"Cerdded y prom a chicio'r bar bob tro!" - Pam rydych chi’n #CaruAber

Cyhoeddwyd 23/11/2018   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 23/11/2018

O 3 tan 7 Rhagfyr 2018, bydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn dod â llond wythnos o'i weithgareddau arferol, arddangosfeydd arbennig a digwyddiadau ymgysylltu â'r cyhoedd i Aberystwyth fel rhan o'n hymgyrch Senedd@. Rydym wedi bod yn gofyn am eich hanesion, eich atgofion a'ch gwybodaeth neilltuol am #CaruAber ar gyfer ein harddangosfa, "Aberystwyth: Gorffennol, Presennol, Dyfodol". Ganed a magwyd yr awdur arobryn Jenny Sullivan yng Nghaerdydd, ond fel cynifer o bobl eraill ar hyd a lled Cymru (ac yn wir, y byd!), mae gan Aberystwyth le unigryw yn ei chalon. Mae'n byw yn Llydaw er 2004, ond yma y mae hi'n rhannu ei hoff atgofion #CaruAber, a cherdd o'r enw "Aberystwyth". Jenny Sullivan

Beth yw eich hoff atgof o Aberystwyth?

Treulio llawer diwrnod gwlyb yn y siopau llyfrau pan oedd y plant yn fach.  Aberystwyth oedd "y lle i ni" pan oedd hi'n rhy wlyb i fynd i'r traeth!  (Yr atgof gwaethaf yw'r gwesty glan môr â chawod heb ddŵr!)

Beth sy'n unigryw am Aberystwyth?

Y ffordd rwydd y mae'r "coleg a'r dref" yn ymgymysgu.  Ac mae rhywbeth cysurus braf am Aberystwyth.  Pan fyddwn i'n ymweld â llyfrgelloedd ac ysgolion lleol, byddwn i'n ceisio aros ar lan y môr.  Byddaf wrth fy modd yn cael clywed y tonnau wrth ddihuno yn y bore.

Sut mae Aberystwyth wedi newid dros y blynyddoedd?

Siopau gwahanol: rhai adeiladau newydd - ond ar y cyfan, nid llawer! Cofiwch, rwyf heb fynd yno ers rhai blynyddoedd - mae angen i rai ysgolion a llyfrgelloedd fy ngwahodd i, os gwelwch yn dda!  ABERYSTWYTH Sea rattles pebbles claws at shale worries the filigree pier   Front lines are the expendables: Window-boxed brecwast-a-gwelies, Three-flights-down for a bath; Student halls, window-sills full of bare feet and beer cans; and "Llys y Brenin" balconied apartments (Expensive) for the crachach.   Sea makes sorties chewing at the roots of Constitution Hill.   Hippie shops and cafes creep backwards, towards respectability. Charity shops flare and die, and The mighty rearguard Banks (Barclays, Lloyds) oppress the odd posh shop and Woolworths, where anoraked and steaming tourists flee the unrelenting rain.   The sea attacks retreats, attacks, hurls pebbles   Only Waunfawr observes the town, sneaking out the back way, regrouping somewhere in the mountains, while offshore, Momentarily confused by groyns the sea fires missile dolphins, Gulps the crimson sun and waits for booming night.   Jenny Sullivan Cydnabyddiaeth: Pont, “Say That Again”   Ewch i www.cynulliad.cymru/seneddaber i gofrestru a chymryd rhan yn ein harddangosfeydd a'n digwyddiadau. Gallwch hefyd rannu eich hanesion #CaruAber â ni ar Twitter, Facebook ac Instagram!