Cael gwared o'r rhwystrau i annog cynulleidfa amrywiol a chynrychioliadol i fywyd cyhoeddus

Cyhoeddwyd 03/12/2018   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 03/12/2018

Daw ein herthygl blog gwadd gan y Dirprwy Lywydd, Ann Jones AC wrth inni nodi Diwrnod Rhyngwladol Pobl ag Anableddau ar 3 Rhagfyr. [wpvideo Ey9HyAGq] A minnau wedi bod yn wleidydd ers nifer o flynyddoedd, rwyf wedi gorfod wynebu nifer o rwystrau. Mae rhai ohonynt yn sgil fy anabledd ac rwyf wedi gweithio'n galed i oresgyn y rhwystrau hyn. Rwyf wedi bod yn ddigon lwcus i gael llawer o gefnogaeth gan fy nheulu, cydweithwyr ac yn y gweithlu, sydd wedi cael effaith fawr ar fy mywyd.Rwy'n gwybod o fy mhrofiad fy hun bod y rhwystrau sy'n wynebu pobl anabl yn gallu bod yn annymunol a gall rhwystro pobl rhag cymryd rhan mewn bywyd cyhoeddus a gwleidyddiaeth. Mae'n rhaid i ni gael gwared ar y rhwystrau hyn er mwyn annog cynulleidfa amrywiol a chynrychioliadol i fywyd cyhoeddus. Gall y rhwystrau y mae pobl anabl ddod ar eu traws gynnwys:
  • Canfyddiadol - yn seiliedig ar safbwynt hygyrchedd neu safbwynt pobl o bobl anabl;
  • Amgylcheddol – yn seiliedig ar hygyrchedd ofod corfforol; neu
  • Gweithdrefnol – yn seiliedig ar y polisïau a gweithdrefnau ar waith.
Fy mam oedd fy ysbrydoliaeth i mi, ac fe wnaeth hi'n siŵr fy mod i'n cael yr holl gyfleoedd ag yr oedd pobl heb anabledd yn eu cael. Dyma beth sydd angen i ni ei wneud ar gyfer y cyhoedd ehangach, drwy gael gwared ar y rhwystrau hyn.

Ymrwymiad i hyrwyddo amrywiaeth

Rwy'n teimlo hi'n fraint fawr cael bod yn Ddirprwy Lywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Rwy'n awyddus i ddefnyddio fy rôl i dynnu sylw at faterion o bwys. Y ddwy thema rwyf wedi bod yn canolbwyntio arnynt hyd yma yw ‘Menywod mewn Gwleidyddiaeth’ a ‘Hyrwyddo Cynulliad Hygyrch’. Dros y blynyddoedd, mae'r Cynulliad wedi ennill nifer o wobrau nodedig am ei ymrwymiad i gynhwysiant ac amrywiaeth. Mae'r rhain yn cynnwys y canlynol, ond nid ydynt yn gyfyngedig iddynt:
  • Mynegai Cydraddoldeb yn y Gweithle Stonewall, lle mae'r Cynulliad wedi'i gydnabod fel y Cyflogwr Gorau yn y DU yn 2018 ac mae wedi bod yn un o Gyflogwyr Gorau'r DU ar gyfer pobl LGBT bob blwyddyn ers 2009
  • Gwobr Awtistiaeth Gyfeillgar y Gymdeithas Awtistiaeth Genedlaethol
  • Mae'n un o deg cyflogwr gorau'r DU, wedi'i achredu gan y sefydliad Cyflogwyr Gorau i Deuluoedd sy'n Gweithio
  • Statws Cyflogwr sy'n Gadarnhaol am Heneiddio
  • Marc siarter 'Yn Uwch na Geiriau' Action on Hearing Loss, a Gwobrau Rhagoriaeth Gwasanaeth.
Mae’r Cynulliad wedi ymrwymo i hyrwyddo amrywiaeth, cynhwysiant a chyfle cyfartal i staff a phobl Cymru. Mae tîm Amrywiaeth a Chynhwysiant ymroddedig yng Nghomisiwn y Cynulliad ynghyd â Phwyllgor yn y Cynulliad (y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau) sy'n mynd i'r afael â'r materion hyn o bob dydd. Yn ychwanegol at hyn, mae adroddiad wedi'i gomisiynu gan Fwrdd Taliadau'r Cynulliad i nodi rhwystrau a chymhellion i bobl anabl sefyll mewn etholiad. Rydym yn falch bod gennym adeilad hygyrch a'r polisïau, gweithdrefnau a hyfforddiant ar waith i sicrhau y gall pobl anabl gymryd rhan lawn yn ein democratiaeth. Boed yn Aelod Cynulliad, aelod o staff neu'n ymwelydd. Ond mae wedi bod yn dipyn o daith. Rydym wedi gweithio'n galed dros nifer o flynyddoedd i barhau i wella hygyrchedd ein hadeiladau a'r cymorth sydd gennym i bobl anabl.

