Dathlu 100 mlynedd ers Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1918

Cyhoeddwyd 06/02/2018   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 06/02/2018

Er mwyn coffáu 100 mlynedd ers i Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1918 gael Cydsyniad Brenhinol, mae'r Dirprwy Lywydd Ann Jones AC (@ann_jonesAM) yn trafod pwysigrwydd symudiad pleidleisio menywod yng Nghymru. Mae 6 Chwefror 2018 yn nodi can mlynedd ers rhoi Cydsyniad Brenhinol i Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1918. Rhoddodd y Ddeddf hon yr hawl fenywod bleidleisio, cyn belled â'u bod dros 30 oed a'u bod hwy neu eu gwŷr yn bodloni cymhwyster eiddo. Prin fod modd galw'r Ddeddf, a gynyddodd yr etholaeth gan fwy na 8 miliwn o bobl, yn gydraddoldeb, ond roedd yn gam mawr ymlaen ar y daith tuag at roi'r bleidlais lawn i fenywod, a ddaeth yn y pen draw yn 1928. I nodi'r canmlwyddiant, caiff rhaglen o ddigwyddiadau, arddangosfeydd a gweithgareddau eraill ei chynnal ar draws Cymru a'r Deyrnas Unedig.

Menywod, Cymru a Gwleidyddiaeth

Rwy'n teimlo'n angerddol dros ben ynglŷn â hyrwyddo rôl menywod mewn cymdeithas.  Felly, rwyf wedi sefydlu gweithgor Cymru, Menywod a Gwleidyddiaeth o Aelodau Cynulliad benywaidd. Drwy gydweithio â rhanddeiliaid allweddol yn y sector, byddwn yn gweithio i gyflwyno rhaglen o ddigwyddiadau a gweithgareddau i ymchwilio i hanes y mudiad pleidlais i fenywod yng Nghymru, ac yn sicrhau bod sylw'n cael ei roi i'r rôl y mae menywod yn ei chwarae mewn cymdeithas ddinesig yng Nghymru. Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru eisoes wedi ennill cydnabyddiaeth ryngwladol am hybu cydraddoldeb rhywiol. Yn 2003, dyma oedd y senedd gyntaf yn y byd â'r un nifer o ddynion a menywod.  Yn anffodus, mae'r Cynulliad wedi gweld dirywiad graddol yn nifer yr Aelodau Cynulliad benywaidd, gyda menywod yn eistedd mewn dim ond 26 o'r 60 sedd yn y siambr ar hyn o bryd. Er bod y Cynulliad yn parhau i fod yn arweinydd rhyngwladol ym maes cynrychiolaeth i fenywod, mae'r dirywiad yn nifer y menywod sy'n cynrychioli pobl Cymru yn peri pryder. Felly, roedd yn ddiddorol clywed yr Athro Laura McAllister a'i chyd-aelodau’n argymell cynnwys system cwota yn y system etholiadol yn yr adroddiad diweddar, "Senedd sy'n Gweithio i Gymru".

Dathlu llwyddiannau menywod ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod

Bydd ein gweithgarwch yn canolbwyntio yn y tymor byr ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod (8 Mawrth), sef diwrnod byd-eang sy'n dathlu llwyddiannau cymdeithasol, economaidd, diwylliannol a gwleidyddol menywod. Mae'r diwrnod hefyd yn nodi galwad i weithredu i symud yn gynt tuag at gydraddoldeb yn niferoedd y dynion a menywod. Bydd y Senedd yn cynnal arddangosfa sy'n adrodd hanes y mudiad pleidlais i fenywod yng Nghymru a darlith gan Dr Ryland Wallace, yr awdurdod blaenllaw ar y mudiad yng Nghymru. Byddwn hefyd yn gweithio mewn partneriaeth ag Opera Cenedlaethol Cymru i lansio 'Rhondda Rips It Up!', opera a gomisiynwyd o'r newydd i bortreadu bywyd Margaret Haig Thomas, un o ffigurau mwyaf amlwg y mudiad pleidlais i fenywod i Gymru. Ann Jones AM                                                                                                                                                                Dirprwy Lywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru