Cyhoeddwyd 21/10/2016
  |   Diweddarwyd Ddiwethaf 21/10/2016
Wythnos diwethaf, canolbwyntiodd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol eu sylw ar Amaethyddiaeth a Physgodfeydd a’r goblygiadau i Gymru wrth gefn penderfyniad y DU i ymadael â’r UE.
Gallwch wylio’r sesiwn cyfan ar
Senedd.TV.
Fel rhan o’r sesiwn, gwahoddwyd yr Aelodau banel o arbenigwyr i drafod eu barn ar y meysydd i’w blaenoriaethau yn y sectorau amaeth a physgodfeydd yn y negodi wrth i’r DU ymadael â’r UE, a’r heriau ar ôl i hyn ddigwydd.
Gallwch ddilyn y trafodaethau ar Twitter a
Facebook gan ddefnyddio
#BrexityngNghymru. I gadw golwg ar waith y Pwyllgor dilynwch
@SeneddMADY.
Y prif faterion i Amaethyddiaeth
Caiff y polisïau sy'n effeithio ar ffermio yng Nghymru a'r gadwyn cyflenwi bwyd eu pennu i raddau helaeth gan yr UE drwy'r
Polisi Amaethyddol Cyffredin (PAC),
deddfwriaeth diogelwch bwyd a lles anifeiliaid a hefyd yn anuniongyrchol gan reolau
Sefydliad Masnach y Byd (WTO).
Y PAC yw mecanwaith yr UE ar gyfer darparu cymorth uniongyrchol i ffermwyr, ar gyfer diogelu cefn gwlad ac i gefnogi datblygiad ardaloedd gwledig. Mae'r PAC yn rhedeg am gyfnod o saith mlynedd. O dan rownd bresennol PAC, 2014-2020, bydd Cymru'n derbyn tua
£322 miliwn o gyllid y flwyddyn mewn taliadau uniongyrchol i ffermwyr yn ogystal â €355 miliwn ar gyfer ei rhaglen datblygu gwledig 2014-2020.
Llywodraeth Cymru sy’n
uniongyrchol gyfrifol am weithredu'r PAC yng Nghymru, ac mae'n ofynnol iddi gydymffurfio â gwahanol Reoliadau'r UE sy'n gosod fframwaith cyfreithiol y polisi. Yn achos ffermwyr sy'n gymwys ar gyfer y PAC, mae hyn yn golygu mai Llywodraeth Cymru sy'n rheoli'r taliadau uniongyrchol a gânt.
Sut fyddai’r DU yn tynnu allan o’r PAC? A fyddai’n cael ei gyflwyno’n raddol dros gyfnod o amser neu’n dod i ben yn syth ar ôl i’r DU adael?
Mae’r sector amaethyddol yng Nghymru yn dibynnu'n drwm ar y cymorthdaliadau presennol y mae'n ei dderbyn o dan y PAC i wneud elw. Mae hyn yn arbennig o wir i ffermydd ucheldir. Croesawyd cyhoeddiad y Canghellor y bydd Llywodraeth y DU yn parchu'r lefelau presennol o daliadau uniongyrchol i ffermwyr tan 2020 gan yr undebau ffermio.
Fodd bynnag, mae rhai wedi galw am eglurder ynghylch sut mae unrhyw gronfa ddosbarthu ar ôl ymadael â’r UE, sydd yno’n cael ei ddyrenni i Lywodraeth Cymru ac wedyn gan Lywodraeth Cymru i ffermwyr Cymru. Yn ogystal, ceisiwyd eglurhad ynghylch y lefelau a'r mathau o unrhyw arian sydd ar gael ar ôl 2020.
Bydd cwestiwn allweddol i’r diwydiant ynghlwm y lefelau cyfredol o gyllid bydd ar gael ar gyfer cymorth amaethyddol, ac os mae'r rhain yn cael eu cynnal yn y hir dymor. Mae arbenigwyr wedi nodi bod Trysorlys y DU wedi mynegi barn gref o blaid lleihau cymorth incwm uniongyrchol i ffermwyr yn y gorffennol.
