Cyfarfod cyntaf y Chweched Senedd yn 2021 ac enwebu Prif Weinidog Cymru – lluniau

Cyhoeddwyd 13/05/2021   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024   |   Amser darllen munudau

Ar ôl i Aelodau o’r Senedd dyngu llw yn dilyn yr Etholiad ym mis Mai 2021, cafodd golygon eu troi at y paratoadau ar gyfer chweched tymor y Senedd.

Â’r gweithdrefnau diogelwch yn sgil COVID-19 ar waith, eisteddodd 20 Aelod yn y Siambr ac ymunodd y 40 arall ar-lein o’u swyddfeydd cyfagos.

Yn ôl y gofyn yn nghyfarfod cyntaf y Senedd ar ôl etholiad, mae Aelodau’n enwebu’r Llywydd a’r Dirprwy Lywydd nesaf, ac yn pleidleisio i’w hethol.

At hynny, roedd disgwyl cael enwebiadau ar gyfer Prif Weinidog nesaf Cymru.

O'r chwith i'r dde: David Rees AS a Russell George AS.

Yr Aelodau’n ymlwybro i Siambr y Senedd.

Cyn ethol y Llywydd, cadeiriwyd y cyfarfod gan Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Senedd.

O'r chwith i'r dde: Laura Ann Jones AS, Jane Hutt AS, Natasha Asghar AS, Andrew RT Davies AS.

Ethol y Llywydd

Yr un yw rôl y Llywydd â Llefaryddion a Llywyddion mewn seneddau ar draws y byd. Maen nhw'n goruchwylio trafodion, yn cynrychioli'r Senedd ar achlysuron a digwyddiadau seremonïol, ac yn cadeirio Comisiwn y Senedd.

Enwebodd yr aelodau Elin Jones AS a Russell George AS, cyn gadael y Siambr i fwrw eu pleidlais dros y Llywydd nesaf yn y bleidlais gudd.

Etholwyd Elin Jones AS yn Llywydd ar y chweched Senedd, gyda 35 pleidlais i 25. Dyma fydd ei hail dymor fel Llywydd, â hithau wedi bod yn Llywydd ar y bumed Senedd hefyd.

Elin Jones AS, Llywydd y Senedd

Ethol y Dirprwy Lywydd

Enwebwyd Hefin David AS a David Rees AS fel ei gilydd i fod yn Ddirprwy Lywydd nesaf ar y Senedd.

Etholwyd David Rees As yn Ddirprwy Lywydd ar y chweched Senedd, gyda 35 pleidlais i 24.

David Rees AS, Dirprwy Lywydd y Senedd

Enwebu’r Prif Weinidog

Yn ôl y disgwyl, yn ystod y cyfarfod cyntaf hwn o’r chweched Senedd fe enwebwyd Prif Weinidog nesaf Cymru. Pe bai dau neu fwy o ymgeiswyr, byddai’r Aelodau wedi gorfod bwrw pleidlais.

Yn hwyr yn y prynhawn, gofynnodd y Llywydd i'r Aelodau am eu henwebiadau. Gydag un enwebiad, dewiswyd Mark Drakeford AS i fod yn Brif Weinidog Cymru.

Yn ôl yr arfer, bydd y Llywydd yn argymell i'w Mawrhydi y dylid penodi Mark Drakeford yn Brif Weinidog nesaf Cymru.

Mark Drakeford AS, Prif Weinidog Cymru.