Cyhoeddwyd 02/12/2015
  |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024
Yma yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru, rydym bob amser yn chwilio am ffyrdd newydd o rannu gwybodaeth mewn ffordd gyffrous ac arloesol. Eleni, dechreuom ddefnyddio rhaglen o'r enw Slate (gan Adobe) i greu crynodebau o'r adroddiadau a lunnir gan ein pwyllgorau.
Mae ein deunydd ar Slate wedi bod yn llwyddiannus iawn - yn gymaint felly nes i Adobe ein gwneud ni'n
Llysgennad ar gyfer Slate!
Beth yw Slate?
Platfform sy'n galluogi sefydliadau i greu a rhannu adroddiadau, gwybodaeth a chyflwyniadau rhyngweithiol yw Slate. Mae ganddo ryngwyneb hygyrch ac mae modd ei ddefnyddio ar sawl platfform. Mae'r Cynulliad wedi defnyddio Slate i rannu gwaith helaeth a chymhleth pwyllgorau'r Cynulliad mewn fformat difyr sy'n hawdd ei ddefnyddio.
Llwyddiant Slate
Yn dilyn yr ymchwiliad diweddar i Gamddefnyddio Alcohol a Sylweddau yng Nghymru, roedd Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Cynulliad am rannu ei ganfyddiadau. Defnyddiodd y Cynulliad
Slate i greu
crynodeb o waith y pwyllgor. Gan ddefnyddio delweddau trawiadol a chynnwys addysgiadol, crëwyd adroddiad amlblatfform a chanddo ryngwyneb cyfeillgar.
"Mae'n anhygoel gweld y pethau gwych y mae pobl (fel Cynulliad Cenedlaethol Cymru) yn eu gwneud gyda'r adnodd" - Tîm Rhaglen Slate
Bellach, mae Slate wedi ei ddefnyddio i gyflwyno canfyddiadau nifer o bwyllgorau'r Cynulliad gan gynnwys
ymchwiliad y Pwyllgor Cyllid a oedd yn ystyried a ddylai'r Ombwdsmon gael rhagor o bwerau ac ymchwiliad y
Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol i sut y gellir lleihau tlodi yng Nghymru.
Dysgwch ragor am
waith pwyllgorau Cynulliad Cenedlaethol Cymru.