Dylunio cartref cynhwysol o'r tu mewn i'r tu allan

Pan roedd pensaer y Senedd yn rhoi ei gynlluniau ar waith, sylwais nad oedd rhai o'r nodweddion dylunio yn ystyried anableddau. Roedd y waliau gwydr mawr yn gwbl dryloyw, gan ei gwneud hi'n anodd iawn i berson â nam ar y golwg weld. Cyflwynais fy syniad i gynnwys cymhorthion gweledol fel dotiau mawr ar yr arwyneb gwydr. Roedd yn rhaid i mi wthio'r syniad nifer o weithiau cyn y cytunwyd arno. Wedi'r cyfan, os yw'n iawn i berson ag anabledd, mae'n iawn i bawb. Dyma'r newidiadau bach sy'n gwneud gwahaniaeth mawr. Yn 2017, roeddwn i'n ddigon ffodus i fynd i gynhadledd agoriadol i seneddwyr ag anableddau Cymdeithasol Seneddol y Gymanwlad yn Nova Scotia, Canada. Roedd yn ysbrydoliaeth gweld y brwydrau a'r llwyddiannau roedd pobl o bob rhan o'r Gymanwlad wedi'u profi. Roeddwn i'n falch iawn o roi sylw i Gymru a dangos ein hadeilad Seneddol gwych. Mae hwn wedi'i sefydlu bellach fel rhwydwaith annibynnol yn enw Seneddwyr y Gymanwlad ag Anableddau (CPwD). Rwy'n gobeithio y bydd hyn yn ysgogi newid cadarnhaol drwy'r Gymanwlad ac yn wir, yn y byd, mewn gwleidyddiaeth a bywyd cyhoeddus i gyd. [caption id="attachment_3307" align="alignnone" width="2048"]Ann Jones gyda Kevin Murphy, llefarydd Cynulliad Nova Scotia yng Nghanada Ann Jones AC gyda Kevin Murphy, MLA, llefarydd Cynulliad Nova Scotia yng Nghanada[/caption] Byddwn yn annog pob person anabl sy'n darllen y blog hwn i ystyried pa rôl y gallwch ei chwarae mewn bywyd cyhoeddus, p'un a ydych chi'n gwirfoddoli yn eich cymuned, gwneud cais am rôl gyhoeddus neu drwy sefyll fel Aelod Cynulliad. Mae'n bwysig, ar Ddiwrnod Rhyngwladol Pobl ag Anabledd, ein bod ni'n cofio bod gan bobl anabl lais sydd angen ei glywed, ac y dylid herio a chael gwared ar unrhyw rwystrau rhag cymryd rhan. Mae gan bob un ohonom ran i'w chwarae i helpu i nodi rhwystrau i bobl anabl a chael gwared arnynt. Mae gan Aelodau etholedig rôl bwysig i'w chwarae, p'un a ydynt yn anabl neu beidio, i roi llais i anghenion pobl anabl.  Mae cael ymgyrchwyr ac eiriolwyr yn bwysig iawn hefyd ond mae gwerth cael cynrychiolwyr etholedig sydd wedi profi anawsterau ac wedi'u trechu yn amhrisiadwy. Dyna pam bod angen gwneud mwy, i ymdrechu ar gyfer cydraddoldeb a chynhwysiant ym mhob agwedd ar fywyd.