Bwyd, diod a Brexit ar y fwydlen ar gyfer craffu ar y Prif Weinidog

Cyhoeddwyd 26/03/2018   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 26/03/2018

Mae'r diwydiant bwyd a diod yn rhan bwysig o economi Cymru ac mae'r gadwyn gyflenwi bwyd yn un o sectorau mwyaf Cymru, yn cyflogi mwy na 240,000 o bobl gyda throsiant blynyddol o dros £19 biliwn. Yn ogystal â bod yn gyflogwr pwysig ynddo'i hun, mae cynhyrchu bwyd hefyd yn cefnogi nifer o ddiwydiannau eraill fel twristiaeth a lletygarwch. I graffu ar waith y Prif Weinidog o ran cefnogaeth Llywodraeth Cymru i fwyd a diod, a materion cyfredol sy'n wynebu'r diwydiant yng Nghymru, ymwelodd y Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog â'r Drenewydd ar 16 Chwefror. Gan fod ansicrwydd o hyd ynghylch dyfodol y DU ar ôl Brexit, roedd y Pwyllgor yn awyddus i holi'r Prif Weinidog ynghylch trefniadau masnach ryngwladol bosibl a'r goblygiadau i'r diwydiant. Yn 2016, er enghraifft, aeth 92.7 y cant o'r allforion cig o Gymru a adawodd y DU i'r UE.

Ymweliad â chynhyrchwyr bwyd lleol

I ddeall pryderon busnesau lleol, ymwelodd Aelodau'r Pwyllgor â Hilltop Honey, sef cynhyrchydd bwyd lleol, a chynnal trafodaeth gyffredinol â chynrychiolwyr o'r cwmni a dau fusnes lleol arall, sef Cultivate a Monty's Brewery. Aeth y Pwyllgor o amgylch cyfleusterau Hilltop Honey a thrafod nifer o faterion sy'n wynebu'r diwydiant bwyd a diod, gan gynnwys twristiaeth, masnach, brandio a hyrwyddo. Yn benodol, pwysleisiodd y cyfranogwyr yr angen i hyrwyddo ansawdd ac ystod cynhyrchion Cymreig mewn ffordd sy'n fwy cydlynol ac uchel ei phroffil. Mewn perthynas â'r Drenewydd a chanolbarth Cymru, clywodd y Pwyllgor farn bod "diffyg neges farchnata gydlynol i Bowys" a "dim digon o gymorth i ddatblygu'r diwydiant twristiaeth yn yr ardal." Trafodwyd pwysigrwydd cyd-gefnogaeth rhwng busnesau yng Nghymru, gyda'r awgrym bod "angen i gwmnïau Cymreig weithio'n well gyda chwmnïau Cymreig" er budd pawb. Mynegodd y busnesau a oedd yn bresennol bryderon hefyd am effaith debygol Brexit, gan gynnwys colli mynediad at gronfeydd yr UE ac ansicrwydd parhaus am drefniadau masnachu ag Ewrop a thu hwnt yn y dyfodol.

Atebodd y Prif Weinidog bryderon busnesau lleol

Codwyd nifer o awgrymiadau penodol a gynigiwyd yn ystod y drafodaeth yn Hilltop Honey yn uniongyrchol â'r Prif Weinidog yn ystod cyfarfod ffurfiol y Pwyllgor. Holodd y Pwyllgor y Prif Weinidog ynghylch a allai'r Llywodraeth ystyried y gallai cwmni fynd ar daith fasnach y tro cyntaf am ddim, ar ôl clywed y gallai'r costau rwystro busnesau bach rhag cymryd rhan. Er bod y gefnogaeth sydd eisoes ar gael gan Lywodraeth Cymru yn cael ei hystyried yn gefnogaeth gadarnhaol, awgrymwyd y gallai mwy o gwmnïau gymryd rhan pe gallent brofi taith fasnach am y tro cyntaf gyda llai o fuddsoddiad. O ystyried y pwyslais y mae busnesau wedi ei roi ar yr angen i hyrwyddo diwydiant bwyd a diod Cymru a chynnyrch Cymreig, argymhellodd yr Aelodau y dylai Llywodraeth Cymru ystyried ei bod yn rhoi thema hyrwyddo blwyddyn dwristiaeth yn y dyfodol yn ymwneud â 'Cymru fel cartref i fwyd a diod'. Cytunodd y Prif Weinidog i ystyried y ddau awgrym ymhellach, a bydd y Pwyllgor yn ysgrifennu i gael gwybod am unrhyw ystyriaethau pellach.

Brexit a masnach ryngwladol yn y dyfodol

Roedd Brexit a threfniadau masnach ryngwladol yn y dyfodol yn themâu allweddol wrth holi'r Prif Weinidog. Clywodd y Pwyllgor am bryderon mawr ynghylch yr effaith bosibl ar gynhyrchwyr bwyd a diod pe bai tariffau'n cael eu rhoi ar gynhyrchion a gaiff eu hallforio o Gymru i'r UE. Dywedodd y Prif Weinidog:
“…90 per cent of our exports go to the single market. Meat, for example, can carry, in extreme circumstances, a subsidy of 104 per cent…Now, it's obvious what the effect would be on our sheep meat exports if that were to happen, and there are a number of tariffs in other areas as well. So, tariff barriers are the ones that are most obviously talked about, because they would make our goods more expensive in our most important market.”
Mynegwyd pryderon hefyd ynghylch effaith rhwystrau eraill, fel prosesau tollau arafach yn effeithio ar nwyddau darfodus a'r angen i barhau i alinio safonau bwyd rhwng Cymru a'r UE yn dilyn Brexit. Yn absenoldeb cefnogaeth yr UE i'r diwydiant ffermio yn y dyfodol, galwodd y Prif Weinidog ar Lywodraeth y DU i ddarparu'r cyllid angenrheidiol fel y byddai Llywodraeth Cymru yn gallu gwarantu taliadau i ffermwyr. Dywedodd y Prif Weinidog na ddylai'r arian hwn fod yn rhan o'r grant bloc cyffredinol i Gymru ac y dylid ei neilltuo oddi wrth nawdd ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus eraill.

Y diweddaraf:

Gellir cael y diweddaraf am y cyfarfod ar Senedd TV. Neu darllenwch y trawsgrifiad llawn.