Bydd Cymru yn parhau i fod yn gymwys i dderbyn cyllid yr UE o dan y PAC, i gymryd rhan mewn rhaglenni UE, ac i ddefnyddio mathau eraill o ariannu (er enghraifft drwy Fanc Buddsoddi Ewrop) tan fod y DU yn ymadael â’r UE yn swyddogol.
Pa fframwaith a fyddai’n cael ei roi ar waith o fewn y DU i gymryd lle PAC? Sut y byddai hyn yn cael ei sefydlu? A fyddai hyn yn digwydd ar lefel DU neu lefel ddatganoledig?
Bydd angen ystyried y mater o i ba raddau bydd polisi amaethyddol y DU neu bedwar polisi ar wahân o fewn y DU.
Mae rhan fwyaf o arbenigwyr wedi dod i’r casgliad bod o’n debygol y bydd mwy o wahaniaethu yn bolisïau ffermio yn y DU ar ôl gadael i ystyried y wahanol natur o ffermio ledled y DU. Mae undebau ffermio yn ymgynghori ar hyn o bryd gyda’u haelodau ar yr opsiynau dyfodol posib i bolisïau ffermio, ond mae rhai wedi amlinellu eu dewis ar gyfer fframwaith eang ledled y DU, gyda gweinyddiaethau datganoledig hefo’r rhyddid i greu polisïau eu hunain.
Yn ogystal, mae undebau ffermio wedi amlinellu eu gofidion ynghlwm gallu o fewn y Llywodraethau perthnasol i allu creu a dylunio polisïau amaethyddol newydd. Maent yn amlygu’r ffaith bod Llywodraethau yn y DU yn y gorffennol wedi bod yn gyfrifol am weithredu’r PAC, ond nid wedi dylunio system newydd sbon.
Mae arbenigwyr eraill wedi dweud bod y cyfnod tebygol o ansicrwydd yn y diwydiant yn gallu atal ffermwyr rhag gwneud penderfyniadau ynghlwm gwelliannau neu fuddsoddiadau hirdymor ac felly, bydd eglurder cynnar ynghylch cyfeiriad unrhyw bolisïau yn y dyfodol yn bwysig.
Pa drefniadau y gellid eu rhagweld ar gyfer masnachu cynnyrch amaethyddol o fewn yr UE?
Mae nifer o randdeiliaid ac arbenigwyr wedi mynegi eu pryder ynghylch yr angen i sicrhau mynediad i’r farchnad i fasnachu cynnyrch amaethyddol y DU. Mae oddeutu 60 i 65 y cant o bwyd-amaeth yn cael ei allforio i’r UE a tua 70 y cant o fwyd y DU yn cael ei fewnforio o’r UE. Roedd allforion bwyd a diod o fusnesau TAW wedi’u gofrestru yng Nghymru yn £302m yn 2014, gyda llaeth ac wyau ar eu uchaf yn 48 y cant (£145.2m)
Y tâl cyfartalog a osodir gan yr UE ar gynnyrch amaethyddol sydd heb dderbyn mynediad ffafriol i'r farchnad Ewropeaidd yw 12.2 y cant ond mae hyn yn codi i hyd at 67 y cant ar gyfer rhai cynhyrchion cig. Fodd bynnag, os da ni’n dod i gytundeb masnach rydd lwyddiannus gyda'r UE sy’n cynnwys cynhyrchion a gwasanaethau amaethyddol , na fydd y cyfraddau tariff yn berthnasol.
Mae’r holl randdeiliaid ac arbenigwyr wedi tynnu sylw at y risgiau potensial a’r cyfleodd i’r diwydiant gan ddibynnu ar natur unrhyw gytundebau masnach sy’n cael eu cytuno. Hefyd, bydd effaith amrywiol ar draws sectorau gydag enillwyr a chollwyr ym mhob un sefyllfa, h.y. rhai cynnyrch amaethyddol yn fwy sensitive i amodau masnach a’r farchnad nag eraill.
