Cyfranogiad yn y Celfyddydau

Cyhoeddwyd 26/03/2012   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 26/03/2012

[caption id="attachment_105" align="alignleft" width="300" caption="Cofio - Celfyddydau Cymunedol RhCT"][/caption] Yn ddiweddar, mae’r Tîm Allgymorth wedi bod yn gweithio gyda nifer o grwpiau celfyddyd lleol ar draws y wlad i glywed eu barn ar ymchwiliad i Gyfranogiad yn y Celfyddydau. Mae cyfranogwyr a chynrychiolwyr o Gelfyddydau Cymunedol Rhondda Cynon Taf, Canolfan Grefft Rhuthun, Y Galeri, Celf o Gwmpas, Arts Alive, Arts 4 Wellbeing a’r Rhwydwaith Sector Gwirfoddol i Bobl Croenddu Cymru oll wedi bod ynghlwm â chyfres o grwpiau ffocws a gafodd eu hwyluso gan Kevin Davies, Lowri Williams a Cheri Kelly; Rheolwyr Allgymorth De Orllewin Cymru, Gogledd Cymru a Chanolbarth a Gorllewin Cymru, yn ôl eu trefn. Roedd dros 190 o bobl ynghlwm wrth yr ymgynghoriad, a fydd yn cyfrannu at waith y Grŵp Gorchwyl a Gorffen a sefydlwyd gan y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol. Cynhaliwyd y sesiwn gyntaf gyda phrosiect Cofio Celfyddydau Cymunedol RhCT; cynhyrchiad theatr dawns i oedolion hŷn am hel atgofion a sefydlwyd gan Gelfyddydau Cymunedol RhCT ym mis Mai 2012. Mae’r prosiect ar gyfer oedolion hŷn, rhwng 60 a 94 oed, sy’n byw yng nghymunedau'r Maerdy, Glynrhedynog, Tylorstown, Stanleytown, Ynys-hir a Threbanog. Isod mae dyfyniadau gan bobl a gymerodd ran yn y sesiwn: “Mae bod ynghlwm wrth Cofio wedi cael effaith dwys a pharhaol - rydym wedi datblygu sgiliau newydd sydd wedi cael effaith arwyddocaol ar ein hyder, gweithgarwch corfforol, gallu deallusol, emosiynau, sgiliau cymdeithasu a’n cof.” (Eva) “Mae agwedd gymdeithasol Cofio a’r rhyngweithio creadigol gydag eraill yn rhoi teimlad o les a phwrpas i chi - cerrig milltir ac atgofion yn cael eu rhannu drwy adrodd ein straeon drwy ddawns a drama.” (Iris) “Rwy’n swil iawn, ond mae mynd i Cofio yn golygu fy mod yn gadael y tŷ bob wythnos, yn cwrdd â phobl a dod i’w hadnabod yn well, ac mae hefyd yn helpu fy symudedd. Mae’r rhyngweithio cymdeithasol gydag eraill wedi fy helpu i siarad mwy - nid wyf mor swil bellach.” (Pam)