 14 argymhelliad. Beth nesaf? Bydd ein hadroddiad yn cael ei drafod gan holl Aelodau'r Cynulliad ar 13 Mai yn y Siambr, prif le trafod y Cynulliad. Dyma gyfle i dynnu sylw at y mater pwysig hwn, ac i ofyn i Weinidog Iechyd Llywodraeth Cymru beth fydd Llywodraeth Cymru yn ei wneud i roi ein hargymhellion ar waith. Rydw i am ddiolch i bawb a dreuliodd amser yn rhannu eu profiadau ym maes NPS ac am eu sylwadau ynghylch y camau y mae angen eu cymryd i godi ymwybyddiaeth y cyhoedd o’r niwed y gall NPS ei achosi. Er mai’r cyfan y gall y Pwyllgor ei hun ei wneud yw argymell newidiadau, yn hytrach na gwneud y newidiadau ei hun, bydd yn parhau i roi pwysau ar Lywodraeth Cymru ac eraill i roi’r camau y mae wedi’u nodi yn ei adroddiad ar waith. Sut i gymryd rhan a chael y wybodaeth ddiweddaraf