Mae eich Senedd yn newid
Bydd yr etholiad ar 7 Mai 2026 yn gweld y newid mwyaf i'r Senedd ers 25 mlynedd. Bydd pleidleiswyr yn ethol 96 o Aelodau i etholaethau newydd, a hynny trwy ddefnyddio system bleidleisio wahanol.
Gyda blwyddyn i fynd, dyma bum peth allweddol y mae angen i chi eu gwybod:
- 96 Aelod
O’r etholiad ym mis Mai 2026, bydd gan y Senedd 96 o Aelodau yn lle 60. - System bleidleisio newydd
Bydd gan bawb 16 oed a hŷn un bleidlais i ddewis plaid wleidyddol neu ymgeisydd annibynnol. Ar ddiwrnod yr etholiad, bydd eich papur pleidleisio yn dangos y rhestr lawn o ymgeiswyr yn eich etholaeth, fel y gallwch weld pwy sy’n sefyll yn eich ardal. - Etholaethau newydd
Bydd gan Gymru 16 etholaeth. Bydd pob etholaeth yn ethol chwe Aelod. - Rheolau newydd
Rhaid i bob ymgeisydd yn yr etholiad fyw yng Nghymru. - Etholiadau amlach
Bydd etholiadau’r Senedd yn cael eu cynnal bob pedair blynedd.
Pam mae newid yn digwydd?
Ers ei sefydlu 25 mlynedd yn ôl, mae’r Senedd wedi cael yr un nifer o Aelodau, ond mae ei chyfrifoldebau wedi cynyddu.
Mae bellach yn gallu deddfu a phennu trethi – penderfyniadau sy’n effeithio ar fywyd pob un ohonom yng Nghymru.
Bydd cael mwy o Aelodau yn gwella gallu’r Senedd i herio ac edrych ar gynlluniau Llywodraeth Cymru a’i gwariant ar faterion pwysig fel ysbytai, ysgolion a thrafnidiaeth.
Bydd cael 96 o Aelodau yn golygu y bydd y Senedd yn debycach i wledydd eraill o faint tebyg i Gymru, fel yr Alban sydd â 129 o Aelodau a Gogledd Iwerddon sydd â 90.
Pam mae hyn yn bwysig?
Mae gan Gymru ei senedd ei hun – sef Senedd Cymru. Mae hyn yn golygu mai Senedd Cymru, nid Senedd y DU, sy’n gwneud cyfreithiau i Gymru mewn llawer o feysydd, gan gynnwys:
- ysbytai a meddygon teulu
- ysgolion
- trafnidiaeth ffyrdd a rheilffyrdd
- ffermio ac anifeiliaid
- yr amgylchedd
- y Gymraeg
Mae cyfreithiau Cymru yn ystyried y sefyllfa yng Nghymru, a all fod yn wahanol i rannau eraill o'r DU.
Mae cyfreithiau sydd wedi cael eu pasio gan y Senedd ar gyfer Cymru, ond nid Lloegr, yn cynnwys cyflwyno taliadau am fagiau siopa untro (y wlad gyntaf yn y DU i wneud hynny), y terfyn cyflymder o 20mya, a’r gwaharddiad ar daro plant.
Mae hyn yn golygu bod gan yr Aelodau y byddwch yn eu hethol ym mis Mai 2026 y pŵer i wneud penderfyniadau am bethau sy'n effeithio ar bawb yng Nghymru.
Sut y gallaf gael rhagor o wybodaeth?
Gwybodaeth gyffredinol
Etholaethau newydd
System bleidleisio newydd
- Sut bydd y system bleidleisio newydd yn gweithio yn etholiad y Senedd yn 2026?
- Etholiad y Senedd 2026: Beth yw fformiwla D'Hondt a sut mae'n gweithio?