Busnesau’n rhannu eu profiadau o allforio

Cyhoeddwyd 17/03/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 17/03/2014

Mae rhai o fusnesau a masnachwyr Cymru wedi cymryd rhan mewn cyfweliadau fideo’n ddiweddar  gyda thîm Allgymorth y Cynulliad. Cymerodd saith o fusnesau ran mewn cyfweliad pan ofynnwyd i berchnogion busnes roi sylwadau ar y modd y mae Llywodraeth Cymru yn hyrwyddo masnach a mewnfuddsoddiad, gan sôn yn benodol am y canlynol: -y rhwystrau sy’n wynebu’r rhai sy’n ystyried allforio a pha mor effeithiol yw’r cymorth sydd ar gael gan Lywodraeth Cymru (a Llywodraeth y DU)  i leihau’r rhwystrau hynny; - manteision allforio; - a oes gan farchnadoedd tramor ddealltwriaeth lawn o’r hyn y gall Cymru a busnesau Cymru ei gynnig. Roedd y busnesau a gafodd eu cyfweld yn cynnwys amrywiaeth o wahanol ddiwydiannau (gan gynnwys gweithgynhyrchu: Trax JH Limited, bwyd a diod: Brecon Brewing a melysion: Bon Bon Buddies), ac roeddent yn dod o wahanol rannau o Gymru (gan gynnwys Ceredigion: Howies, Ynys Môn: Halen Môn, a Llanelli: WeldWide Solutions). Roedd pob busnes heblaw un yn allforio’u cynnyrch ar hyn o bryd, ac roedd rhai ohonynt wedi cael cymorth gan Lywodraeth Cymru i’w helpu i fasnachu dramor, ond nid pob un. Tom Vousden Design, cwmni dylunio dodrefn o Ynys Môn, oedd yr unig fusnes a gafodd ei gyfweld nad oedd yn allforio ar hyn o bryd, a soniodd am ei ddymuniad i wneud hynny yn y pen draw, er y byddai’n hoffi i Lywodraeth Cymru ei gynorthwyo drwy nodi partneriaid mewn marchnadoedd tramor. Cafodd pob cyfweliad ei olygu mewn pecyn fideo a rannwyd yn ôl y themâu a gododd yn ystod y trafodaethau, sef: -          Cymorth gan Lywodraeth Cymru; -          Canfyddiadau presennol o frand Cymru; -          Manteision masnachu’n rhyngwladol; -          Rhwystrau i fasnach ryngwladol; a -          Meysydd i’w gwella. Disgrifiodd John Halle, Rheolwr Gyfarwyddwr Trax JH Limited y profiad: “Rwy’n falch iawn i mi gael y cyfle i sôn am fewnfuddsoddiad a Llywodraeth Cymru … Yr hyn yr hoffwn ei ddweud wrth bobl sy’n ystyried allforio... gallai Llywodraeth Cymru geisio denu rhagor o bobl sydd â phrofiad ym maes allforio, rhai sydd wedi goresgyn problemau, wedi mentro ac wedi llwyddo... a’u defnyddio nhw i siarad â phobl oherwydd eu bod yn gallu rhoi enghreifftiau o sut y mae pethau yn y byd go iawn”. Dangoswyd y pecyn fideo i’r Pwyllgor Menter a Busnes fel rhan o’u hymchwiliad i fasnach a mewnfuddsoddiad mewn cyfarfod yn y Senedd. Gallwch wylio’r fideo cyfan yma: [youtube=https://www.youtube.com/watch?v=VfjqDnDDylE] Bydd y Pwyllgor yn awr yn ystyried cynnwys y fideo ynghyd â’r wybodaeth ysgrifenedig a gyflwynwyd, a’r cyfarfodydd a gafwyd gyda chyrff a busnesau perthnasol yn y Senedd. Bydd y Pwyllgor yn cael cyfle i holi tystion gan gynnwys cyfrifoldeb y Gweinidog, arbenigwyr polisi a chynrychiolwyr eraill.