Cyfarfod olaf Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog gyda Carwyn Jones AC

Cyhoeddwyd 13/11/2018   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 13/11/2018

Read this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Gymraeg Bydd Pwyllgor y Cynulliad yn cyfarfod 16 Tachwedd i holi Carwyn Jones AC ar ei amser yn gyfrifol am Lywodraeth Cymru. sfm-tw-senedd-cy.png Beth fydd y Pwyllgor yn ei drafod? Cyhoeddodd y Prif Weinidog ei fwriad i ymddiswyddo ym mis Rhagfyr 2018, a bydd y Pwyllgor yn cymryd y cyfle i'w holi am ei amser yn y rôl a gwaith Llywodraeth Cymru ers ei benodi yn 2009. Yn benodol, bydd y Pwyllgor yn edrych ar ganlyniadau prif amcanion Llywodraeth Cymru dros y 9 mlynedd diwethaf, polisïau allweddol a'r rhaglen ddeddfwriaethol yn ystod y cyfnod, yn ogystal â barn Llywodraeth Cymru ar ei gyflawniadau ac unrhyw wersi a ddysgwyd. Bydd Aelodau'r Pwyllgor yn cael cyfle hefyd i holi'r Prif Weinidog ar faterion cyfoes yn ystod y cyfarfod. Sut gallaf wylio'r cyfarfod? Mae croeso ichi ddod i wylio trafodion y pwyllgor yn fyw. Mae llefydd yn gyfyngedig felly dylech archebu lle drwy ein llinell archebu. Os nad ydych yn gallu dod i'r Ganolfan Rheolaeth, gallwch weld y cyfarfod yn fyw ar Senedd.tv neu gallwch wylio'r trafodion yn ôl ar ôl y digwyddiad. Beth mae'r pwyllgor yn ei wneud? Mae'r Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog yn cyfarfod unwaith bob tymor y Cynulliad i drafod yn benodol yr hyn y mae'r Prif Weinidog yn ei wneud yn ei rôl o oruchwylio swyddogaethau a pherfformiad Llywodraeth Cymru. Cadeirydd y Pwyllgor yw Ann Jones AC, y Dirprwy Lywydd. Mae'r Pwyllgor hefyd yn cynnwys cadeiryddion pwyllgorau eraill y Cynulliad. Mae rhagor o wybodaeth am y Pwyllgor yma. Beth mae'r Prif Weinidog yn ei wneud? Prif Weinidog Cymru yw arweinydd Llywodraeth Cymru ac mae'n cael ei benodi gan Ei Mawrhydi'r Frenhines ar ôl iddo gael ei enwebu gan Aelodau'r Cynulliad yn y Senedd. Mae cyfrifoldebau'r Prif Weinidog yn cynnwys:
  • Penodi Cabinet o Ysgrifenyddion Cabinet, Dirprwy Weinidogion a'r Cwnsler Cyffredinol sy'n ffurfio Llywodraeth Cymru;
  • cadeirio cyfarfodydd y Cabinet;
  • llywio'r gwaith o ddatblygu a chyflwyno polisi;
  • rheoli cysylltiadau â gweddill y DU a chysylltiadau rhyngwladol;
  • cynrychioli pobl Cymru ar fusnes swyddogol; a
materion staffio Llywodraeth Cymru.