"Carreg filltir ar y ffordd i gydraddoldeb o ran rhywedd, nid y llinell derfyn" - Joyce Watson AC

Cyhoeddwyd 08/03/2018   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 08/03/2018

Blog gwadd gan Joyce Watson AC Eleni, rydym yn dathlu canmlwyddiant menywod yn cael y bleidlais. Ond nid pob menyw: y rhai ag eiddo a’r rhai oedd yn hŷn na 30. Trwy osod y bar hwnnw, roedd Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1918 yn gwahardd menywod o'r dosbarth gweithiol yn fwriadol rhag pleidleisio, ac yn rhoi hawliau menywod yn is na rhai dynion. Felly wrth i ni ddathlu llwyddiant hanesyddol y swffragetiaid, rydym hefyd yn ystyried sut mae pob buddugoliaeth i fenywod wedi bod yn garreg filltir ar y ffordd i gydraddoldeb o ran rhywedd, nid y llinell derfyn. Pwrpas y gweithgor Cymru, Menywod a Gwleidyddiaeth yw cadw Cymru'n symud ymlaen ar y ffordd honno. Mae llawer i'w wneud. Ar fater sylfaenol cynrychiolaeth wleidyddol, er enghraifft: er bod gan y Cynulliad hanes da ar gydbwysedd rhwng y rhywiau (er hynny, rydym wedi llithro'n ôl ers 2003), mae'n ddarlun cymysg mewn mannau eraill. Cyn i mi gael fy ethol i'r Cynulliad yn 2007, roeddwn i'n gynghorydd sir yn Sir Benfro. Ar y pryd, roedd ychydig dros chwarter y cynghorwyr yng Nghymru yn fenywod. Heddiw, nid yw llawer wedi newid: mae 28 y cant o gynghorwyr yng Nghymru yn fenywod. Mewn gwirionedd, mae cynnydd wedi bod yn eithaf segur ers 20 mlynedd. Mae hynny'n rhywbeth y mae'n rhaid i ni fynd i'r afael â hi. Mae arnom angen mwy o fenywod yn gwneud mwy o benderfyniadau, a hynny  oherwydd y dylai democratiaeth gynrychioliadol fod yn union hynny: yn gynrychioliadol. Ond mae mwy o amrywiaeth hefyd yn arwain at well penderfyniadau. Er enghraifft, ar ddechrau datganoli, yn 1999, roedd gan Aelodau Benywaidd y Cynulliad fel Val Feld o Ddwyrain Abertawe ran ganolog wrth sicrhau darpariaethau cydraddoldeb pwysig yn Neddf Llywodraeth Cymru. Gwnaethant sicrhau bod pob Cyllideb Gymreig - pob ymrwymiad gwario - yn amodol ar asesiad effaith cydraddoldeb. Yn drist iawn, bu farw Val yn 2001. Mae ei hetifeddiaeth yn dal yn fyw, fodd bynnag, ac ar ddydd Mawrth (6 Mawrth), bydd plac sy'n coffáu cyfraniad enfawr Val yn cael ei ddadorchuddio yn y Senedd. Dyma'r Plac Porffor cyntaf yn anrhydeddu 'Menywod Nodedig yng Nghymru'. Gobeithio y bydd llawer mwy. Yn ogystal ag anrhydeddu'r merched fu'n arwain y ffordd, mae Diwrnod Rhyngwladol y Menywod yn golygu edrych i'r dyfodol. Dyna pam yr wyf yn falch o fod yn cymryd rhan yng nghynllun mentora y Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod (WEN) Cymru 2018. Y nod yw cael mwy o fenywod i mewn i fywyd cyhoeddus a gwleidyddiaeth. Rhwng mis Ebrill a mis Rhagfyr, bydd 25 o fenywod uchelgeisiol yn cysgodi mentor, gan ennill profiad gwerthfawr iawn. Edrychaf ymlaen at gwrdd â'm mentorai yn ddiweddarach y mis hwn. Nid yw cynrychiolaeth wleidyddol yn broblem yng Nghymru yn unig, wrth gwrs. Ac fel y mae'r teitl yn esbonio, mae Diwrnod Rhyngwladol y Menywod yn ymwneud â phryderon ffeministaidd ledled y byd. Y llynedd, fe'm hetholwyd yn is-gadeirydd Seneddwragedd y Gymanwlad. Fel gwleidyddion benywaidd, rydym yn gweithio i wella bywydau y mwy na biliwn o fenywod a merched yr ydym yn eu cynrychioli. Yn amlwg, mae'r rhwystrau a'r heriau y maent yn eu hwynebu yn amrywio'n fawr ar draws y Gymanwlad. Ond, ochr yn ochr â chynrychiolaeth wleidyddol, mae mynediad i iechyd, addysg a phŵer ennill arian yn rhagofyniad i gydraddoldeb ymhobman. Joyce Watson AC