Cryfhau ansawdd ein democratiaeth Gymreig

Cyhoeddwyd 14/03/2018   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/03/2018

Post gwestai gan Dr Elin Royles, Prifysgol Aberystwyth. Mae’r ymgynghoriad ar Greu Senedd i Gymru yn gosod y trywydd ar gyfer cam nesaf llwybr datganoli i Gymru. Dyma wrthbwynt pwysig i’r bygythiad cryf bod Llywodraeth San Steffan am ganoli pwerau yn hytrach na throsglwyddo pwerau datganoledig nôl i’r Cynulliad Cenedlaethol yn y Bil Ymadael â’r Undeb Ewropeaidd, Yn wir, gan sefyll uwchlaw’r diffyg parch a’r tanseilio datganoli, mae’r ymgynghoriad yn adeiladu ar ganlyniad refferendwm 2011. Dyma baratoi’r ffordd ar gyfer gwybod sut mae pobl Cymru am weld gweithredu ar rymoedd yn Neddf Cymru 2017. Ac mae na gyfle i ni i gyd i gyfrannu i’r broses. Mae sylfeini cadarn ar gyfer yr ymgynghoriad gan fod Panel Arbenigol ar Ddiwygio Etholiadol a sefydlwyd gan Gomisiwn y Cynulliad wedi pwyso a mesur ystod o faterion a chynnig argymhellion cadarn ar gyfer diwygio etholiadol i Gymru. I mi, yr hyn sy’n allweddol am yr ymgynghoriad yw ei fod yn cynnig cyfle i bobl Cymru roi barn ar sut i sicrhau bod y Cynulliad yn gweithio mewn ffordd mwy effeithiol gan felly daclo materion sydd wedi bod yn heriol i'r Cynulliad ers ei ddyddiau cynnar, megis niferoedd Aelodau Cynulliad, a hefyd ddylanwadu ar sut y gellir cryfhau ansawdd democratiaeth yng Nghymru i'r dyfodol. Hyd yn oed yn 1999 pan taw corff newydd gyda grymoedd cyfyngedig oedd y Cynulliad, daeth goblygiadau nifer cyfyngedig o 60 AC i’r fei yn ddigon cyflym. O Gomisiwn Richard, i Gonfensiwn Cymru Gyfan, i Gomisiwn Silk, mae ymchwiliadau annibynnol wedi galw am gynyddu niferoedd aelodau. Ymhob achos, gan wybod yn iawn nad yw ethol mwy o wleidyddion yn beth poblogaidd, argymhellwyd cynyddu’r nifer o aelodau er mwyn hogi’r gallu i graffu ar waith y Llywodraeth ac ar ddeddfwriaeth. Yn wir, awgrymodd Comisiwn Silk bod bygythiadau gwirioneddol i’r modd mae Cymru’n cael ei lywodraethu heb gynyddu’r niferoedd o AC oherwydd y pwysau trwm a’r cyfyngiadau ar eu gallu i graffu a chwblhau eu dyletswyddau deddfwriaethol yn effeithiol. Yn sgil y pwysau cynyddol, dydi hi ddim yn syndod felly bod y Panel Arbenigol yn argymell cynyddu maint y Cynulliad i o leiaf 80 aelod. Da o beth fyddai lleihad cyfochrog yn nifer aelodau etholedig Cymru ar lefelau eraill o lywodraeth.

Wrth edrych i gryfhau democratiaeth yng Nghymru i’r dyfodol, mae argymhellion y Panel i ostwng yr oedran pleidleisio isaf yn etholiadau’r Cynulliad i 16 oed yn gam pwysig ymlaen i gynyddu ymwybyddiaeth wleidyddol a chyfranogi ymysg pobl ifanc.


Creu Senedd i Gymru

Dyma ddechrau cyfnod newydd o ddatganoli a dyma'ch cyfle chi i ddweud wrthym sut rydych chi am i'ch Cynulliad Cenedlaethol fod.

Dechrau'r arolwg >


Mae ein gwaith ymchwil ar Iaith, Addysg a Hunaniaeth fel rhan o Ganolfan Ymchwil Cymdeithas Sifil WISERD wedi bod yn cyfweld disgyblion 16+ oed mewn ysgolion a cholegau addysg bellach ar draws Cymru gan gynnwys eu holi ynghylch eu hagweddau tuag at wleidyddiaeth a phleidleisio. Rydyn ni wedi gweld nifer ohonynt yn mynegi dyhead clir i gael y gallu i bleidleisio o 16 oed. Codwyd disgwyliadau ymysg pobl ifanc gan y cyfle i bleidleisio a estynnwyd rai 16 oed yn Refferendwm Annibynniaeth yr Alban. Yn ein hymchwil ni, mae nifer wedi mynegi siom (a weithiau deimladau cryfach) nad oedd cyfle iddynt bleidleisio yn y Refferendwm i adael yr Undeb Ewropeaidd. Ar yr un pryd, mae’n hymchwil yn cadarnhau lefel uwch o ddiddordeb mewn gwleidyddiaeth ymysg rhai pobl ifanc na fyddai’r disgwyl ond eu bod yn tueddu i fod yn ansicr ac â diffyg hyder am eu lefel dealltwriaeth o’r broses wleidyddol. O’r herwydd, law yn llaw â gosod 16 fel yr oedran pleidleisio ar gyfer etholiadau Cynulliad, mae gofyn cynyddu a ffurfioli’r addysg wleidyddol a dinasyddiaeth i’n pobl ifanc. Er bod trefniadau penodol Cymreig mewn lle o ran addysg bersonol a chymdeithasol a’r Fagloriaeth Gymreig, mae’r ymchwil yn awgrymu bod angen diwygio i arfogi pobl ifanc yn well. Addysg sydd nid yn unig yn darparu mwy o wybodaeth i bobl ifanc ond hefyd yn sicrhau addysg dinasyddiaeth a democratiaeth o ansawdd gan gynnwys rhoi’r cyfle iddynt drafod pynciau gwleidyddol ymysg ei gilydd. Dyma gamau allweddol i gryfhau ansawdd democratiaeth yng Nghymru yn y dyfodol. Ymunwch yn y trafod.

Gwybodaeth am Ganolfan Gwleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru – WISERD@Aberystwyth

Canolfan ymchwil ryngddisgyblaethol ym Mhrifysgol Aberystwyth yw Canolfan Wleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru - WISERD@Aberystwyth, gyda’r nod o ddatblygu ein dealltwriaeth o wleidyddiaeth a chymdeithas gyfoes yng Nghymru yng nghyd-destun byd cydgysylltiedig, gan gefnogi a chyflawni gwaith ymchwil o safon byd-eang yn y gwyddorau cymdeithasol, a chyfrannu at wybodaeth gyhoeddus a datblygiad polisi yng Nghymru. Rydyn ni yng Nghanolfan Gwleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru yn hynod o falch o fod yn cydweithio gyda Chomisiwn y Cynulliad ar y digwyddiad ar ymgynghoriad ‘Creu Senedd’ i Gymru yn Aberystwyth ar 15 Mawrth. Cynhelir y digwyddiad ar nos Iau, 15 Mawrth am 6.00 yng Nghanolfan Arad Goch, Stryd y Baddon, Aberystwyth.   Creu Senedd i Gymru