Roedd Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr wedi
comisiynu astudiaeth ar effeithiau gwahanol sefyllfaoedd masnach ar y sector. Daeth yr astudiaeth i’r casgliad y gallai rhai sectorau, fel y sector dofednod, gweld cyfleodd i gynyddu cynhyrchiant ac incwm o dan gytundeb masnach rydd gyda’r UE, tra bod sectorau eraill megis da byw yn debygol o weld gostyngiad mewn incwm. Mae’r astudiaeth hefyd yn amlygu os bod mewnforion o’r UE yn dod yn fwy drud, efallai gall cyfleoedd godi i gyflenwyr domestig i werthu mwy o gynnyrch yn lleol.
Beth fyddai’n digwydd i gynnyrch amaethyddol gyda dynodiadau arbennig fel Cig Eidion a Chig Oen Cymru?
Bydd angen ystyried beth fyddai’n digwydd i gynnyrch amaethyddol Cymru gyda dynodiadau arbennig o dan gynllun enwau bwyd wedi’u hamddiffyn gan yr UE, megis Cig Eidion, Cig Oen, Cregyn Gleision Conwy a Ham Caerfyrddin. Dywedodd y
Rhwydwaith Gwyddonydd Fferm bod yr UE yn rhoi pwysigrwydd mawr ar y cynllun amddiffyn enwau bwyd fel ffordd o annog gwerth ansawdd uchel y bwyd a all gynyddu'r enillion i ffermwyr.
Roedd y Rhwydwaith hefyd wedi nodi byddai’r UE yn debygol o fynnu bod y DU yn amddiffyn enwau bwyd ym marchnad y DU fel rhan o unrhyw gytundeb masnach. Yn ogystal, daw i’r casgliad mewn unrhyw achos y byddai rheolau Sefydliad Masnach y Byd yn gofyn i’r DU gynnig y lefel diogelu ofynnol ar gyfer yr enwau bwydydd amddiffynnwyd gan yr UE, megis Caws Parmesan a Parma Ham.
O dan Sefydliad Masnach y Byd, mae’n ofynnol i’r UE diogelu unrhyw gynnyrch traddodiadol o drydedd wlad a warchodir mewn marchnadoedd domestig eu hunain. Efallai y bydd Llywodraeth y DU a’r gweinyddiaethau datganoledig felly ystyried rhoi mecanwaith amddiffyn newydd ar waith ar gyfer cynhyrchwyr bwyd yn y DU. Mae’r broses o wneud cais am statws yn cael ei reoli’n uniongyrchol gan reoliadau Ewropeaidd ar hyn o bryd, a bydd amddiffyn cynnyrch sydd â’r statws hwn yn dod i ben pan fydd y DU yn ymadael, oni bai bod mesur newydd yn cael eu rhoi yn eu lle.
Y prif faterion i bysgodfeydd yng Nghymru
Llywodraeth Cymru sy’n gyfrifol am reoli a gorfodi pysgodfeydd môr yng Nghymru, yn cynnwys gweithredu'r
Polisi Pysgodfeydd Cyffredin (
PPC).
Mae'r polisi hwn yn pennu'r rheolau sy'n llywodraethu ac yn rheoli pysgota stoc benodol ym moroedd Ewrop. Mae hyn yn cynnwys gosod cwotâu ar gyfer faint o bysgod y gall gwahanol fflydoedd pysgota eu dal; gosod rhai rheolau ar y mathau o gyfarpar a ddefnyddir; pennu strwythurau i Aelod-wladwriaethau reoli eu pysgodfeydd ar sail ranbarthol; rheoli pa fflydoedd sy'n cael mynd i wahanol ddyfroedd a rheoliadau i sicrhau bod pysgodfeydd yn gweithredu ar lefelau cynaliadwy.
A fydd y DU angen system newydd o reoli pysgodfeydd?
