Cyfarfod Pwyllgor Craffu ar waith y Prif Weinidog - Rhosllanerchrugog, Wrecsam

Cyhoeddwyd 26/07/2013   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 26/07/2013

Bu i Bwyllgor Craffu ar waith y Prif Weinidog, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gynnal eu cyfarfod diweddaraf yn Theatr y Stiwt, Rhosllanerchrugog, Wrecsam ar 19 Gorffennaf 2013. Derbyniodd aelodau o’r cyhoedd y cyfle i gyflwyno’u cwestiynau eu hunain i’r Prif Weinidog ynghylch prosiectau seilwaith mawr Ogledd Cymru drwy #HIHPWC ar twitter. Dyma oedd y tro cyntaf i un o Bwyllgorau’r Cynulliad ddefnyddio ‘hashtag’ ar twitter er mwyn annog i bobl Cymru gymryd rhan mewn cyfarfod ffurfiol. Dewiswyd pum cwestiwn ar gyfer y cyfarfod, a gafodd eu hateb gan y Prif Weinidog. Trafodwyd prosiectau seilwaith megis yr A55, trydaneiddio rheilffyrdd ac ynni niwclear ac adnewyddadwy yn ystod y cyfarfod yn ogystal â gwella cysylltiad trafnidiaeth rhwng gogledd a de Cymru, grid ynni cenedlaethol i Gymru, manteision i’r gymuned gan ddatblygiadau seilwaith ac annog ffyrdd gwahanol o ynni adnewyddadwy ar wahân i wynt. Pwyllgor CPW Yn dilyn cwestiynau i’r Prif Weinidog, derbyniodd aelodau o’r cyhoedd, oedd wedi eistedd i wylio’r cyfarfod, y cyfle i roi cwestiynau ymlaen i’r Pwyllgor. Bu i nifer o aelodau’r gynulleidfa rhoi eu sylwadau a chwestiynau ymlaen i’r Pwyllgor, gydag Mr E Jones yn sôn am ddatblygiadau biodanwydd, “Hoffwn wybod pam nad oedd sôn am ddatblygiadau biodanwydd yng ngogledd Cymru pan yr oeddech yn trafod egni adnewyddadwy yn gynharach, ac os oes cynlluniau i ddatblygu biodanwydd yng ngogledd Cymru.” Hoffwn ddiolch i bawb gyflwynodd cwestiwn i’w hateb gan y Prif Weinidog drwy twitter ac i bawb fynychodd y cyfarfod yn Theatr y Stiwt, Wrecsam.