Bws Allgymorth y Cynulliad yn Eisteddfod yr Urdd, Eryri 2012.

Cyhoeddwyd 14/06/2012   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/06/2012

Cynhelir Eisteddfod yr Urdd eleni yng Nglynllifon, ger Caernarfon yng Ngwynedd. Hwn oedd y digwyddiad cyntaf yng nghalendr sioeau haf y bws Allgymorth y flwyddyn hon. Egyr drysau’r bws i’r cyhoedd ar ddiwrnod cyntaf yr ŵyl gan groesawu dros 800 o ymwelwyr gan gynnwys sawl cystadleuydd. Roedd gweithgareddau ar y bws yn hynod o boblogaidd megis Cwis y Bws. Roedd rhaid i blant ddarganfod gwybodaeth am y Cynulliad gan ddefnyddio’r paneli gwybodaeth tu fewn i’r bws, ac wrth edrych ar y murlun tu allan. Hybwyd cyfranogiad yng nghystadleuaeth ffotograffiaeth y Llywydd gan gynnig cyfle i ennill camera digidol wrth lenwi ffurflen adborth.

Atyniad pennaf y bws oedd Wal yr Aelodau. Galluogodd hyn i aelodau’r cyhoedd ddarganfod pwy oedd yn eu cynrychioli nhw yn ogystal ag amlygu unrhyw faterion oedd yn eu poeni nhw yn eu hardaloedd lleol ar gardiau post oedd yn cael eu glynu ar fap o Gymru. Gobeithiwn i adborthi’r canlyniadau i’r Aelodau I ddangos pa bynciau sydd o bwys i'w hetholwyr. Y pynciau oedd yn codi amlaf oedd o fewn meysydd pwnc Chwaraeon & Hamdden a'r Amgylchedd.

Dydd Llun daeth Simon Thomas AC i Ganolbarth & Gorllewin Cymru I ddal sesiwn galw heibio ar y bws, fe gafodd sgwrs gyda phlant ysgol am faterion yn ymwneud a Phriffyrdd a Thrafnidiaeth yng Nghymru. Daeth Mike Hedges AC I Ddwyrain Abertawe ar y bws hefyd, gan sgwrsio gydag aelodau’r cyhoedd am ei rôl ef yn y Cynulliad.

Yn anffodus, lleihaodd y nifer o ymwelwyr i’r maes tuag at ddiwedd yr wythnos oherwydd y glaw a'r mwd. Serch hynny fe groesawyd dros 2000 o ymwelwyr ar y bws i ddysgu mwy am y Cynulliad a sut i ddweud eu barn.

Os nad oedd cyfle gennych i ddod draw i’r bws yn Eisteddfod yr Urdd, dewch draw i Eisteddfod Ryngwladol Llangollen rhwng 3ydd - 7fed o Orffennaf, dyma fydd arhosfa nesa’r bws.