Cadeirydd Pwyllgor Hinsawdd y Senedd ar COP26

Cyhoeddwyd 01/11/2021   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 01/11/2021   |   Amser darllen munudau

Llyr Gruffydd AS

 

Bydd Llyr Gruffydd AS a Chadeirydd Pwyllgor Hinsawdd y Senedd yn mynychu CoP26 ynghyd â 9 Aelod arall. Yma mae'n amlinellu'r hyn yr hoffai ei weld fel canlyniadau'r gynhadledd.

Roedd amser pan oedd “newid hinsawdd” yn ddim ond rhywbeth y clywsom amdano mewn rhaglenni dogfen ar BBC2. Roedd yn rhywbeth a fyddai’n effeithio ar wledydd pell, rhai nad oeddem wedi clywed amdanynt, heb sôn am ymweld â nhw. Ond mae pethau wedi newid dros y degawd diwethaf. Erbyn hyn mae ymdeimlad gwirioneddol bod newid hinsawdd yn effeithio ar bob un ohonom. Bron bob wythnos mae straeon yn y newyddion am ddigwyddiadau tywydd eithafol neu golli bioamrywiaeth.


Mae'n demtasiwn i fod yn dyngedfenyddol. Ond mae un peth yn fy nghadw'n bositif - mae galwad gynyddol, bron yn fyddarol yng Nghymru am newid, yn enwedig gan bobl ifanc.


Heddiw yn Glasgow mae COP26, uwchgynhadledd newid hinsawdd y Cenhedloedd Unedig, yn dechrau. Bydd yn denu cynrychiolwyr o dros 200 o wledydd. Yn ystod COP26, byddaf i a sawl Aelod arall o’r Senedd, y mwyafrif ohonynt yn Gadeiryddion Pwyllgorau, yn gwneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau bod llais Cymru yn cael ei glywed yn uchel ac yn glir.


Rwy'n credu ei bod yn hanfodol ein bod ni'n gweld cynnydd mewn tri maes:

  • Yn gyntaf, mae angen inni weld ymrwymiad ar ariannu. Ar lefel fyd-eang, mae angen inni sicrhau bod gwledydd cyfoethog yn cefnogi gwledydd sy'n datblygu drwy roi'r adnoddau iddynt fynd i'r afael â newid hinsawdd. Ar lefel y DU, mae angen inni sicrhau bod Cymru yn cael cyfran deg o adnoddau fel y gallwn fuddsoddi yn yr arloesedd y bydd ei angen arnom i fynd i'r afael â newid hinsawdd.

  • Yn ail, mae angen inni weld bwriadau da yn cael eu troi'n gamau pendant. Rydym yn gwybod bod angen inni wneud mwy o gynnydd yng Nghymru yn ystod y deng mlynedd nesaf nag rydym wedi’i wneud yn ystod y deg ar hugain diwethaf. Ni allwn laesu dwylo mwyach - rydym yn rhedeg allan o amser.

  • Yn drydydd, mae angen inni weld trosglwyddiad cyfiawn. Ar lefel fyd-eang, rhai o'r gwledydd tlotaf ar y Ddaear fydd yn dioddef fwyaf o'r argyfwng hinsawdd, ac mae angen cefnogaeth gwledydd cyfoethog arnyn nhw. Ar lefel y DU, ni ddylai baich y newidiadau angenrheidiol ddisgyn ar y tlotaf yn ein cymunedau. Yng Nghymru, mae hyn yn golygu sicrhau bod gan ein holl ddinasyddion y sgiliau i ffynnu mewn economi werdd newydd.

Byddaf yn codi'r materion hyn a materion eraill pan fyddaf yn mynychu COP26 yr wythnos hon.


Mae pob cyfle a gollir yn ei gwneud yn fwy anodd cyrraedd y nodau y mae'n rhaid inni eu cyrraedd. Mae'n golygu y bydd mwy o'n cymunedau yn cael eu peryglu. Rhaid inni sicrhau bod llais Cymru yn cael ei glywed.

 

COP26

Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith