Arian

Arian

Craffu ar Gyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer 2022-23 - Blog y Cadeirydd

Cyhoeddwyd 10/03/2022   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 10/03/2022   |   Amser darllen munudau

Yn ddiweddar ysgrifennais am waith y Pwyllgor Cyllid yn craffu ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2022-23. I grynhoi: cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei Chyllideb Ddrafft ym mis Rhagfyr 2021; yna treuliodd y Pwyllgor Cyllid wyth wythnos yn craffu ar y cynigion a chlywed gan dystion arbenigol, a Rebecca Evans AS, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol.

Ar 4 Chwefror, cyhoeddwyd ein hadroddiad a gwnaed 41 o argymhellion i Lywodraeth Cymru.

Roedd rhai o'n hargymhellion yn gofyn i Lywodraeth Cymru ystyried gwneud rhagor o ddyraniadau yn y Gyllideb Derfynol, er bod argymhellion eraill yn fwy strategol ac yn fwy hirdymor mewn perthynas â sut mae Llywodraeth Cymru yn blaenoriaethu gwariant, yn cyflwyno ei chyllideb yn dryloyw ac yn dangos y gwrandewir ar farn rhanddeiliaid.

Cynhaliwyd dadl yn y Cyfarfod Llawn ar y Gyllideb Ddrafft ar 8 Chwefror. Bryd hynny, nid oedd ymateb Llywodraeth Cymru i’n hadroddiad wedi dod i law. Yn ystod y ddadl nodais ein bod yn croesawu dychwelyd i setliad aml-flwyddyn sy’n golygu bod Llywodraeth Cymru wedi gallu darparu rhagor o sicrwydd ariannol i sefydliadau’r sector cyhoeddus am y tair blynedd nesaf. Roedd y cyllid sydd ar gael i Lywodraeth Cymru (drwy grant bloc Cymru gan Lywodraeth y DU) yn well na’r disgwyl eleni, a oedd yn caniatáu i Lywodraeth Cymru gynyddu’r dyraniadau cyllidebol ar draws yr holl grwpiau gwariant. Mae gwir angen hyn ac mae'n gosod sylfeini cadarn ar gyfer y blynyddoedd i ddod.

Canfyddiadau allweddol ein hadroddiad

Mae Llywodraeth Cymru yn wynebu heriau sylweddol wrth ymateb i bwysau economaidd, effeithiau newid hinsawdd a Brexit. Mae hyn i gyd ar adeg pan fo gwasgfa bryderus ar incwm aelwydydd. Fel Pwyllgor rydym yn pryderu’n fawr y bydd aelwydydd tlotach, yn arbennig, yn ysgwyddo baich y cynnydd mewn chwyddiant, sydd wedi’i ysgogi gan gostau ynni uwch, codiadau treth arfaethedig, a chynnydd mewn prisiau i ddefnyddwyr.  Rydym yn cydnabod ymdrechion Llywodraeth Cymru i fynd i’r afael â’r argyfwng costau byw, yn enwedig gyda’i Chronfa Cymorth Dewisol, sydd â’r nod o helpu gyda biliau tanwydd gaeaf, ynghyd â’i cham i ymestyn y ddarpariaeth prydau ysgol am ddim.

Mae pwysau sy'n gysylltiedig â’r pandemig hefyd yn parhau'n sylweddol ar gyfer iechyd, llywodraeth leol a busnesau. Rydym yn croesawu barn Llywodraeth Cymru mai mynd i’r afael â’r ôl-groniad o driniaethau sydd wedi’u gohirio yn sgil y pandemig yw ei “phrif flaenoriaeth”. O fewn y sector iechyd a gofal cymdeithasol, fodd bynnag, clywsom am brinder staff a materion yn ymwneud â’r gweithlu, gyda staff yn dioddef o flinder ac absenoldebau yn sgil COVID-19. Mae heriau tymor hwy hefyd, o ran ymdrin â llawer iawn o swyddi gwag, gan fod llawer o staff yn y sector iechyd a gofal cymdeithasol yn dewis gyrfaoedd eraill, sy’n aml â chyflog gwell.

Teimlwn y dylid gwneud rhagor i helpu busnesau llai a manwerthwyr i gael adferiad ar ôl y pandemig, ac y dylai Llywodraeth Cymru flaenoriaethu buddsoddiad mewn seilwaith digidol a sgiliau, a helpu’r busnesau hynny i ddatblygu presenoldeb ar-lein, fel y gallant gystadlu yn erbyn manwerthwyr mwy.

Gyda’r agenda hinsawdd ac amgylcheddol yn cynyddu yn dilyn uwchgynhadledd dyngedfennol COP26, roedd y Pwyllgor yn croesawu ymdrechion Llywodraeth Cymru i dargedu buddsoddiad ar gyfer yr argyfyngau o ran hinsawdd a natur. Teimlwyd, fodd bynnag, efallai y bydd lefel y cyllid newydd a’r cyllid ychwanegol a nodir yn y Gyllideb Ddrafft yn is na'r hyn sydd ei angen i ymdrin â'r dasg enfawr hon.

Dadl ar y Gyllideb Derfynol ac ymateb Llywodraeth Cymru i'n hadroddiad

Yr wythnos hon daw’r gwaith craffu ar Gyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer y flwyddyn ariannol 2022-23, a ddechreuodd ar 1 Ebrill, i ben. Dydd Mawrth 8 Mawrth, cynhaliwyd dadl yn y Cyfarfod Llawn ar y Gyllideb Derfynol 2022-23, a phleidleisiodd y Senedd i gymeradwyo’r gyllideb.

Cyn y ddadl, cafodd y Pwyllgor ymateb Llywodraeth Cymru i argymhellion y Pwyllgor.

Rwy’n falch bod y Gweinidog wedi derbyn, neu wedi derbyn mewn egwyddor, pob un ond un o’n 41 o argymhellion. Er bod hwn yn ddechrau cadarnhaol i waith y Pwyllgor, mae rhannau o’r Gyllideb Derfynol nad ydynt yn bodloni ein disgwyliadau, fel y dengys ein canfyddiadau allweddol, a amlinellwyd uchod.

Mae'n gyfnod anodd ac mae'r cynnydd mewn gwariant a ddarperir yn y gyllideb hon i helpu'r bobl fwyaf agored i niwed i'w groesawu. Mae'n amlwg bod meysydd i weithio arnynt i sicrhau bod cyllideb Llywodraeth Cymru yn gweithio i bobl Cymru. Fel Pwyllgor Cyllid, byddwn yn manteisio ar bob cyfle i sicrhau bod hynny'n digwydd. Fel Cadeirydd mae’n flaenoriaeth gennyf i ymgysylltu â phobl ledled Cymru a gwrando ar farn rhanddeiliaid. Diolch i bawb sydd wedi cyfrannu at gylchred y gyllideb eleni, a gobeithio y bydd lefel yr ymgysylltu yn parhau i gynyddu yn y dyfodol.

Cymryd rhan

Yn ystod tymor yr haf, bydd y Pwyllgor yn dechrau ar ei waith ymgysylltu ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2023-24. I gael rhagor o wybodaeth am hyn neu am waith y Pwyllgor Cyllid, ewch i’n gwefan a dilynwch ni ar Twitter