Bydd angen i’r DU dylunio system newydd o reoli ei fflyd pysgota tu allan i’r UE. Er bod materion pysgodfeydd wedi’u ddatganoli i raddau helaeth, mae cwota'r DU wedi’i rannu yn unol â choncordat pysgodfeydd y DU yn unig; hynny yw, nad yw dyraniadau’r cenhedloedd datganoledig wedi’i ymgorffori yn y gyfraith. Bydd angen i Lywodraeth y DU a’r gweinyddiaethau datganoledig gynnal trafodaethau ynghylch sut bydd y system newydd yn gweithio, pwy fydd yn gyfrifol am orfodi ac, os yw’r system cwota ar waith drwy gytundeb gyda’r UE, ac, o bosib, wledydd unigol o fewn a thu allan i’r UE, sut bydd y cwota yn cael ei rannu. Hefyd, bydd angen ymgynghori gyda’r diwydiant ar unrhyw opsiynau posibl yn y dyfodol.
Yn ystod dadl y refferendwm, roedd llawer yn credu bod cyfran y DU o’r cwota PPC yn annigonol a gobeithiai y gallai gynyddu cyfleoedd pysgota y tu allan i’r UE. Wrth ystyried y mater hwn, byddai Llywodraeth y DU a’r gweinyddiaethau datganoledig angen penderfynu ba raddau y byddai’r niferoedd cynyddol y cwota yn effeithio ar ostwng stoc ac adfer dyfroedd y DU. Mae nifer o weithredwyr pysgota yn defnyddio eu cyfrannau cwota fel sicrwydd cyfochrog yn erbyn benthyciadau banc ar gyfer gwella ac atgyweirio eu llongau.
Pa benderfyniadau bydd angen eu gwneud mewn perthynas â chaniatáu mynediad i gychod i ddyfroedd Prydain a mynediad pysgotwyr Prydan i ddyfroedd yr UE?
Mae gan y DU nifer o ffiniau môr â gwledydd tramor. Mae 6 ffin ym Môr y Gogledd ar eu hunain.
Ym moroedd Cymru'r brif ffin dramor yw gydag Iwerddon. Yn ogystal â mynediad i holl ddyfroedd o fewn ardal o 12 milltir forol i 200 milltir o holl wladwriaethau’r UE, mae’r DU hefyd yn elwa o fynediad i ddyfroedd nifer o wledydd eraill, megis Norwy, Gwlad yr Iâ ac Ynysoedd y Ffaröe, drwy gytundebau dwyochrog yr UE gyda’r gwledydd hyn.
Bydd angen felly i Lywodraeth y DU gyda’r gweinyddiaethau datganoledig benderfynu beth, os unrhyw, mynediad maent am i ddyfroedd yr UE a dyfroedd y gwledydd eraill. O gofio natur llawer o’r stociau pysgod allweddol yn nyfroedd y DU megis penwaig a macrell, bydd angen penderfynu a oes angen rheoli stociau ar y cyd a rhannu mesurau gyda’r gwledydd hyn. Gall y DU ddewis cau ei holl bysgodfeydd o fewn ei moroedd tiriogaethol i gychod pysgota o fflydoedd tramor ond byddai angen ystyried nifer o ffactorau wrth wneud hynny.
Pe bai Llywodraeth y DU a’r gweinyddiaethau datganoledig yn ystyried cyfyngu mynediad i unrhyw un neu bob un o’i dyfroedd byddai angen ystyried hawliau pysgota hanesyddol. Gallai gweinyddiaethau’r DU dewis anwybyddu’r hawliau hyn, ond gallai gwledydd lle mae fflyd bysgota’r DU yn berchen ar hawliau pysgota hanesyddol dial. Mae llawer o’r hawliau pysgota hanesyddol yma’n deillio o’r oesoedd canol a bydd angen i Lywodraeth y DU ystyried p’un a bydd methu â pharchu’r hawliau hyn yn torri cyfraith ryngwladol.
Mae hawliau pysgota hanesyddol felly’n debygol o leiaf ei gwneud yn ofynnol i rai rheoli ar y cyd â gwledydd eraill, os na mynediad i weithredwyr pysgota yn y DU I ddyfroedd tramor. Gallai methiant i gytuno ar rai rheoli ar y cyd hefyd olygu bod gwledydd yn manteisio ar y stoc yn eu dyfroedd, ac yna cael effaith andwyol ar y nifer sy’n symud wedyn i ddyfroedd y DU.
