Cyfrifon Cyhoeddus: Sicrhau bod llywodraethau'n gwario eich arian yn ddoeth.

Cyhoeddwyd 05/09/2017   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 05/09/2017

Adeilad y Pierhead ar fachlud haul ym Mae Caerdydd Heb waith craffu ar gyfrifon cyhoeddus, ni fyddai achosion o osgoi treth fel gan Amazon a Starbucks wedi cael eu dwyn i oleuni. Yn ogystal â bod yn berthnasol i swyddogion ac archwilwyr, mae hefyd yn rhywbeth sy’n bwysig i bawb. Mae'n fater o fynd ar drywydd ble a sut y caiff eich trethi eu gwario. Mae'r arian hwn yn cael ei wario ar ran pawb, a hynny ar lefel genedlaethol, drwy weinyddiaethau datganoledig, drwy lywodraethau rhanbarthol ac ar lefel leol. Yn yr holl achosion hyn, mae gwleidyddion etholedig yn penderfynu sut i wario ein harian, ac mae'n hanfodol bod y gwariant hwn yn cael ei fonitro i sicrhau ei fod yn effeithiol ac yn effeithlon Mae'r rôl hon yn golygu bod y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn San Steffan yn dwyn y teitl 'Brenhines y Pwyllgorau Dethol', ac fel y dywedodd Margaret Hodge AS mewn gohebiaeth â Gus O'Donell (Pennaeth Gwasanaeth Sifil y DU gynt), 'Mae'n ddyletswydd ar y Pwyllgor i weithio er budd y cyhoedd a'r trethdalwr yn ddi-ofn, pryd bynnag a lle bynnag yr ydym yn credu bod hynny'n angenrheidiol'. Heb y gwaith hwn o alw i gyfrif, ni fyddai'r achosion diweddar o osgoi trethi gan gorfforaethau mawr wedi cael eu dwyn i'r parth cyhoeddus, ac efallai na fyddai'r cyfle wedi codi i holi unrhyw un am fethiannau prosiectau a ariannwyd yn gyhoeddus fel Cronfa Buddsoddi Cymru mewn Adfywio.
'Wnes i erioed feddwl y byddwn i'n mwynhau gwaith a oedd, ar yr olwg gyntaf, yn ymddangos i fod yn waith archwilio sych iawn, yn monitro gwariant y llywodraeth' - Y Fonesig Margaret Hodge AS
Y Senedd ym Mae Caerdydd

Digwyddiad y Rhwydwaith Cyfrifon Cyhoeddus

Mae Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn falch o fod yn cynnal cyfarfod cyntaf y rhwydwaith cyfrifon cyhoeddus. Mae bod yn aelod o'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn gyfrifoldeb mawr, ac felly rydym ni fel Pwyllgor eisiau sicrhau ein bod yn barod am yr her, ac yn gwneud ein gorau glas i sicrhau bod eich arian chi'n cael ei wario mewn ffordd gyfrifol. Ddydd Llun 18 Medi, byddwn yn dod ag ystod eang o bobl ynghyd sydd â diddordeb mewn pwyllgorau cyfrifon cyhoeddus, i ddysgu oddi wrth ei gilydd, datblygu sgiliau newydd a rhannu arfer gorau. Bydd cynrychiolwyr o bob rhan o'r DU a thu hwnt yn trafod sut rydym yn gwneud y gwaith pwysig hwn ar hyn o bryd, a’r hyn y mae modd ei wneud yn well. Bydd gennym nifer o wahanol sesiynau yn ystod y dydd, gan gynnwys:
  • Prif araith gan y Fonesig Margaret Hodge AS - Beth sy'n gwneud Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus effeithiol? Bydd Margaret Hodge yn trafod ei phum mlynedd fel Cadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn San Steffan, a'i hymdrech i geisio ailgysylltu'r Senedd â phobl fel pleidleiswyr, trethdalwyr a dinasyddion drwy roi llais i'r materion sy'n bwysig iddyn nhw.
  • Trafodaeth panel – ‘Perthynas sy'n gweithio’ – Rôl yr Archwilwyr yng ngwaith y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus Cadeirydd: Anthony Barrett, Archwilydd Cyffredinol Cynorthwyol, Swyddfa Archwilio Cymru
  • Astudiaeth Achos Academaidd –‘Effeithiolrwydd cymharol Pwyllgorau Cyfrifon Cyhoeddus datganoledig y DU’ Helen Foster, FCA, BA(Anrh), MPA, FHEA Darlithydd mewn Cyfrifeg - Ysgol Fusnes Prifysgol Ulster
  • Ochr arall Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus – Safbwynt tyst James Price, Dirprwy Ysgrifennydd Parhaol, Grŵp yr Economi, Sgiliau a Chyfoeth Naturiol, Llywodraeth Cymru
Mae'r agenda llawn ar gael yma.

Cymryd rhan

Cyn y digwyddiad, mae croeso i chi anfon y cwestiynau am gyfrifon cyhoeddus yr hoffech eu gweld yn cael eu hateb, fel:
  • Sut mae pwyllgorau cyfrifon cyhoeddus yn gweithio?
  • Pa adroddiadau sy'n cael eu llunio gan archwilwyr cyffredinol neu bwyllgorau cyfrifon cyhoeddus?
  • Pa dechnegau a dulliau y dylid eu defnyddio i fonitro gwariant gan lywodraethau?
  • Neu unrhyw gwestiynau yr hoffech eu holi i'r rheini sy'n gyfrifol am wario eich arian.
Anfonwch eich cwestiynau ar Twitter drwy ddefnyddio #SeneddPAC neu e-bostiwch SeneddArchwilio@cynulliad.cymru Yna byddwn yn gallu mynd â'ch cwestiynau i'r digwyddiad ar 18 Medi a'u bwydo i'r trafodaethau.

Digwyddiad

Lleoliad: Y Pierhead, Bae Caerdydd Dyddiad: 18 Medi 2017 Amser: 9:30 – 4:00pm Os oes gennych ddiddordeb yn y digwyddiad, mae nifer gyfyngedig o leoedd ar gael. I gadw lle, y manylion cyswllt yw: SeneddArchwilio@cynulliad.cymru Gallwch weld y diweddaraf ar y dydd ar ein ffrwd Twitter a gallwch ymuno â'r sgwrs drwy ddefnyddio #SeneddPAC