Cyfraddau treth incwm Cymru: Carreg filltir bwysig yn hanes datganoli yng Nghymru

Cyhoeddwyd 04/04/2019   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 04/04/2019

Erthygl wadd gan Llyr Gruffydd AC, Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid – Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Bron i ugain mlynedd ar ôl sefydlu Cynulliad Cenedlaethol Cymru, bydd datganoli yng Nghymru yn cyflawni carreg filltir arwyddocaol arall ar 6 Ebrill.

O ddydd Sadwrn ymlaen, bydd cyfraddau treth incwm sy'n berthnasol i Gymru yn cael eu penderfynnu yng Nghymru, gan effeithio ar tua dau biliwn o bunnoedd o'r dreth a gesglir yma bob blwyddyn.

Bydd eich cyfradd treth incwm yn aros yr un fath ar gyfer 2019-20, ar ôl i'r Cynulliad bleidleisio dros hynny am y tro cyntaf ym mis Ionawr.

O ddydd Sadwrn ymlaen, bydd pob band o dreth incwm y DU yn gostwng 10c, a bydd cyfraddau Cymru, un ar gyfer pob band, yn cael eu gosod ar 10c.

Ni fydd dim newid cyffredinol felly, er y gallai'r dreth incwm gael ei gosod yn uwch neu'n is na Lloegr yn y dyfodol drwy osod cyfraddau Cymreig gwahanol.

Mae hwn yn newid i'w groesawu, sy'n rhoi mwy o atebolrwydd i Lywodraeth Cymru drwy sicrhau bod y swm o arian sydd ar gael yn ei chyllideb yn cyd-fynd yn agosach â’r penderfyniadau a wneir ganddi a pherfformiad economi Cymru.

Nid oes angen i ni wneud dim yn unigol, ond os ydych chi'n byw yng Nghymru, p'un a ydych yn gweithio yng Nghymru ai peidio, dylech fod wedi cael llythyr gan Gyllid a Thollau EM gyda'ch cod treth newydd, sydd bellach yn dechrau gydag “C” i ddynodi Cymru.

Os na fyddwch wedi cael y llythyr, efallai y byddwch am gysylltu â CThEM i sicrhau bod eich manylion yn gywir.

Efallai bod y newid i'w weld yn dechnegol, ond rwy'n credu y bydd hi'n werth oedi am eiliad ddydd Sadwrn i nodi'r cyfraddau treth incwm cyntaf a osodwyd yng Nghymru yn y cyfnod modern; arwydd arall ein bod yn magu hyder fel cenedl.



Mae Llyr Gruffydd yn Aelod Cynulliad rhanbarthol dros Ogledd Cymru. Llyr yw Cadeirydd Pwyllgor Cyllid Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar hyn o bryd.

 


Am fwy o wybodaeth am waith y Pwyllgor Cyllid, ewch i dudalen y Pwyllgor neu i @SeneddCyllid ar Twitter.