Beth am fynediad i’r farchnad sengl?
Mae’r DU yn allforio cyfran o’i ddal blynyddol i’r UE. Ffrainc yw farchnad allforio fwyaf y DU. Mae’r ffigurau a ryddhawyd gan Lywodraeth y DU ym mis Ebrill 2016 yn datgan bod:
- 70 y cant o gyfanswm allforion bwyd môr y DU, gwerth £900 miliwn, wedi mynd i wladwriaethau’r UE; AC
- 85 y cant o allforion pysgod cregyn y DU, gwerth £360 miliwn, wedi mynd i’r UE.
Bydd angen i Lywodraeth y DU a’r gweinyddiaethau datganoledig ystyried mater mynediad i’r farchnad sengl ar gyfer bwyd môr fel rhan o’r negodi masnach. Yn ogystal, wrth benderfynu a ddylid cyfyngu ar fynediad i gychod pysgota tramor i ddyfroedd y DU, efallai bydd angen ystyried yr effeithiau posibl y penderfyniad hwn ar unrhyw drafodaethau ynglŷn â mynediad i’r farchnad sengl. Bydd y mater o allforio pysgod cregyn yn arbennig o bwysig I Gymru oherwydd ei ddibyniaeth ar y rhywogaethau hyn.
Pa fframwaith a fyddai’n cael ei roi ar waith o fewn y DU i gymryd lle Cronfa’r Môr a Physgodfeydd Ewrop?
Mae’r Cronfa Môr a Physgodfeydd Ewrop yn helpu I gyflawni’r PPC a polisiau morol eraill yn y DU. Mae’n gweithredu dros gyfnod o saith mlynedd (2014 – 2020). Dyrranwyd €19.78 miliwn i Gymru o chyfanswm €243 miliwn â ddyranwyd Ir DU.
Fel PAC, mae polisi pysgodfeydd yn faes lle byddai ymadael yn gallu arwain at ddiwedd cyfranogiad yn y PPC yn Ewrop ac yng Nghronfa’r Môr a Physgodfeydd Ewrop. Fodd bynnag, byddai’n parhau i fod yn factor pwysig yn y trefniadau negodi.
Bydd angen I Lywodraeth y DU a’r gweinyddiaethau datganoledig ystyried, os o gwbl, mecanweithiau y dymunant ei gyflwyno yn lle’r Gronfa Cronfa’r Môr a Physgodfeydd Ewrop ac os a gwneir hyn ar sail y DU cyfan neu bob gwlad benodol o fewn y DU. O dan y Gronfa’r Môr a Physgodfeydd Ewrop presennol, mae pobl gwlad gyfansoddol o fewn y DU wedi cynllunio ei rhaglenni ei hun yn ôl blaenoriaethau ei hun.
Darperir cyfnogaeth ar gyfer amrywiaeth o weithgareddau gan gynnwys casglu data, mesurau gorfodi pysgodfeydd ac arferion pysgota cynaliadwy. Pe bai’r gweinyddiaethau datganolegig yn ymuno datblygu mecanweithiau cymorth ariannol eu hunain, efallai y bydd angen ystyried a fydd angen amddiffyn cyllid ar gyfer pysgofeydd mewn rhyw ffordd neu ymgorffori yn ddosbarthiad y grant bloc gan Llywodraeth y DU.
Y camau nesaf
Yr wythnos hon ar 17 Hydref, bu’r Pwyllgor yn ystyried y goblygiadau i Gymru mewn perthynas â gwasanaethau cyhoeddus.
Gallwch ddarllen mwy am yr opsiynau sydd yn agored i’r Deyrnas Unedig ystyried ym mhapur
Adran Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru neu ddarllen ein blogiau ar
Fasnach a’r gyfraith ryngwladol,
datblygiadau diweddar a
chyllid, ymchwil a buddsoddi.
Gallwch ddilyn y trafodaethau ar Twitter a
Facebook gan ddefnyddio #BrexityngNghymru. I gadw golwg ar waith y Pwyllgor dilynwch
@SeneddMADY.